Neidio i'r cynnwys
Adroddiadau

Ethnigrwydd ac iechyd yng Nghymru

Manylion:

Awduron: James Allen, Ruth Davies, Rhys Gibbon, Mari Ann Jones

Cyhoeddwyd ar: 1af Mai 2015

Mae Cymru yn llai amrywiol o ran ethnigrwydd nag unrhyw un o ranbarthau Lloegr ac eithrio’r Gogledd Ddwyrain. Mae’n hysbys bod iechyd grwpiau ethnig leiafrifol yn y DU yn tueddu i fod yn waeth nag iechyd y boblogaeth gwyn; mae mynd i’r afael ag anghydraddoldebau yn bwysig iawn wrth gau’r bwlch iechyd hwn.

Mae’r adroddiad Ethnigrwydd ac Iechyd yng Nghymru ar gael i gynorthwyo darparwyr gwasanaethau a llunwyr polisi i gael gwell dealltwriaeth o anghenion y grwpiau hyn, gyda’r bwriad o leihau anghydraddoldebau a gwella canlyniadau. Mae’n cynnig disgrifiad o gyfansoddiad ethnig Cymru, ynghyd â gwybodaeth am benderfynyddion iechyd a chanlyniadau iechyd y maent yn eu profi, gan ddefnyddio Cyfrifiad 2011 fel ffynhonnell ddata.

Dywedodd Nathan Lester, Pennaeth Tîm Dadansoddi’r Arsyllfa mai Cyfrifiad 2011 yw’r ffynhonnell gyfoethocaf o wybodaeth am ethnigrwydd yng Nghymru. Mae’r tîm wedi defnyddio data’r Cyfrifiad i roi trosolwg o ddemograffeg, iechyd a phenderfynyddion grwpiau ethnig yng Nghymru. Mae darparu gwybodaeth fel hyn yn chwarae rhan bwysig wrth ddeall ac ymateb i anghenion grwpiau ethnig yng Nghymru.

Lawrlwythiadau adroddiadau

Ethnigrwydd ac iechyd yng Nghymru (Saesneg yn unig)

PDF, 3MB

Llawrlwytho PDF - Ethnigrwydd ac iechyd yng Nghymru (Saesneg yn unig) (3 MB)

Llawrlwytho PDF

Adroddiadau perthnasol

Yn ôl i'r brig

Setiau data cysylltiedig

Yn ôl i'r brig