Neidio i'r cynnwys

Heintiau a drosglwyddir yn rhywiol (STIs)

Salwch sy’n lledaenu o un person i berson arall drwy cyswllt agos, fel yn ystod rhyw, yw haint a drosglwyddir yn rhywiol, neu STI. Gall rhai heintiau a drosglwyddir yn rhywiol eich gwneud yn sâl, ond gyda rhai eraill efallai na fydd unrhyw symptomau o gwbl. Hyd yn oed os yw rhywun yn edrych yn iach, mae’n bosibl o hyd bod ganddynt haint a drosglwyddir yn rhywiol. Gall meddygon helpu trin y rhan fwyaf o heintiau a drosglwyddir yn rhywiol, a gall defnyddio dulliau diogelu fel condomau, helpu i’w atal rhag lledaenu. Mae’n bwysig siarad gydag oedolyn rydych chi’n ymddiried ynddyn nhw neu gyda meddyg os oes cwestiynau gennych.  

Beth i’w wneud os ydych yn meddwl bod gennych haint a drosglwyddir yn rhywiol

Os ydych chi’n poeni bod gennych chi haint a drosglwyddir yn rhywiol, ewch am archwiliad mewn clinig iechyd rhywiol mor fuan ag y gallwch chi. Mae clinigau iechyd rhywiol yn trin problemau gyda’r organau cenhedlu a’r system wrinol. Fel arfer, gallwch droi i fyny heb apwyntiad. Ni fydd gwybodaeth am eich ymweliad i’r clinig yn cael ei rannu gyda’ch meddyg teulu neu unrhyw un y tu allan i’r clinig oni bai eich bod yn gofyn iddi gael ei rhannu. Gallwch ofyn i weld meddyg neu nyrs benywaidd neu wrywaidd fel y mynnwch.

Peidiwch â chael rhyw, gan gynnwys rhyw eneuol, heb ddefnyddio condom hyd nes i chi gael archwiliad.

Rydym yn cynnig gwasanaeth hunan-brofi gartref GIG saff a dibynadwy y mae modd i chi archebu gan ddefnyddio ein gwefan yma. Mae’n rhaid i chi fod yn breswylydd Cymraeg i gael mynediad i’r gwasanaeth profi hwn.

Heintiau a drosglwyddir yn rhywiol cyffredin

Clamydia

Haint clamydia trachomatis, sy’n hysbys yn syml fel clamydia, yw haint a drosglwyddir yn rhywiol ac a achosir gan y bacteriwm chlamydia trachomatis. Clamydia yw’r haint a drosglwyddir yn rhywiol (STI) mwyaf cyffredin yn y Deyrnas Unedig.

Ewch i GIG 111 Cymru am fwy o wybodaeth am clamydia.

Gonorea

Mae gonorea yn haint a drosglwyddir yn rhywiol (STI) a achosir gan facteria. Gonorea yw’r ail haint a drosglwyddir yn rhywiol a nodwyd amlaf yn y DU ar ôl clamydia.

Ewch i GIG 111 Cymru am fwy o wybodaeth am gonorea.

Tricomoniasis

Mae tricomoniasis yn haint a drosglwyddir yn rhywiol (STI) a achosir gan barasit bach iawn o’r enw Trichomonas vaginalis (TV).  Mae symptomau tricomoniasis yn debyg i symptomau llawer o heintiau eraill a drosglwyddir yn rhywiol (STIs), felly gall fod yn anodd ei ganfod weithiau.

Ewch i GIG 111 Cymru am fwy o wybodaeth am tricomoniasis.

Dafadennau gwenerol

Tyfiannau cigog bychan, lympiau neu newidiadau yn y croen sy’n ymddangos ar yr ardal wenerol neu refrol yw dafadennau gwenerol. Maent yn ganlyniad haint â’r STI firaol mwyaf cyffredin ac fe’u hachosir gan y feirws papiloma dynol (HPV).

Ewch i GIG 111 Cymru am fwy o wybodaeth am ddafadennau gwenerol.

Herpes

Mae herpes yr organau cenhedlu’n gyflwr tymor hir ac fe’i hachosir gan y firws herpes simplex (HSV). Mae’r firws yn hynod heintus a bydd yn lledaenu o un person i’r llall drwy gyffyrddiad croen-â-chroen, fel yn ystod rhyw drwy’r wain, rhyw rhefrol neu ryw geneuol.

Ewch i GIG 111 Cymru am fwy o wybodaeth am herpes.

Siffilis

Haint bacterol ydyw y gellir ei wella, sy’n lledaenu’n hawdd drwy weithgarwch rhywiol heb ddiogelwch. Mae niferoedd cynyddol o achosion o siffilis yng Nghymru, ac felly mae’n dod yn fwy cyffredin nag o’r blaen. Gall siffilis fod yn haint difrifol iawn os na chaiff ei drin. Ni ellir cael gwared arno heb feddyginiaeth.

Gallai cael siffilis ei gwneud yn haws i rywun gael neu drosglwyddo HIV.

Ewch i GIG 111 Cymru am fwy o wybodaeth am siffilis.

Brech M

Mae Brech M (brech y mwncïod gynt) yn afiechyd prin sy’n cael ei achosi gan haint feirws Mpox.

Mae mwy o wybodaeth am Brech M ar gael yma.

HIV

Feirws yw, Feirws Imiwnoddiffygiant Dynol (HIV), sy’n ymosod ar y system imiwnedd.

Mae mwy o wybodaeth am HIV ar gael yma.

I ble allaf i fynd am gymorth ar Hepatitis A, Hepatitis B a Hepatitis C?

Mae cyngor manwl ar Hepatitis A, Hepatitis B a Hepatitis C ar gael ar ein tudalennau pwnc.

Cysylltu â thîm Iechyd Rhywiol Cymru

Gallwch gysylltu â’r tîm gan e-bostio [email protected]. Nodwch fod y blwch yma’n cael ei fonitro Llun i Gwener, 9am i 5pm.