Offer asesu risg EAC – Meini prawf ar gyfer cwblhau asesiad risg lleol – Lleoliadau gofal sylfaenol a chleifion allanol
Medi 2024, Fersiwn 2a
Diben
Cefnogi practisiau a chyflogwyr byrddau iechyd/ymddiriedolaethau i gynnal asesiad risg o safleoedd
lleol yng nghyd-destun rheoli heintiau feirysol anadlol tymhorol gan ganolbwyntio ar y ffliw, SARSCoV-2 a Feirws Syncytiol Anadlol (RSV) ac unrhyw salwch anadlol acíwt arall (ARI) yn seiliedig ar
fesurau fel cânt eu blaenoriaethu yn yr hierarchaeth rheolaethau.
Mae hyn yn cynnwys y canlynol:
- Set o fesurau lliniaru risg wedi’u blaenoriaethu yn y drefn: dileu, amnewid, peirianneg,
rheolaethau gweinyddol, a chyfarpar diogelu personol (gan gynnwys cyfarpar diogelu anadlol
[RPE]). - Rhaid i asesiadau risg gael eu cynnal ym mhob maes gan berson cymwys sydd â’r sgiliau, yr
wybodaeth, a’r profiad i allu adnabod y peryglon sy’n gysylltiedig â chyfryngau anadlol heintus:
gall hwn fod yn gyflogwr, neu’n berson a benodwyd yn benodol i gwblhau’r asesiad risg. Dylid
cyfathrebu â gweithwyr yn ystod y broses hon ac ar ôl cwblhau’r asesiad risg.
Gellir defnyddio’r asesiad risg gorffenedig i lenwi systemau rheoli risg lleol.