Amddiffyn eich hun rhag feirws syncytiol anadlol – Dwyieithog
Oeddech chi’n gwybod? Wrth i chi fynd yn hŷn, mae eich risg o gael salwch difrifol o RSV yn cynyddu.
Bob blwyddyn, mae angen gofal ysbyty ar hyd at 1000 o bobl dros 75 oed oherwydd RSV – feirws cyffredin sy’n effeithio ar y llwybrau anadlu a’r ysgyfaint.
Gallai’r brechlyn RSV helpu i’ch amddiffyn rhag cael salwch difrifol os ydych chi:
- yn troi’n 75 oed ar 1 Medi 2024 neu ar ôl hynny, neu
- eisoes yn 75 i 79 oed ar 1 Medi 2024.
Peidiwch â cholli allan!
Mynnwch eich brechlyn RSV cyn gynted ag y byddwch yn derbyn eich gwahoddiad.
I gael gwybod mwy, ewch i dudlaen imiwneiddio a brechlynnau neu siaradwch â darparwr gofal iechyd.