Hepatitis A
Haint firaol yr iau yw hepatitis A a gellir ei atal â brechlyn. Fe’i lledaenir yn bennaf drwy fwyta carthion person sydd wedi’i heintio drwy fwyd sydd wedi’i halogi neu drwy beidio â golchi’r dwylo’n ddigonol, ond gellir ei gael yn rhywiol hefyd.
A yw hepatitis A yn broblem ddifrifol yng Nghymru?
Er bod y niferoedd yn fychan o ran hepatitis A a geir yn rhywiol, mae yna gynnydd parhaus yn yr achosion gydag achosion penodedig yn digwydd mewn grwpiau cymdeithasol, fel dynion sy’n cael rhyw â dynion a phobl sy’n chwistrellu cyffuriau.
Pwy sydd â hepatitis A yng Nghymru?
Bydd pobl sydd heb eu brechu ac sy’n dychwelyd o wledydd lle bydd hepatitis A yn gyffredin yn cyflwyno’n achlysurol â’r salwch. Mae achosion o hepatitis A wedi’u hadrodd ymysg dynion sy’n cael rhyw â dynion (MSM).
Sut allaf i ddweud os bydd rhywun â hepatitis A?
Haint aciwt neu dymor byr yn unig yw hepatitis A a bydd yn para dim mwy na 6 mis fel rheol. Ni fydd llawer o bobl sydd â hepatitis firaol ag unrhyw symptomau ac ni fyddant yn gwybod eu bod wedi’u heintio. Gyda hepatitis A, bydd symptomau’n ymddangos fel rheol o fewn sawl wythnos i sawl mis o amlygiad a gall bara hyd at 6 mis. Gall symptomau cynnwys:
- Twymyn;
- Blinder;
- Colli archwaeth;
- Cyfog;
- Chwydu;
- Poen yn yr abdomen;
- Poen yn y cyhyrau;
- Y croen a gwyn y llygaid yn melynu (clefyd melyn);
- Wrin tywyll a’ch ysgarthion (pŵ) yn olau;
- Croen yn cosi.
Bydd y rhan fwyaf o oedolion sydd â hepatitis A yn teimlo’n sâl am ychydig fisoedd ac yn gwella’n llwyr fel rheol heb unrhyw niwed parhaol i’r iau. Er yn brin, gall hepatitis A beri methiant yr afu a marwolaeth.
Nid oes yna unrhyw wellhad penodol na thriniaeth ar gyfer hepatitis A, ond mae yna ffyrdd o liniaru’r symptomau, fel:
- Cael digon o orffwys;
- Cymryd cyffuriau lleddfu poen fel paracetamol neu ibuprofen os bydd gennych boenau – er bod y nifer y gallwch eu cymryd yn dibynnu ar ba mor dda y bydd eich iau yn gweithio. Gofynnwch i’ch meddyg teulu am gyngor;
- I leihau cosi ceisiwch gynnal amgylchedd glaear, wedi’i gwyntyllu’n dda a gwisgwch ddillad llac. Cynghorir osgoi baddonau neu gawodydd poeth hefyd. Gallai eich Meddyg Teulu gymeradwyo defnyddio antihistamine mewn achosion llym;
- Er mwyn lleihau cyfog a chwydu, cymeradwyir bwyta prydau llai, ysgafnach. Gall eich Meddyg Teulu ragnodi meddyginiaeth a elwir yn ‘anti-emetic’ os bydd y broblem yn parhau;
- Osgoi alcohol – gall yfed alcohol roi straen ychwanegol ar eich iau, felly osgowch hynny hyd nes y bydd eich Meddyg Teulu’n dweud ei bod yn ddiogel.
Cewch wybod mwy ynglŷn â thrin hepatitis A ar wefan GIG 111 Cymru.
Fe wnaiff eich corff glirio’r haint ond gall hynny gymryd sawl mis. Unwaith y byddwch wedi clirio’r haint, rydych yn imiwn ac ni ellir ei gael eto – ond fe allwch gael mathau eraill o hepatitis.
Sut allwch chi gael hepatitis A?
Fel rheol bydd pobl yn cael hepatitis A drwy gysylltiad agos â pherson sydd wedi’i heintio, mewn bwyd neu ddiodydd fydd wedi’u paratoi gan rywun sydd wedi’i heintio, neu drwy fwyta pysgod cregyn fydd wedi’u cynaeafu o ddŵr sydd wedi’i halogi â charthion. Gellir ei gael yn rhywiol hefyd, bydd MSM â phartneriaid lluosog â mwy o risg o gael y firws yn rhywiol.
