Neidio i'r cynnwys
Adroddiadau

Dadansoddiad o bresgripsiynu gwrthficrobaidd yng ngwasanaethau deintyddol gofalsylfaenol GIG Cymru 2019 i 2025

Manylion:

Cyhoeddwyd ar: 20fed Tachwedd 2025

  • Cymru Gyfan/Cenedlaethol

Fel rhan o weledigaeth 20 mlynedd y DU i fynd i’r afael ag ymwrthedd gwrthficrobaidd (AMR), mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gyfres o Gynlluniau Gweithredu cenedlaethol pum mlynedd.

I gyd-fynd â’r ail o’r Cynlluniau Gweithredu AMR ar gyfer y DU (2024/25 – 2029/30), cyhoeddwyd cylchlythyr iechyd (WHC/2024/038) gan Lywodraeth Cymru. Roedd y cylchlythyr yn diffinio nodau gwella yn seiliedig ar ddata sylfaenol 2019/20. Un amcan allweddol oedd lleihau cyfanswm y defnydd o eitemau gwrthficrobaidd mewn gofal sylfaenol erbyn 2029/30. Roedd hyn yn gyson â gostyngiad o isafswm o 10% yn erbyn lefelau sylfaenol 2019/20.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cael y dasg o adrodd ar y cynnydd yn erbyn y nodau gwella hyn. Mae’r adroddiad hwn, a baratowyd gan y tîm Iechyd y Cyhoedd Deintyddol, yn cyflwyno’r sefyllfa bresennol o ran Deintyddiaeth y GIG yng Nghymru.

Hoffem gydnabod a diolch i Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (Gwasanaethau Gofal Sylfaenol) a Rhaglen Heintiau sy’n Gysylltiedig â Gofal Iechyd, Ymwrthedd Gwrthficrobaidd a Rhagnodi (HARP) Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Lawrlwythiadau adroddiadau

Dadansoddiad o bresgripsiynu gwrthficrobaidd yng ngwasanaethau deintyddol gofalsylfaenol GIG Cymru 2019 i 2025

PDF, 4MB

Llawrlwytho PDF - Dadansoddiad o bresgripsiynu gwrthficrobaidd yng ngwasanaethau deintyddol gofalsylfaenol GIG Cymru 2019 i 2025 (4 MB)

Llawrlwytho PDF

Adroddiadau perthnasol

Yn ôl i'r brig

Setiau data cysylltiedig

Ni chanfuwyd tudalennau data perthnasol

Yn ôl i'r brig