Neidio i'r cynnwys

Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ysgrifennu at rieni yn y Barri i bwysleisio pwysigrwydd golchi dwylo yn ystod brigiad o achosion o Hepatitis A

Cyhoeddwyd ar: 06 Mai 2026

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi ysgrifennu at rieni a gofalwyr sydd â phlant mewn ysgolion  cynradd yn y Barri i ofyn iddyn nhw sicrhau eu bod nhw a’u plant yn arbennig o ofalus wrth olchi eu dwylo, oherwydd bod brigiad o achosion o Hepatitis A yn y dref. Haint feirysol yw hwn sy’n effeithio ar yr afu. Salwch ysgafn yw hepatitis A yn y rhan fwyaf o achosion, ac mae’r rhan fwyaf o bobl yn gwella’n llwyr heb broblemau iechyd hirdymor.    

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio gyda thimau’r bwrdd iechyd lleol a’r cyngor i ymchwilio i nifer fach o achosion o Hepatitis A o’r un straen, sydd wedi’u nodi mewn tair aelwyd ar wahân yn y Barri. Mae’r wybodaeth sydd gennym am y straen hwn yn awgrymu y gallai’r haint fod wrthi’n lledaenu’n lleol. 

Mae tîm o arbenigwyr iechyd wedi cael eu dwyn ynghyd i ddeall yn well sut mae’r haint yn lledaenu, ac i sicrhau bod y camau cywir yn cael eu cymryd. Mae’r rhai sydd wedi bod yn sâl yn derbyn gofal priodol ac yn gwella’n dda.  

Fel rhagofal, mae’r bobl sydd wedi bod mewn cysylltiad agos â’r rhai sydd wedi cael eu heintio eisoes wedi cael cynnig i gael eu brechu. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cysylltu â phawb y nodwyd bod angen brechiad arnynt. Nid oes angen i chi gysylltu â’ch meddyg teulu i ofyn am frechiad oni bai bod angen un arnoch chi i deithio i wlad lle mae Hepatitis A yn gyffredin iawn.

Dywedodd Susan Mably, Ymgynghorydd Diogelu Iechyd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Hoffen ni ddiolch i bobl yn y Barri am eu cefnogaeth wrth inni ymchwilio i’r clystyrau hyn o achosion.  

“Ar hyn o bryd, rydyn ni’n ysgrifennu at rieni sydd â phlant mewn ysgolion cynradd yn y Barri i ofyn iddyn nhw sicrhau bod eu plant yn golchi eu dwylo er mwyn atal yr haint rhag lledaenu ymhellach.

“Y ffordd orau o atal Hepatitis A rhag lledaenu yw golchi dwylo’n drylwyr gyda sebon a dŵr. Mae hyn yn bwysig ar ôl defnyddio’r toiled, newid cewynnau a chyn paratoi neu fwyta bwyd.  

“Efallai na fydd rhai plant ifanc sydd wedi’u heintio yn dangos symptomau, ond gallan nhw ledaenu’r haint i bobl eraill a all fynd yn sâl wedyn.  Dylai rhieni a gofalwyr helpu plant ifanc i olchi eu dwylo’n iawn, a’u hatgoffa nhw i wneud hynny. Os ydych chi neu’ch plentyn yn teimlo’n sâl, ac mae gennych chi symptomau fel twymyn, teimlo’n flinedig iawn, diffyg archwaeth, teimlo eich bod chi am chwydu neu chwydu, neu os yw’ch croen neu’ch llygaid yn felyn, dylech chi gysylltu â’ch meddyg teulu neu GIG 111 Cymru.

Mae rhagor o wybodaeth am Hepatitis A ar gael ar wefan GIG 111 Cymru, neu yn Hepatitis A – Iechyd Cyhoeddus Cymru

Pam mae pobl yn cysylltu â rhieni a gofalwyr yn y Barri?

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ymchwilio i nifer fach o achosion o Hepatitis A yn y Barri.

Mae’r achosion yn gysylltiedig, ac maen nhw’n ymwneud â thair aelwyd yn ardal y Barri.  Mae’r wybodaeth sydd gennym am y math o Hepatitis A yn awgrymu ei fod yn cylchredeg yn ardal y Barri.

Mae gweithwyr iechyd proffesiynol yn cydweithio i geisio cael gwybod sut mae’r haint yn lledaenu ac i atal mwy o achosion.

Beth yw Hepatitis A?

Feirws sy’n effeithio ar yr afu yw Hepatitis A, a elwir yn aml yn Hep A.