Gallwch ddarllen mwy am achosion hepatitis A ar wefan GIG 111 Cymru.
Sut ddylwn i fy niogelu fy hun rhag hepatitis A?
- Golchi dwylo’n drylwyr ar ôl defnyddio’r toiled a chyn paratoi bwyd;
- Gofalu cynnal hylendid personol da;
- Ymarfer rhyw diogel i leihau’r risg o drosglwyddiad rhywiol;
- Gallai dynion osgoi cal hepatitis A drwy olchi dwylo ar ôl rhyw (ffolenni, morddwyd a’r pidyn hefyd, yn ddelfrydol), newid condomau rhwng rhyw rhefrol a geneuol defnyddio menig latex i fyseddu neu ffustio, defnyddio rhwystr ar gyfer ‘rimming’ (fel sgwâr o latex) a pheidio â rhannu tegannau rhyw neu gyfarpar ffrydio dŵr(‘douching’).
Mae yna frechiad hefyd ar gyfer hepatitis A – holwch yn eich clinig iechyd rhywiol lleol neu cewch wybod mwy am y brechlyn ar GIG 111 Cymru.
Sut ydw i’n diogelu eraill rhag cael hepatitis A?
Os oes gennych chi hepatitis A, mae’n bwysig hefyd ceisio lleihau’r risg i eraill gael yr haint oddi wrthych chi.
Dylech:
- Gadw draw o’r gwaith neu’r ysgol am o leiaf wythnos wedi i’ch clefyd melyn (Saesneg) neu symptomau eraill ddechrau;
- Osgoi paratoi bwyd ar gyfer eraill os yn bosib;
- Golchi eich dwylo’n rheolaidd â sebon a dŵr – yn enwedig ar ôl mynd i’r toiled a chyn paratoi bwyd;
- Osgoi rhannu tyweli a golchi londri budr ar wahân ar gylchdro poeth;
- Glanhau’r toiled, handleni fflysho a thapiau’n amlach nag arfer;
- Osgoi rhyw tra byddwch yn heintus – mae hepatitis A yn fwyaf heintus oddeutu pythefnos cyn i’r symptomau ddechrau hyd at oddeutu wythnos wedi iddyn nhw ddechrau datblygu. Gofynnwch i’ch Meddyg Teulu am gyngor ynglŷn â hyn.
Byddid yn cynghori unrhyw gysylltiadau agos, fel pobl sy’n byw yn yr un tŷ â chi, i gael y brechlyn hepatitis A i leihau’r risg o ddod yn heintiedig.
Cewch wybodaeth am eich trin eich hun a diogelu eraill rhag hepatitis A ar wefan GIG 111 Cymru.
Os byddaf yn credu fy mod wedi fy rhoi fy hun mewn perygl o hepatitis A beth ddylwn i ei wneud?
Dylech fynd i gael cyngor gan eich Meddyg Teulu neu yn eich clinig iechyd rhywiol lleol.
I ble allaf i fynd i gael cyngor a chefnogaeth os byddaf yn poeni am hepatitis A?
Mae gwybodaeth eang am hepatitis A ar wefan GIG 111 Cymru. Gallwch ofyn am gyngor hefyd gan eich Meddyg Teulu neu yn eich clinig iechyd rhywiol lleol.
Tabl cynnwys:
- A yw hepatitis A yn broblem ddifrifol yng Nghymru?
- Pwy sydd â hepatitis A yng Nghymru?
- Sut allaf i ddweud os bydd rhywun â hepatitis A?
- Sut allwch chi gael hepatitis A?
- Sut ddylwn i fy niogelu fy hun rhag hepatitis A?
- Sut ydw i'n diogelu eraill rhag cael hepatitis A?
- Os byddaf yn credu fy mod wedi fy rhoi fy hun mewn perygl o hepatitis A beth ddylwn i ei wneud?
- I ble allaf i fynd i gael cyngor a chefnogaeth os byddaf yn poeni am hepatitis A?
- Gwybodaeth bellach
- Adnoddau
- Adroddiadau
- Data
Gwybodaeth bellach
Ni chanfuwyd unrhyw ddata ar gyfer y pwnc hwn
Adroddiadau
Ni chanfuwyd unrhyw ddata ar gyfer y pwnc hwn
Data
Ni chanfuwyd unrhyw ddata ar gyfer y pwnc hwn