Canllaw i frechiadau COVID-19
Mae rhai pobl mewn mwy o berygl o salwch difrifol oherwydd COVID-19. Mae’r adnodd hon yn egluro beth yw’r brechlyn COVID-19, pwy sy’n gymwys i’w gael a sut i’w gael.
Beth yw COVID-19?
Mae COVID-19 yn glefyd anadlol heintus iawn a achosir gan feirws. Mae’n fwy difrifol mewn pobl hŷn a’r rhai â chyflyrau iechyd penodol. Mae’n fwy tebygol y bydd angen triniaeth ysbyty ar bobl sydd mewn mwy o berygl os byddant yn dal COVID-19.
Pam mae angen i rai pobl gael y brechlyn?
Fel rhai brechlynnau eraill, gall lefelau amddiffyniad ddechrau lleihau dros amser. Cynigir brechiad ddwywaith y flwyddyn i bobl sydd mewn perygl o fynd yn ddifrifol wael oherwydd COVID-19. Bydd y dosau hyn yn helpu i’ch diogelu am gyfnod hirach. Gall cael y brechlyn helpu i leihau’r risg o orfod mynd i’r ysbyty oherwydd COVID-19.