Neidio i'r cynnwys

Clwy’r pennau

Mae clwy’r pennau yn glefyd heintus iawn sy’n gallu lledaenu’n hawdd rhwng pobl nad ydynt wedi’u brechu. Er bod y clefydau hyn fel arfer yn ysgafn ac nid ydynt yn aml yn achosi effeithiau hirdymor, gall rhai pobl gael cymhlethdodau difrifol.

Mae clwy’r pennau yn achosi chwarennau poenus, chwyddedig yn yr wyneb, y gwddf a’r ên, a thwymyn a phen tost/cur pen. Mae’r cymhlethdodau yn cynnwys haint ar yr ymennydd (enseffalitis) a gorchudd yr ymennydd (llid yr ymennydd). Gall hefyd achosi chwyddo poenus yn y ceilliau mewn dynion a’r ofarïau mewn menywod. Mae ychydig o dan hanner yr holl ddynion sy’n cael poen a chwyddo yn y ceilliau sy’n gysylltiedig â chlwy’r pennau yn sylwi ar rywfaint o grebachu o ran eu ceilliau.

Dysgwch fwy

Os hoffech chi ddysgu mwy am y brechlyn, neu’r afiechyd y maent yn eu hamddiffyn yn erbyn, mae nifer o adnoddau gwybodaeth ar gael i helpu.

Gallwch hefyd ffonio GIG 111 neu eich meddygfa am gyngor os oes gennych chi unrhyw gwestiynau.

Adroddiadau

Ni chanfuwyd unrhyw ddata ar gyfer y pwnc hwn

Data

Ni chanfuwyd unrhyw ddata ar gyfer y pwnc hwn