Cynyddodd anghydraddoldebau mewn disgwyliad oes tra bo anghydraddoldebau mewn disgwyliad oes iach wedi aros yn sefydlog
Cyhoeddwyd ar: 9fed Mehefin 2022
Negeseuon allweddol
- Roedd nifer y marwolaethau yn sylweddol uwch yn 2020 oherwydd COVID-19, a bydd hyn yn effeithio ar amcangyfrifon disgwyliad oes.
- Y disgwyliad oes yng Nghymru yn 2018–2020 oedd 82 mlynedd i fenywod a 78 mlynedd i ddynion.
- Yn 2018–2020, roedd y disgwyliad oes i fenywod ar ei lefel isaf ers dechrau’r cyfnod adrodd (2011–2013).
- Y disgwyliad oes iach oedd 62 mlynedd i fenywod a 61 mlynedd i ddynion yn 2018–2020.
- Mae dynion yn treulio mwy o’u bywydau mewn iechyd da (78.5%) o gymharu â menywod (76.0%).
- Mae’r bwlch mewn disgwyliad oes rhwng y boblogaeth mwyaf a lleiaf difreintiedig yng Nghymru wedi bod yn cynyddu yn gyffredinol dros y blynyddoedd diwethaf. Mae hyn ar gyfer dynion a menywod, sy’n awgrymu anghydraddoldeb cynyddol. Roedd y bwlch anghydraddoldeb dros flwyddyn yn fwy i ddynion nag yr oedd i fenywod.
- Mae’r bwlch mewn disgwyliad oes iach wedi aros yn gymharol sefydlog rhwng 2011–2013 a 2018–2020 ar gyfer dynion a menywod. Roedd y bwlch i fenywod dros dair blynedd a hanner yn fwy na’r bwlch i ddynion.
Gweld y Disgwyliadau iechyd yng Nghymru gyda bwlch anghydraddoldeb
Dealltwriaeth
Gallai’r cyfraddau marwolaethau uwch yn 2020 yn sgil pandemig COVID-19 fod yn gyfrifol am rywfaint o’r gwaethygiad o ran amcangyfrifon disgwyliad oes yn 2018–2020. Er hyn, rydym wedi gweld gwelliant mewn disgwyliad oes yn rhewi fel hyn cyn y pandemig, a hynny yn adroddiad disgwyliad oes a marwolaethau yng Nghymru 2020. Dyma rai o’r esboniadau posibl a gynigwyd i egluro’r gwaethygiad yn nisgwyliadau iechyd a’r ehangiad yn anghydraddoldebau: twf cyflog isel, tlodi tanwydd, ansicrwydd bwyd, a’r cyfnod o lymder yng Nghymru ers 2010/11, fel yr amlygwyd gan Syr Michael Marmot 1. Mae’r cynnydd diweddar mewn costau byw yn bwysau ychwanegol a allai ehangu anghydraddoldebau mewn disgwyliadau iechyd ymhellach, gan nad yw aelwydydd incwm isel yn gallu fforddio angenrheidiau sylfaenol megis bwyd a gwres i gynnal safon byw sy’n weddus.
Mae ‘Cymru Fwy Cyfartal’ yn un o saith nod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae disgwyliad oes, disgwyliad oes iach a’u bylchau anghydraddoldeb yn ddangosyddion pwysig i helpu i fesur anghydraddoldebau mewn iechyd, ac maent wedi’u cynnwys yn y Fframwaith Canlyniadau Iechyd y Cyhoedd.
Ynglŷn â’r dull
Disgwyliadau iechyd
Mae disgwyliad oes yn fesur o’r blynyddoedd bywyd y gall babanod newydd-anedig eu disgwyl ar gyfartaledd, a hynny’n seiliedig ar gyfraddau marwolaethau a nodwyd yn ddiweddar. Mae disgwyliad oes iach yn cynrychioli’r nifer o flynyddoedd y gallai person ddisgwyl byw mewn iechyd da neu dda iawn. Mae’r ddau fesur yn amcangyfrifon ar gyfer y boblogaeth gyffredinol.
Caiff y bwlch mewn disgwyliadau iechyd ei gyfrifo trwy fesur y gwahaniaeth absoliwt rhwng y pumed lleiaf difreintiedig a’r pumed mwyaf difreintiedig. Mae’r dull a ddefnyddir wedi newid ers y cyhoeddiadau disgwyliadau iechyd blaenorol, er mwyn gwella sefydlogrwydd y mesur ar lefel awdurdod lleol. Roedd y bwlch yn arfer cael ei gyfrifo gan ddefnyddio’r Mynegai Slope ar gyfer Anghydraddoleb (SII). Mae Swyddfa Ystadegau Gwladol yn parhau i gyhoeddi’r SII ar lefel genedlaethol fel rhan o’u rhyddhad HLE (Saesneg yn unig). Mae’n bwysig cofio ei bod yn anochel y bydd byrddau iechyd ac awdurdodau lleol sy’n cynnwys gwahaniaethau mwy eithafol mewn lefelau amddifadedd yn arwain at fylchau ehangach mewn disgwyliadau iechyd, o’i gymharu ag ardaloedd sy’n fwy unffurf yn gymdeithasol-economaidd.
Mae rhagor o fanylion am y dull gwahaniaeth absoliwt a’i gymharu â’r SII ar gael. Er bod y bwlch yn fesur defnyddiol o anghydraddoldeb rhwng y lleiaf a’r mwyaf difreintiedig, mae’n bwysig ystyried holl fesurau disgwyliad iechyd.
