Mynediad teg at frechlynnau yng Nghymru
Dylai pawb yng Nghymru gael mynediad teg at frechlynnau, gyda chyfle teg i dderbyn eu brechlyn, fel bod unigolion, teuluoedd a’u cymunedau yn cael eu diogelu rhag afiechydon y gellir eu hatal trwy frechu.
Mae tegwch brechlynnau yn golygu teilwra cefnogaeth i grwpiau penodol sy’n cael eu heffeithio gan anghydraddoldeb o ran y nifer sy’n cael brechlyn. Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn dweud bod angen i ni ddeall y rhwystrau rhag brechu er mwyn hyrwyddo tegwch brechlynnau, a datblygu atebion fel bod pawb yn gallu cael eu brechu waeth beth fo’u hincwm, addysg, oedran, daearyddiaeth, ethnigrwydd, crefydd neu gredoau.
Beth mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ei wneud i gefnogi tegwch brechlynnau?
Mae gan y Rhaglen Afiechydon Ataliadwy Trwy Frechu dîm sy’n ymroddedig i ymgysylltu â’r cyhoedd a thegwch brechu. Mae’r tîm hwn yn gweithio gyda sefydliadau a’r cyhoedd i wrando a deall yr heriau sy’n effeithio ar grwpiau penodol, a chefnogi sefydliadau ledled Cymru i ddatblygu ymyriadau wedi’u teilwra i wella mynediad a chyfleoedd. Mae’r tîm yn nodi’r grwpiau sy’n cael eu heffeithio fwyaf trwy ddata goruchwyliaeth (dolen i’r dudalen goruchwyliaeth).
Ewch i wefan Sefydliad Iechyd y Byd am fwy o wybodaeth am degwch brechlynnau (safle allanol).
Strategaeth a chyfarwyddyd
Mae Strategaeth brechu teg i Gymru Llywodraeth Cymru yn egluro beth mae Cymru yn ei wneud i hyrwyddo tegwch brechlynnau.
Mae rhaglenni teilwra imiwneiddio y Sefydliad Iechyd y Byd (safle allanol) yn rhoi arweiniad ar ddulliau sy’n seiliedig ar dystiolaeth o ymdrin â thegwch brechlynnau.
Ymgysylltu
Mae ymgysylltu yn un o egwyddorion craidd Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae’r tîm yn gwneud y canlynol:
- Ymgysylltu â’r cyhoedd ac amrywiaeth o sefydliadau statudol a thrydydd sector i gael cipolwg ymddygiadol ar y rhwystrau, y canfyddiadau a’r profiadau o’r rhaglenni brechlynnau yng Nghymru.
- Defnyddio adnoddau a dulliau amrywiol i ymgysylltu’n uniongyrchol â grwpiau fel sail i ddylanwadu ar strategaethau cenedlaethol a gwelliannau i wasanaethau.
- Anelu at gynnwys y cyhoedd yn weithredol wrth ddatblygu adnoddau ac ymyriadau.
Adnoddau hygyrch
Mae’r tîm yn cynhyrchu ystod o adnoddau hygyrch i sicrhau bod gwybodaeth ar gael mewn amrywiaeth o fformatau gan gynnwys:
- Iaith Arwyddion Prydain
- Hawdd ei ddarllen
- Print bras
- Sain
- Ieithoedd heblaw Cymraeg a Saesneg
- Braille (i’w gytuno)
Mae’r rhain ar gael ar bob tudalen rhaglen brechlyn, a gellir eu harchebu trwy Adnoddau Gwybodaeth Iechyd.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan GIG 111 Cymru (Safle allanol).
Mae’r tîm yn gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid a’r cyhoedd i sicrhau bod adnoddau hygyrch yn diwallu anghenion y bobl sy’n eu defnyddio.
Ymarferyddion sy’n gweithio ym maes Tegwch Brechlynnau
Rydym yn cysylltu ag ymarferyddion ac yn dod â hwy at ei gilydd i rannu gwybodaeth, enghreifftiau o arfer da, gwersi a ddysgwyd, cefnogi ymyriadau wedi’u teilwra a chreu cymunedau ymarfer.