Neidio i'r cynnwys

Diogelu plant a phobl ifanc gyda brechlyn ffliw chwistrell trwynol

Y brechlyn chwistrell drwynol yw’r brechlyn ffliw a argymhellir i’r rhan fwyaf o blant a phobl ifanc.

Bydd y rhan fwyaf o blant yn cael y brechlyn chwistrell drwynol yn yr ysgol. Efallai y bydd rhai plant yn cael pigiad yn lle hynny. Cael brechlyn ffliw yw’r ffordd orau o amddiffyn eich plentyn rhag mynd yn sâl iawn os bydd yn dal y ffliw. Mae’r daflen hon yn esbonio pam ei bod hi’n bwysig cael y brechlyn ffliw a sut y gall eich plentyn ei gael.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, neu os hoffech mwy o wybodaeth, gallwch ymweld â wefan GIG 111 Cymru (safle allanol), siaradwch â’ch meddyg neu nyrs neu cysylltwch â GIG 111 Cymru drwy ffonio 111.

Brechlyn ffliw chwistrell trwynol i blant a phobl ifanc – Fideo BSL