DATGANIAD: Gwasanaeth Profi a Phostio Iechyd Rhywiol
Cyhoeddwyd ar: 24 Chw 2026
wasanaeth Profi a Phostio Iechyd Rhywiol. Mae’r rhain yn cynnwys y canlynol:
- Prosesau diogelu ar gyfer pobl sy’n defnyddio’r gwasanaeth profi a phostio iechyd rhywiol ar-lein a chymunedol nad oeddent yn effeithiol nac yn bodloni’r safonau deddfwriaethol gofynnol. Roedd hyn yn golygu bod Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi trosglwyddo gwybodaeth ddiogelu i fyrddau iechyd, yn hytrach nag i awdurdodau lleol fel y dylem fod wedi’i wneud.
- Rhai prosesau trin data, yn ymwneud â data personol, nad oeddent yn effeithiol nac yn bodloni’r safonau gofynnol.
Mor fuan ag y daethom i wybod am problemau hyn ym misoedd Tachwedd a Rhagfyr 2025, fe gymeron ni gamau ar unwaith i’w datrys. Fe wnaethom ymgymryd ag asesiad risg i sicrhau ei fod yn ddiogel i barhau â’r gwasanaeth. Hefyd fe wnaethom wella ein prosesau diogelu mewnol ar gyfer pobl sy’n cysylltu â’n Gwasanaeth Profi a Phostio Iechyd Rhywiol er mwyn sicrhau bod y prosesau a’r gweithdrefnau diogelu cywir yn cael eu dilyn.
Rydym wrthi’n adolygu achosion pobl a gysylltodd â’n Gwasanaeth Profi a Phostio Iechyd Rhywiol efallai nad ydynt wedi cael eu diogelu’n briodol. Lle bo angen, rydym yn cyfeirio’r achosion hyn at yr awdurdod lleol perthnasol am reolaeth a chefnogaeth briodol. Rydym hefyd wrthi’n cynnal adolygiad trylwyr o’n gwasanaeth profi a phostio iechyd rhywiol i wella prosesau, ansawdd a sicrwydd Mae hyn yn cynnwys adolygu ein platfform ar-lein. Rydym wedi gweithredu proses ar-lein newydd i sicrhau bod pobl ifanc yn cael eu diogelu’n briodol wrth ddefnyddio’r platfform. Mae newidiadau hefyd yn cael eu gwneud i’n gwefan profi a phostio Iechyd Rhywiol. Rydym hefyd yn cynnal ymarfer edrych yn ôl i sicrhau bod unrhyw wybodaeth diogelu hanesyddol yn cael ei rhannu gydag awdurdodau lleol.
Roedd y pryderon ynghylch trin data y gwnaethom eu nodi’n faterion gweinyddol mewnol yn bennaf. Roedd achosion o anfon canlyniadau prawf i’r bwrdd iechyd anghywir ond rhannwyd canlyniadau prawf a data personol cysylltiedig o fewn y GIG yn unig. Rydym wedi gwneud newidiadau i’n gweithdrefnau trin data i atal hyn rhag digwydd eto. Rydym wedi rhoi gwybod am y digwyddiadau data i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.
Fe wnaethom nodi nifer fach o bobl a dderbyniodd ganlyniadau profion ac atgyfeiriadau anghywir neu wedi’u hoedi. Lle nodwyd canlyniadau anghywir, fe wnaethom eu cywiro ar unwaith a hysbysu’r person dan sylw. Fe wnaethom gynnig y gofal dilynol priodol iddyn nhw hefyd lle bo angen. Lle rydym wedi nodi oedi gyda chanlyniadau profion ac atgyfeiriadau, fe wnaethom ymateb yn brydlon i sicrhau y cawsant eu hanfon allan mor gyflym â phosibl.
