Iechyd rhyngwladol
Er bod y termau ‘iechyd rhyngwladol’ ac ‘iechyd byd-eang’ yn aml yn cael eu defnyddio i olygu’r un peth, mae gwahaniaeth rhyngddynt. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cyfrannu at ymdrechion iechyd rhyngwladol ac iechyd byd-eang.
Mae iechyd rhyngwladol yn aml yn cwmpasu gweithgareddau sy’n digwydd y tu allan i’r wlad dan sylw, gan gynnwys cydweithredu trawsffiniol, a weithiau bydd y term yn cael ei ddefnyddio i gyfeirio at weithio gyda gwledydd incwm isel a chanolig ac ymdrechion cymorth tramor.
Mae Iechyd Byd-eang yn faes o astudio, gwaith ymchwil ac ymarfer sy’n rhoi blaenoriaeth i wella iechyd a chael tegwch iechyd i bawb ledled y byd, gan gynnwys y wlad dan sylw, pan nad yw problemau o reidrwydd wedi’u cyfyngu gan ffiniau cenedlaethol, a chael effaith fyd-eang (Koplan, JP et al. 2009).
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn darparu arweinyddiaeth ac yn cydlynu er mwyn gwella cyrhaeddiad ac effaith gweithgarwch iechyd byd-eang a rhyngwladol drwy ei Strategaeth Iechyd Ryngwladol. Dyma strategaeth sy’n galluogi Strategaeth Hirdymor Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Gallwch ddarllen mwy am y Strategaeth Iechyd Ryngwladol yn ein tudalennau gwybodaeth bellach. Caiff hyn ei hwyluso gan y Ganolfan Cydweithredu Iechyd Ryngwladol (IHCC). Mae’r IHCC yn dod â Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau’r GIG Cymru at ei gilydd i gysylltu, cydweithio ac i ddysgu gan bartneriaid rhyngwladol — gan gryfhau cysylltiadau byd-eang a rhannu gwybodaeth sydd o fudd i systemau iechyd ym mhobman. Darllenwch fwy am yr IHCC, ei waith, a’i gynnydd.
Gweithgareddau iechyd rhyngwladol
Dyma enghreifftiau o weithgareddau iechyd rhyngwladol sy’n cael eu cyflwyno trwy ymgysylltu rhithwir a phersonol:
Partneriaethau a chydweithredu rhyngwladol gan gynnwys rhwydweithiau Ewropeaidd a byd-eang
Cyfranogiad gweithredol o fewn Sefydliad Iechyd y Byd (WHO), EuroHealthNet, IANPHI, a fforymau rhyngwladol eraill i gyfnewid gwybodaeth ac i lywio polisi yng Nghymru. Gellir gweld manylion am bartneriaethau o fewn y DU ac yn rhyngwladol yma.
Cyfnewid gwybodaeth a dysg
Hwyluso fforymau, rhwydweithiau a chyhoeddiadau sy’n rhannu tystiolaeth ryngwladol, gwybodaeth ac arferion gorau i lywio gwella iechyd a lles a pholisi yng Nghymru ac i rannu profiad Cymru gyda’r byd.
Gwaith ymchwil, polisi ac eiriolaeth
Cyfrannu at waith ymchwil iechyd byd-eang, cyd-fynd â fframweithiau rhyngwladol megis Sefydliad Iechyd y Byd a’r Nodau Datblygu Cynaliadwy (Saesneg yn unig), a dylanwadu ar bolisïau i hyrwyddo tegwch, iechyd a lles.
Cyfnewid gweithlu a chyfleoedd datblygu
Galluogi lleoliadau gwaith rhyngwladol, gan gynnwys Cyfleoedd Dysgu Rhyngwladol Llywodraeth Cymru, teithiau cyfnewid a dysgu cydweithredol i gryfhau sgiliau’r gweithlu, arweinyddiaeth, a phrofiad iechyd cyhoeddus byd-eang.
Manteision gweithgarwch iechyd rhyngwladol:
- Gall rhannu gwybodaeth ac arferion ar draws ffiniau helpu i fynd i’r afael â heriau iechyd yn fwy effeithiol yng Nghymru, e.e. pandemigau, clefydau cronig ac anghydraddoldebau iechyd.
- Mae partneriaethau rhyngwladol yn darparu hyfforddiant, cyfnewidiad sgiliau, ac arloesedd a all gryfhau gwytnwch ac arweinyddiaeth yng ngweithlu system iechyd Cymru.
- Gellir addasu mynediad at waith ymchwil, technolegau a pholisïau byd-eang er mwyn gwella gwasanaethau a gofal cleifion yng Nghymru.
- Mae codi proffil Cymru yn rhyngwladol yn creu cyfleoedd ar gyfer cydweithio yn y dyfodol ac i gynhyrchu incwm posibl.
- Mae gweithio’n fyd-eang yn cefnogi canlyniadau iechyd tecach i bawb ac yn sicrhau bod Cymru yn cyd-fynd â blaenoriaethau byd-eang yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.
Mae’r IHCC yn dod â Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau’r GIG Cymru at ei gilydd i gysylltu, i gydweithio ac i ddysgu gan bartneriaid rhyngwladol — gan gryfhau cysylltiadau byd-eang a rhannu gwybodaeth sydd o fudd i systemau iechyd ym mhobman. Darllenwch fwy am yr IHCC, ei waith, a’i gynnydd.
Gwybodaeth am Iechyd Rhyngwladol
Mae International Health Insights (nternational Horizon Scanning gynt) yn trosi dysgu byd-eang yn weithredu lleol, gan helpu i gryfhau system iechyd cyhoeddus Cymru drwy gasglu gwybodaeth amserol ar faterion a thueddiadau allweddol. Dysgu mwy am International Health Insights a gweld yr holl adroddiadau sydd wedi’u cyhoeddi.
Cofrestrwch ar gyfer Rhwydwaith Iechyd Rhyngwladol a chylchlythyr Iechyd Cyhoeddus Cymru
Dysgwch am y newyddion iechyd rhyngwladol diweddaraf trwy gofrestru ar gyfer ein Cylchlythyr Iechyd Rhyngwladol. Gallwch ddarganfod mwy am y cylchlythyr a sut i danysgrifio yma.
Pynciau cysylltiedig
Mae iechyd a strategaeth ryngwladol yn cwmpasu llawer o bynciau, gan gynnwys; Profiadau niweidiol yn ystod plentyndod, Gwyddor ymddygiadol, Newid hinsawdd a chynaliadwyedd, Covid-19, Economeg iechyd a gwerth cymdeithasol, Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd, Polisi, ac Atebion ar gyfer tegwch iechyd.
E-ddysgu
Mae modiwl e-ddysgu ar ddinasyddiaeth fyd-eang ar gael yn rhad ac am ddim. Mae’r modiwl hwn wedi’i anelu at weithwyr iechyd proffesiynol a phawb yn y GIG yng Nghymru sydd â diddordeb mewn dysgu mwy am ddinasyddiaeth fyd-eang a’r hyn y mae’n ei olygu i’n bywydau bob dydd, deall safbwyntiau rhyngwladol a phrofiadau gweithwyr iechyd proffesiynol a sut y gallwn gyfrannu, helpu gydag datrysiadau a dod yn fwy ymwybodol yn fyd-eang yn y gwaith a’r tu allan iddo. Mynediad i’r modiwl e-ddysgu ar ddinasyddiaeth fyd-eang.
Tabl cynnwys:
Cysylltu
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â’r tîm iechyd rhyngwladol.
Adroddiadau
Data
Ni chanfuwyd unrhyw ddata ar gyfer y pwnc hwn