Neidio i'r cynnwys

Brechiad meningococol B i atal gonoroea

Mae gonoroea yn haint a all ledaenu yn ystod gweithgarwch rhywiol heb gondom.

Mae brechlyn ar gael i helpu i amddiffyn rhag gonoroea. Yng Nghymru, mae’r GIG yn cynnig y brechlyn fesul achos i ddynion hoyw, deurywiol a dynion eraill sy’n cael rhyw gyda dynion (GBMSM).

Efallai y bydd pobl eraill hefyd yn gymwys i gael y brechlyn, yn seiliedig ar gyngor gan weithiwr proffesiynol iechyd rhywiol.

Byddwch yn cael cynnig y brechlyn os ydych:

  • wedi cael haint bacteriol o ganlyniad i ryw, fel clamydia neu gonoroea, yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, neu
  • wedi cael pump neu fwy o bartneriaid rhywiol yn ystod y tri mis diwethaf.

Gall y brechlyn helpu i leihau eich siawns o gael gonoroea ond ni fydd yn dileu’r risg yn llwyr. Mae hefyd yn helpu i amddiffyn rhag heintiau difrifol eraill, fel llid yr ymennydd a septisemia.

Gwybodaeth:

Gweithredu: Os ydych yn meddwl eich bod mewn perygl, siaradwch â’ch gwasanaeth iechyd rhywiol.

Gallwch ddod o hyd i restr o wasanaethau iechyd rhywiol yng Nghymru yn wefan GIG 111 Cymru (safle allanol). Cliciwch ar y tab ‘Iechyd Rhywiol ac Atgenhedlu’ i weld manylion y gwasanaethau.