Dywedodd yr Athro Fu-Meng Khaw, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Gwasanaethau Diogelu Iechyd a Sgrinio a Chyfarwyddwr Meddygol yn Iechyd Cyhoeddus Cymru “Hoffwn ymddiheuro’n ddiffuant i unrhyw un sydd wedi cael eu heffeithio gan y problemau hyn. Byddwch yn dawel eich meddwl ein bod wedi gweithredu ar unwaith i gywiro pethau. Mae ein gwasanaethau yma i chi o hyd, boed angen prawf iechyd rhywiol cyfrinachol arnoch wedi’i anfon i’ch cartref, mynediad at gondomau, neu gyngor ar unrhyw bryderon iechyd rhywiol – mae ein timau yma i’ch cefnogi. Byddwn yn comisiynu ymchwiliad allanol annibynnol llawn i’r problemau hyn. Rydym wedi ymrwymo i ddysgu o’r profiad hwn a deall yn union beth aeth o’i le, fel y gallwn wella ein prosesau.
Bob blwyddyn mae ein Gwasanaeth Iechyd Rhywiol yn prosesu bron i 100,000 o geisiadau am brofion iechyd rhywiol. Mae’n fan diogel ar gyfer unigolion sy’n derbyn cyngor ac yn cael eu profi am heintiau a drosglwyddir yn rhywiol a phroblemau iechyd rhywiol eraill. Dylai unrhyw un sydd angen gwasanaethau iechyd rhywiol barhau i ddefnyddio’r gwasanaeth i ddiogelu eu hiechyd.
Os ydych wedi cael prawf iechyd rhywiol ac nad ydym wedi bod mewn cysylltiad â chi ynglŷn â chanlyniadau anghywir neu oedi, NID OES angen i chi gysylltu â ni, gan fod pob defnyddiwr gwasanaeth yr effeithiwyd arno eisoes wedi cael gwybod ac wedi derbyn unrhyw gyngor dilynol angenrheidiol. I unrhyw un sy’n dal i boeni, mae llinell gymorth ar gael: 0800 0352 877. Bydd ar agor 8am-8pm dydd Llun i ddydd Gwener a 9am i 4pm ar y penwythnos.
Cwestiynau cyffredin
Beth yw Gwasanaeth Profi a Phostio Iechyd Rhywiol Cymru?
Mae’r Gwasanaeth Profi a Phostio Iechyd Rhywiol yn galluogi pobl yng Nghymru i ofyn am brofion iechyd rhywiol a derbyn cyngor am heintiau a drosglwyddir yn rhywiol. Dechreuodd y gwasanaeth fel cynllun peilot yn ardal Hywel Dda yn 2018 ac ehangodd i gwmpasu Cymru gyfan ym mis Mai 2020. Fe’i rhedir gan Is-adran Diogelu Iechyd Iechyd Cyhoeddus Cymru ac mae’n prosesu bron i 100,000 o geisiadau am brofion bob blwyddyn.
Ydyw e’n ddiogel i ddefnyddio’r gwasanaeth?
Ydy, mae’n ddiogel i ddefnyddio’r gwasanaeth. Rydyn ni eisiau rhoi tawelwch meddwl i unrhyw un sydd angen gwasanaethau iechyd rhywiol y dylen nhw barhau i ddefnyddio’r gwasanaeth – diogelu eich iechyd yw ein blaenoriaeth.
Bob blwyddyn mae ein Gwasanaeth Profi a Phostio Iechyd Rhywiol yn prosesu bron i 100,000 o geisiadau am brofion iechyd rhywiol yng Nghymru. Mae’n fan diogel i unigolion dderbyn cyngor iechyd rhywiol a chael eu profi am heintiau a drosglwyddir yn rhywiol. Dylai unrhyw un sydd angen gwasanaethau iechyd rhywiol barhau i ddefnyddio’r gwasanaeth i ddiogelu eu hiechyd.
Rydw i wedi defnyddio’r gwasanaeth – oes angen i mi wneud unrhyw beth?
Os ydych chi wedi cael prawf iechyd rhywiol ac NAD YDYM wedi cysylltu â chi ynglŷn â chanlyniadau neu atgyfeiriadau anghywir neu wedi’u hoedi, does dim angen i chi wneud unrhyw beth. Mae pob defnyddiwr gwasanaeth sydd wedi cael ei effeithio eisoes wedi cael gwybod ac wedi derbyn y gofal a’r gefnogaeth ddilynol briodol.
