Brechlyn Bacillus Calmette-Guérin (BCG) / TB - Ynglŷn â brechlyn BCG/TB
Mae’r brechlyn BCG (Bacillus Calmette-Guérin) yn gwarchod rhag twbercwlosis, sy’n cael ei adnabod hefyd fel TB.
Mae’r brechlyn BCG yn arbennig o effeithiol wrth warchod babanod a phlant ifanc rhag y ffurfiau difrifol prinnach o TB fel llid yr ymennydd TB (chwydd yn leinin yr ymennydd). Mae’r rhan fwyaf o bobl yn y DU yn gwella’n llwyr ar ôl triniaeth, ond mae hyn fel rheol yn cymryd sawl mis.
Y brechlyn a ddefnyddir yn y DU yw BCG AJV. Dim ond un dos o’r brechlyn BCG sydd ei angen.
Os bydd y brechlyn BCG yn cael ei argymell ar gyfer eich babi, fel arfer caiff ei gynnig yn fuan ar ôl genedigaeth yn yr ysbyty a gellir ei roi ar unrhyw adeg.
Brechu yw un o’r ffyrdd mwyaf effeithiol o atal salwch difrifol o TB. Nid oes unrhyw frechlyn 100% yn effeithiol, felly mae’n dal yn bwysig gwybod arwyddion a symptomau TB, hyd yn oed os ydych chi neu eich plentyn wedi cael eich brechu.
I gael rhagor o wybodaeth am TB ewch i:
Cymhwysedd am y brechlyn
Ers 2005 nid yw’r brechlyn BCG yn cael ei roi bellach fel rhan o amserlen frechu reolaidd y GIG.
Dim ond i fabanod hyd at 1 oed, a phlant rhwng un a phum mlwydd oed sydd heb eu brechu ac sy’n fwy tebygol o dreulio amser gyda rhywun sydd â TB, y caiff y brechlyn BCG ei gynnig bellach. Mae hyn yn cynnwys y rhai sydd:
- wedi’u geni mewn ardaloedd o’r DU lle mae’r cyfraddau TB yn uchel
- â rhiant neu daid neu nain a anwyd mewn gwlad lle mae cyfradd uchel o TB (Saesneg yn unig) gan gynnwys gwledydd yn Ne Ddwyrain Asia, Affrica Is-Sahara a rhai gwledydd yn Nwyrain Ewrop
- yn byw gyda, neu’n gysylltiadau agos, gyda rhywun sydd â TB heintus
Darllenwch fwy am bwy all gael y brechlyn BCG ar wefan GIG 111 Cymru (safle allanol).
Sgîl-effeithiau’r brechlyn BCG
Bydd bron pawb sy’n cael brechlyn BCG yn datblygu pothell wedi chwyddo yn safle’r pigiad yn syth wedyn. Mae hyn yn gyffredin ac yn dangos bod y pigiad wedi’i roi’n gywir.
O fewn dwy i chwe wythnos i gael y pigiad bydd smotyn bach yn ymddangos. Gall fod yn eithaf poenus am rai dyddiau, ond dylai wella’n raddol os na fyddwch chi’n ei orchuddio. Efallai y bydd yn gadael craith fechan. Mae hyn yn gyffredin. Yn achlysurol, gall eich plentyn ddatblygu briw bas lle cafodd y pigiad. Os bydd hylif yn dod ohono a bod angen ei orchuddio, defnyddiwch ddresin sych – dim plaster – nes bod cramen yn ffurfio. Gall y briw yma gymryd sawl mis i wella.
Mae adweithiau eraill yn brin. I gael rhagor o wybodaeth am sgîl-effeithiau cyffredin, anghyffredin a phrin:
Os ydych chi’n bryderus am symptomau, ffoniwch GIG 111 Cymru ar 111 neu eich meddygfa. Mae galwadau i GIG 111 Cymru am ddim o linellau tir a ffonau symudol.
Gallwch roi gwybod am sgîl-effeithiau posibl brechlynnau a meddyginiaethau drwy gynllun y Cerdyn Melyn. Gallwch wneud hyn ar-lein drwy fynd i wefan Yellow Card (Saesneg yn unig) neu drwy ffonio llinell gymorth cynllun y Cerdyn Melyn ar 0800 731 6789 (Dydd Llun i Ddydd Gwener, 9am i 5pm).
Gwybodaeth i’r cyhoedd
Os hoffech chi gael gwybod mwy am y brechlyn neu’r afiechyd y mae’n amddiffyn rhagddynt, mae nifer o adnoddau gwybodaeth ar gael i helpu. Gallwch hefyd ffonio GIG 111 neu eich meddygfa am gyngor os oes gennych chi unrhyw gwestiynau.
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 25ain Mawrth 2026