Mynegai amddifadedd lluosog Cymru
Mae disgwyliadau iechyd yn cael eu cyfrifo yn ôl amddifadedd, a hynny gan ddefnyddio Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru 2019, sef mesur swyddogol Llywodraeth Cymru o amddifadedd cymharol ar gyfer ardaloedd bach yng Nghymru. Ar gyfer disgwyliadau iechyd ar lefel Cymru, mae pumedau amddifadedd cenedlaethol yn cael eu defnyddio. I greu’r pumedau, caiff holl ardaloedd bach Cymru wedi’u rhannu’n bum band amddifadedd cyfartal. Mae ffigurau bwrdd iechyd ac awdurdodau lleol yn defnyddio pumedau amddifadedd lleol. Mae pumed lleol yn wahanol i’r pumed cenedlaethol yn y ffaith bod y pum band cyfartal o amddifadedd yn cael eu hailgyfrifo ar gyfer yr ardaloedd bach o fewn pob bwrdd iechyd a ffiniau’r awdurdod lleol, yn hytrach na defnyddio’r pumed cenedlaethol. Mae hyn yn ddefnyddiol ar gyfer dull mwy lleol o gynhyrchu disgwyliadau iechyd.
Ystyriaethau data
Mae disgwyliad oes iach yn cyfuno disgwyliad oes a data o arolygon iechyd da y mae cleifion yn eu cwblhau. Mae’r ymatebion i gwestiynau ar gyflwr iechyd yn oddrychol. Hefyd, roedd rhai bylchau yn nata’r arolwg a oedd angen eu haddasu, yn enwedig ar lefel yr awdurdod lleol.
1 Marmot, M., Allen, J., Boyce, T., Goldblatt, P., Morrison, J. (2020). Health equity in England: The Marmot Review 10 years on. London: Institute of Health Equity.
Gweld y Disgwyliadau iechyd yng Nghymru gyda bwlch anghydraddoldeb
Cysylltu â ni
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein cynnyrch er mwyn sicrhau eu bod yn hawdd eu defnyddio. Os oes gennych unrhyw sylwadau neu adborth, cysylltwch â ni drwy e-bostio [email protected].
Adroddiadau perthnasol
-
Dangosfwrdd iechyd a lles plant ysgolion uwchradd
Cyhoeddiad nesaf: I’w gyhoeddi Cysylltiad ar gyfer ymholiadau ac adborth Rhagymadrodd Mae hwn yn ddarn o waith cydweithredol rhwng y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion ac Iechyd Cyhoeddus Cymru. Bydd […]
Cyhoeddwyd: 27ain Tachwedd 2025
-
Llunio dyfodol cartrefi yng Nghymru sy’n iach i blant a theuluoedd fyw ynddynt: Crynodeb o’r gwaith ymgysylltu â rhanddeiliaid
Mae’r papur hwn yn nodi’r gwaith y mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi’i wneud ochr yn ochr â rhanddeiliaid tai eraill i ddychmygu dyfodol o gartrefi iachach, yn enwedig i’r rhai […]
Cyhoeddwyd: 5ed Awst 2025
-
Incwm sylfaenol i wella iechyd a llesiant y boblogaeth yng Nghymru?
Mae’r adroddiad ‘Incwm sylfaenol i wella iechyd a llesiant y boblogaeth yng Nghymru?’ yn ystyried amrywiaeth o dystiolaeth ac yn trafod effeithiau posibl ar iechyd a llesiant. Mae hefyd yn […]
Cyhoeddwyd: 22ain Mehefin 2021
-
Brexit a thlodi yng Nghymru: Drwy lens iechyd y cyhoedd
Mae’r adroddiad hwn gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ceisio cryfhau gwybodaeth a dealltwriaeth o oblygiadau ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd – ‘Brexit’ – ar dlodi, ac iechyd a […]
Cyhoeddwyd: 22ain Medi 2021
-
Adroddiad sganio a dysgu gorwelion rhyngwladol: Ysgogwyr cyllidol i fynd i’r afael â gordewdra – adroddiad 51
Dechreuwyd yr adroddiadau Sganio a Dysgu Gorwelion Rhyngwladol fel rhan o’r ymateb iechyd y cyhoedd i COVID-19, i gefnogi ymateb deinamig a mesurau adfer a chynllunio yng Nghymru. Yng ngwanwyn […]
Cyhoeddwyd: 16eg Ionawr 2025
-
Dinasyddiaeth fyd-eang ar gyfer gweithwyr iechyd proffesiynol Cymru – gwerthusiad hyfforddiant
Mae’r adroddiad gwerthuso hwn yn amlinellu canlyniadau’r peilot o gyrsiau Hyfforddi Dinasyddiaeth Fyd-eang i weithwyr iechyd proffesiynol GIG Cymru. Mae’r cynlluniau peilot yn adeiladu ar holiadur cwmpasu o 2015 lle […]
Cyhoeddwyd: 1af Mawrth 2017
Setiau data cysylltiedig
-
Data dangosfwrdd iechyd a lles plant ysgolion uwchradd
Adolygwyd ddiwethaf: Tachwedd 27, 2025
-
Disgwyliadau iechyd yng Nghymru gyda bwlch anghydraddoldeb
Adolygwyd ddiwethaf: Mehefin 9, 2022