Os ydych chi’n poeni am eich iechyd rhywiol yn fwy cyffredinol, dylech chi barhau i gael eich gwirio’n rheolaidd gan ddefnyddio’r gwasanaeth.
Expander item titlePwy sydd gweld fy nghanlyniadau profi a phostio iechyd rhywiol?
Pan fydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn derbyn eich canlyniadau, bydd ein staff yn eu gweld ac yn eu rhannu â’ch Bwrdd Iechyd mewn achosion lle gallai fod angen triniaeth.
Beth aeth o’i le a sut y daeth i’r amlwg?
Cafodd y problemau eu darganfod yn ystod adolygiad mewnol o’n prosesau. Prosesau diogelu pobl sy’n defnyddio’r gwasanaeth profi a phostio iechyd rhywiol ar-lein a chymunedol nad oeddent yn effeithiol nac yn bodloni’r safonau deddfwriaethol gofynnol. Roedd hyn yn golygu bod Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi rhoi gwybodaeth diogelu i fyrddau iechyd, yn hytrach nag i awdurdodau lleol fel y dylem fod wedi’i wneud. Gwnaethom nodi rhai prosesau trin data, yn ymwneud â data personol, nad oeddent yn effeithiol nac yn bodloni’r safonau gofynnol.
Mor fuan ag y daethon ni i wybod am y problemau hyn ym misoedd Tachwedd a Rhagfyr 2025, fe gymeron ni gamau ar unwaith i’w datrys. Rydym eisoes wedi gwneud newidiadau i rai o’n prosesau ac yn cynnal adolygiad a fydd yn ein helpu i nodi unrhyw welliannau pellach.
Beth oedd y problemau y gwnaethoch eu nodi yn y gwasanaeth ar-lein a sut ydych chi’n mynd i’r afael â nhw?
Pan fydd rhywun yn gofyn am brawf iechyd rhywiol ar-lein, gofynnir cyfres o gwestiynau iddynt hefyd i archwilio unrhyw risgiau ynghylch cam-drin, diogelwch a chamfanteisio. Gall y cwestiynau a ofynnir iddynt fod yn wahanol yn seiliedig ar eu hoedran. Pan roddwyd gwybodaeth sy’n dangos y gallai fod risg iddynt, anfonwyd yr wybodaeth honno at fyrddau iechyd ar gyfer asesiad parhaus a chamau diogelu. Ymarfer arferol yw hwn ac mae gan wasanaethau iechyd rhywiol brotocolau diogelu gyda goruchwyliaeth fel rhan o’u llywodraethu clinigol. Fodd bynnag, nid oedd hyn yn cyd-fynd â’n dyletswydd statudol i asesu’r wybodaeth ddiogelu a hefyd i’w hadrodd i awdurdod lleol yr unigolyn.
Bydd y gwelliannau parhaus a’r dysgu o’r digwyddiad yn cynnwys adolygiad o’r cwestiynau a ofynnwn i’r rhai sy’n defnyddio’r gwasanaeth, er mwyn sicrhau bod y rhain yn seiliedig ar ymarfer gorau.
Rydym hefyd wedi nodi rhai pobl ifanc na ofynnwyd y cwestiynau diogelu priodol iddynt. Digwyddodd hyn mewn achosion lle dywedodd person yn anghywir eu bod dros 18 oed yn gynharach yn y broses, ond y nodwyd ar sail eu dyddiad geni eu bod o dan 18 oed.
Beth yw “diogelu gwybodaeth”?
Pan fydd rhywun yn gofyn am brawf iechyd rhywiol, gofynnir nifer o gwestiynau iddynt i’n helpu i ddeall unrhyw risgiau i’w lles a’u diogelwch. Lle darparwyd gwybodaeth a oedd yn dangos y gallent fod mewn perygl, anfonwyd yr wybodaeth honno at fyrddau iechyd, ond ni chafodd ei rhannu ag awdurdodau lleol fel y dylai fod wedi’i wneud.