Fel arfer, mae’n achosi salwch byr. Mae’r rhan fwyaf o bobl yn gwella’n llwyr, ond gall rhai pobl deimlo’n sâl am sawl wythnos.

Sut mae Hepatitis A yn lledaenu

Mae Hepatitis A yn lledaenu trwy gysylltiad agos â rhywun sydd â’r haint.

Gall ledaenu yn yr amgylchiadau hyn:

  • pan na fydd dwylo’n cael eu golchi’n iawn ar ôl defnyddio’r toiled
  • pan fydd rhywun yn cyffwrdd â bwyd, diodydd neu arwynebau heb olchi eu dwylo

Mae’r feirws yn lledaenu’n haws:

  • gartref
  • mewn ysgolion, meithrinfeydd, a lleoliadau gofal plant
  • lle mae pobl mewn cysylltiad agos â’i gilydd

Mae golchi dwylo’n dda yn bwysig iawn, yn enwedig i blant.

Beth yw’r symptomau?

Fel arfer, mae symptomau’n ymddangos rhwng pythefnos a chwe wythnos ar ôl cael yr haint.

Efallai na fydd gan rai pobl, yn enwedig plant ifanc, symptomau o gwbl, neu bydd ganddyn nhw symptomau ysgafn yn unig. Gallan nhw barhau i drosglwyddo’r feirws i bobl eraill.

Gall y symptomau gynnwys:

  • twymyn
  • bod yn flinedig iawn
  • teimlo’n gyfoglyd neu chwydu
  • poen yn y stumog
  • wrin tywyll
  •  baw lliw golau
  • y croen neu’r llygaid yn troi’n felyn, a elwir yn glefyd melyn
Beth y dylwn i ei wneud os oes gen i neu fy mhlentyn symptomau?

Os oes gennych chi neu’ch plentyn symptomau Hepatitis A, dylech chi wneud y canlynol:

  • aros gartref ac osgoi dod i gysylltiad agos â phobl eraill
  • cysylltu â’ch meddyg teulu neu GIG 111 i gael cyngor
  • dilyn y cyngor rydych chi’n ei gael gan weithwyr gofal iechyd proffesiynol

Ni ddylai plant sy’n sâl fynd i’r ysgol, lleoliadau gofal plant, na digwyddiadau cymdeithasol nes eu bod yn cael gwybod bod hi’n ddiogel gwneud hynny.

Ceisiwch gymorth meddygol brys os byddwch yn sylwi ar y canlynol:
  • poenau difrifol yn y stumog
  • cysgadrwydd (teimlo’n gysglyd) cynyddol
  • y croen neu’r llygaid yn troi’n felyn
A oes modd i blant gael Hepatitis A?

Oes, mae modd i blant gael Hepatitis A.

Mae gan lawer o blant symptomau ysgafn neu ddim symptomau o gwbl, ond gallan nhw barhau i drosglwyddo’r feirws i bobl eraill.

Oes angen i mi fynd â fy mhlentyn i gael ei frchu nawr?

Nac oes.

Nid oes angen i rieni na gofalwyr drefnu brechiad rhag Hepatitis A oni bai bod gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn cysylltu â nhw’n uniongyrchol.

Bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cysylltu â phobl dim ond os oes angen brechiad arnyn nhw neu eu plentyn. Peidiwch â threfnu apwyntiadau oni bai bod rhywun yn gofyn ichi wneud hynny. Mae hyn yn helpu gwasanaethau’r GIG i ganolbwyntio ar y bobl sydd angen gofal fwyaf.

Pam mae’r wybodaeth hon yn cael ei hanfon at ysgolion cynradd, ac nid ysgolion cyfun?

Mae’r wybodaeth hon yn cael ei rhannu ag ysgolion cynradd fel rhagofal.

Nid oes tystiolaeth bod Hepatitis A yn lledaenu mewn ysgolion cynradd nac ysgolion cyfun.

Rydyn ni’n rhannu’r cyngor hwn gydag ysgolion cynradd oherwydd efallai na fydd plant ifanc yn teimlo’n sâl, ond gallan nhw barhau i drosglwyddo’r feirws i bobl eraill.

Hefyd, mae angen mwy o help ar blant ifanc i olchi eu dwylo’n iawn. Mae golchi dwylo’n dda yn un o’r ffyrdd gorau o atal y feirws rhag lledaenu.

Mae plant hŷn yn fwy tebygol o deimlo’n sâl os ydyn nhw’n cael Hepatitis A, ac fel arfer maen nhw’n well am olchi eu dwylo. Dyma pam nad yw gwybodaeth yn cael ei rhannu ag ysgolion cyfun ar hyn o bryd.