Cymharu dau ddull bwlch anghydraddoldeb
Awduron: Arthur Duncan-Jones, Bethan Patterson, Rachel Burton, Rhian Hughes, Lloyd Evans, Nathan Lester
Cyhoeddwyd ar: 9fed Mehefin 2022
- Cymru Gyfan/Cenedlaethol
Mae disgwyliad oes yn fesur o flynyddoedd disgwyliedig bywyd ar gyfartaledd ar gyfer baban newydd-anedig yn seiliedig ar gyfraddau marwolaeth a arsylwyd yn ddiweddar. Mae disgwyliad oes iach yn cynrychioli nifer y blynyddoedd y disgwylir i berson fyw mewn iechyd da neu dda iawn. Amcangyfrifon ar gyfer y boblogaeth yn gyffredinol yw’r ddau fesur.
Cyfrifir y bwlch mewn disgwyliadau iechyd fel y gwahaniaeth absoliwt rhwng y pumedau lleiaf a mwyaf difreintiedig. Mae’r dull wedi newid ers rhyddhau disgwyliadau iechyd blaenorol, i wella sefydlogrwydd y mesur ar lefel awdurdod lleol. Cyfrifwyd y bwlch yn flaenorol gan ddefnyddio Mynegai Goleddf Anghydraddoldeb (MGA). Mae ONS yn parhau i gyhoeddi’r MGA ar lefel genedlaethol fel rhan o’u datganiad DOI (Saesneg yn unig). Mae’n bwysig cofio y bydd byrddau iechyd ac awdurdodau lleol sydd yn cynnwys gwahaniaethau mwy eithafol o ran lefelau amddifadedd yn anochel yn arwain at fylchau ehangach mewn disgwyliadau iechyd, o’u cymharu ag ardaloedd sydd yn fwy tebyg yn economaidd-gymdeithasol.
Cyflwyniad
Mae disgwyliad oes (LE), disgwyliad oes iach (HLE) a’u bylchau anghydraddoldeb yn ddangosyddion pwysig yn y Fframwaith Canlyniadau Iechyd Cyhoeddus (PHOF). Mae’r bwlch anghydraddoldeb mewn disgwyliad oes iach yn ddangosydd cenedlaethol yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, a oedd yn cael ei gyfrifo gan ddefnyddio’r Mynegai ‘Slope’ ar gyfer Anghydraddoldeb (SII).
Arferai Arsyllfa Iechyd Cyhoeddus Cymru (PHWO) ddefnyddio Arolwg Iechyd Cymru (WHS) i fesur disgwyliad oes iach a’i fwlch anghydraddoldeb, ond nid yw hyn yn bosibl mwyach ers i Arolwg Iechyd Cymru ddod i ben yn 2015. Yn lle hynny, penderfynodd yr Arsyllfa ddefnyddio’r un arolwg â’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS), sef yr Arolwg Poblogaeth Blynyddol (APS).
Oherwydd pryderon ynghylch dilysrwydd y SII ar lefelau lleol, penderfynodd yr Arsyllfa hefyd fesur y bwlch anghydraddoldeb ar gyfer disgwyliad oes a disgwyliad oes iach gan ddefnyddio’r gwahaniaeth absoliwt rhwng y pumed â’r amddifadedd lleiaf a’r pumed â’r amddifadedd mwyaf. Bydd yr adroddiad hwn yn amlinellu’r gwahaniaethau rhwng y ddau ddull ac yn cymharu’r canlyniadau.
Lawrlwythiadau adroddiadau
Cymharu dau ddull bwlch anghydraddoldeb: Gwahaniaeth absoliwt a’r mynegai goleddf anghydraddoldeb
PDF, 429KB
Llawrlwytho PDF - Cymharu dau ddull bwlch anghydraddoldeb: Gwahaniaeth absoliwt a’r mynegai goleddf anghydraddoldeb (429 KB)
Llawrlwytho PDFAdroddiadau perthnasol
-
Dangosfwrdd iechyd a lles plant ysgolion uwchradd
Cyhoeddiad nesaf: I’w gyhoeddi Cysylltiad ar gyfer ymholiadau ac adborth Rhagymadrodd Mae hwn yn ddarn o waith cydweithredol rhwng y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion ac Iechyd Cyhoeddus Cymru. Bydd […]
Cyhoeddwyd: 27ain Tachwedd 2025
-
Llunio dyfodol cartrefi yng Nghymru sy’n iach i blant a theuluoedd fyw ynddynt: Crynodeb o’r gwaith ymgysylltu â rhanddeiliaid
Mae’r papur hwn yn nodi’r gwaith y mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi’i wneud ochr yn ochr â rhanddeiliaid tai eraill i ddychmygu dyfodol o gartrefi iachach, yn enwedig i’r rhai […]
Cyhoeddwyd: 5ed Awst 2025
-
Incwm sylfaenol i wella iechyd a llesiant y boblogaeth yng Nghymru?
Mae’r adroddiad ‘Incwm sylfaenol i wella iechyd a llesiant y boblogaeth yng Nghymru?’ yn ystyried amrywiaeth o dystiolaeth ac yn trafod effeithiau posibl ar iechyd a llesiant. Mae hefyd yn […]
Cyhoeddwyd: 22ain Mehefin 2021
-
Brexit a thlodi yng Nghymru: Drwy lens iechyd y cyhoedd
Mae’r adroddiad hwn gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ceisio cryfhau gwybodaeth a dealltwriaeth o oblygiadau ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd – ‘Brexit’ – ar dlodi, ac iechyd a […]
Cyhoeddwyd: 22ain Medi 2021
-
Adroddiad sganio a dysgu gorwelion rhyngwladol: Ysgogwyr cyllidol i fynd i’r afael â gordewdra – adroddiad 51
Dechreuwyd yr adroddiadau Sganio a Dysgu Gorwelion Rhyngwladol fel rhan o’r ymateb iechyd y cyhoedd i COVID-19, i gefnogi ymateb deinamig a mesurau adfer a chynllunio yng Nghymru. Yng ngwanwyn […]
Cyhoeddwyd: 16eg Ionawr 2025
-
Dinasyddiaeth fyd-eang ar gyfer gweithwyr iechyd proffesiynol Cymru – gwerthusiad hyfforddiant
Mae’r adroddiad gwerthuso hwn yn amlinellu canlyniadau’r peilot o gyrsiau Hyfforddi Dinasyddiaeth Fyd-eang i weithwyr iechyd proffesiynol GIG Cymru. Mae’r cynlluniau peilot yn adeiladu ar holiadur cwmpasu o 2015 lle […]
Cyhoeddwyd: 1af Mawrth 2017
Setiau data cysylltiedig
-
Data dangosfwrdd iechyd a lles plant ysgolion uwchradd
Adolygwyd ddiwethaf: Tachwedd 27, 2025
-
Disgwyliadau iechyd yng Nghymru gyda bwlch anghydraddoldeb
Adolygwyd ddiwethaf: Mehefin 9, 2022