Brechlyn Meningococol B (MenB) ar gyfer gonoroea - Am frechlyn MenB ar gyfer gonoroea
Byddwch yn cael cynnig y brechlyn 4CMenB. Cyflwynwyd y brechlyn hwn gyntaf i helpu i amddiffyn rhag llid yr ymennydd (haint yn yr ymennydd a llinyn asgwrn y cefn) a septisemia (gwenwyn y gwaed).
Mae’r bacteria sy’n achosi rhai mathau o lid yr ymennydd yn debyg i’r bacteria sy’n achosi gonoroea. Mae ymchwil yn dangos y gall y brechlyn 4CMenB hefyd helpu i amddiffyn rhag gonoroea. Dyna pam rydych chi’n cael cynnig y brechlyn hwn – i leihau eich siawns o gael gonoroea.
Gwybodaeth am frechlyn MenB
Faint o ddosau sydd eu hangen?
Bydd angen dau ddos arnoch. Rhaid rhoi’r ail ddos o leiaf 4 wythnos ar ôl y dos cyntaf a gellir ei roi pan fyddwch chi’n mynd i’r clinig nesaf, a allai fod ymhen 3 mis, 6 mis neu’n ddiweddarach.
Sut fyddaf yn cael fy mrechu?
Mae’r brechlyn 4CMenB ar gael am ddim gan wasanaethau iechyd rhywiol arbenigol i’r rhai sy’n gymwys. Gallwch ddod o hyd i’ch clinig iechyd rhywiol agosaf yma ar wefan GIG 111 Cymru (safle allanol).
Mae GIG Cymru yn argymell yn gryf eich bod yn cael y brechlyn 4CMenB cyn gynted ag y bydd yn cael ei gynnig i chi.
Sut mae’r brechlyn 4CMenB yn cael ei roi?
Rhoddir y brechlyn fel pigiad, fel arfer yn rhan uchaf eich braich.
Beth os ydw i eisoes wedi cael y brechlyn 4CMenB?
Os ydych yn byw gyda HIV, os nad oes gennych ddueg neu os oes gennych gyflwr prin o’r enw anhwylder ategol, efallai eich bod eisoes wedi cael dau ddos o’r brechlyn 4CMenB. Os felly, ni fydd angen dosau pellach arnoch. Os mai dim ond un dos o’r brechlyn 4CMenB rydych wedi’i gael, gallwch gael ail ddos o leiaf bedair wythnos ar ôl eich dos cyntaf.
Os oes gennych gyflwr meddygol neu os ydych yn cymryd meddyginiaeth sy’n gwanhau eich system imiwnedd, efallai na fydd y brechlyn yn eich amddiffyn cystal. Fodd bynnag, mae’n bwysig eich bod yn cael y brechlyn o hyd os yw’n cael ei argymell. Rhowch wybod i’ch meddyg neu eich nyrs.
Cymhwysedd ar gyfer y brechlyn
Mae gonoroea yn cael ei ddiagnosio’n fwy cyffredin ymysg GBMSM. Nod y rhaglen frechu hon yw lleihau nifer yr achosion o gonoroea a lleihau eich risg o gael yr haint.
Efallai y byddwch yn gymwys i gael y brechlyn os ydych chi’n GBMSM ac:
- wedi cael haint bacteriol o ganlyniad i ryw, fel clamydia neu gonoroea, yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, neu
- wedi cael pump neu fwy o bartneriaid rhywiol yn ystod y tri mis diwethaf.
Gall pobl eraill fod yn gymwys hefyd yn seiliedig ar asesiad gan weithiwr proffesiynol iechyd rhywiol.
Ni fyddwch yn cael gwahoddiad i gael y brechlyn, ond os byddwch yn cysylltu â chlinig iechyd rhywiol neu’n ymweld ag un, ac yn bodloni’r meini prawf a restrir uchod, dylech gael cynnig y brechlyn.
Pam nad yw pob oedolyn yn cael cynnig y brechlyn i helpu i amddiffyn rhag gonoroea?
Yng Nghymru, rydym yn dilyn cyngor arbenigwyr brechlynnau ac yn cynnig y brechiad i amddiffyn pobl sydd mewn perygl. Cynigir y brechlyn i bobl sydd fwyaf tebygol o ddal gonoroea. Mae hyn yn helpu i amddiffyn y rhan fwyaf o bobl.
Rhagor o wybodaeth ar safleoedd allanol
- GIG 111 Cymru – Iechyd A-Y Gonoroea (safle allanol)
- Iechyd Rhywiol Cymru | Cyngor a Phrofion am Heintiau STI (safle allanol)
- Gonoroea (Haint Neisseria gonoroea) – WHO (safle allanol, Saesneg yn unig)
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 30ain Mehefin 2025