Beth i’w ddisgwyl ar ôl brechiadau
Mae’r daflen yma’n dweud wrthych chi am sgil-effeithiau cyffredin brechiadau a all ddigwydd mewn babanod a phlant ifanc hyd at bum mlwydd oed. Defnyddiwch yr wybodaeth yma fel canllaw yn unig. Dylech bob amser gael cyngor gan feddyg, ymwelydd iechyd neu nyrs os ydych yn poeni, neu cysylltwch â GIG 111 Cymru (safle allanol) drwy ffonio 111.
Mae adnoddau gyda mwy o wybodaeth am frechiadau ar gael ar dudalen imiwneiddio a brechlynnau.