Pa gamau ydych chi wedi’u cymryd?
Rydym eisoes wedi gwneud newidiadau i’n prosesau diogelu mewnol. Mae pob datgeliad newydd bellach yn cael ei adolygu, caiff ei risg ei hasesu gydag arbenigwyr diogelu, a chaiff ei gyfeirio at awdurdodau lleol lle bo’n briodol. Rydym hefyd yn cynnal adolygiad trylwyr o’n gwasanaeth i nodi unrhyw welliannau pellach sydd eu hangen. Lle nodwyd canlyniadau anghywir neu wedi’u hoedi, fe wnaethom eu cywiro a chysylltu â’r unigolion dan sylw, gan gynnig gofal dilynol priodol.
A fydd pobl ifanc dan 18 oed yn cael blaenoriaeth yn eich adolygiad?
Byddant. Mae’r rhai sydd o dan 18 oed ar hyn o bryd yn cael blaenoriaeth, ond bydd achos unrhyw un a oedd o dan 18 oed ar adeg defnyddio’r gwasanaeth — hyd yn oed os ydyn nhw bellach yn oedolyn — hefyd yn cael ei adolygu a bydd unrhyw gymorth angenrheidiol yn cael ei gynnig iddynt.
A yw fy nata personol yn ddiogel?
Ydy. Mae holl wybodaeth cleifion yn parhau i gael ei thrin yn unol â safonau diogelu data cenedlaethol. Roedd y pryderon trin data y gwnaethom eu nodi’n faterion gweinyddol mewnol. Ni rannwyd unrhyw wybodaeth am ddefnyddwyr gwasanaeth y tu allan i GIG Cymru ac ni chafodd ei chyrchu gan bartïon heb awdurdod. Credwn fod y risg i breifatrwydd unigolion yn isel iawn, ond er mwyn tryloywder rydym wedi adrodd am y mater i’r Comisiynydd Gwybodaeth.
Os oes gennych bryderon ynghylch sut mae eich data personol yn cael ei drin, neu os hoffech wybod pa wybodaeth a ddaliwn amdanoch chi, gallwch gysylltu â’n Swyddog Diogelu Data yn [email protected].
Beth fydd yn digwydd pan fydd yr adolygiad wedi gorffen?
Rydym eisoes wedi gwneud newidiadau i rai o’n prosesau a bydd yr adolygiad allanol annibynnol yn ein helpu i nodi unrhyw welliannau pellach a allai fod eu hangen.
Sut ydyn ni’n diogely pobl ifanc sy’n defnyddio’r gwasanaeth ac yn datelgu risg o gam-drin neu gamfanteisio?
Mae arbenigwyr yn cwrdd bob dydd i drafod unrhyw ddatgeliadau a chymryd camau priodol arnynt yn unol â Gweithdrefnau Diogelu Cymru a’n dyletswydd statudol.
Pa gamau ydych chi wedi’u cymrud i sicrhau y gofynnir cwestiynnau sgrino diogelu i blant a phobl ifanc?
Mae’r porth yn gofyn am oedran a dyddiad geni unigolyn. Os yw unigolyn yn dweud yn anghywir eu bod dros 18 oed byddai hyn yn trechu’r cwestiynau sgrinio diogelu. Er mwyn lleihau’r risg sy’n deillio o hyn, rydym yn gwneud newidiadau i’r system archebu ar-lein er mwyn achub ar bob cyfle i nodi’r rhai sydd o dan 18 oed ac ysgogi cwestiynau diogelu priodol.
Pryd gafodd LLywodraeth Cymru ei hysbysu?
Hysbyswyd Llywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr 2025, ar ôl i ni gadarnhau bod angen uwchgyfeirio’r problemau yn ffurfiol. Rydyn ni’n parhau i roi gwybodaeth iddyn nhw.
Sut alla i gael rhagor o gymorth new gyngor?
Os oes gennych bryderon neu gwestiynau, gallwch ymweld â’n gwefan neu ffonio ein llinell gymorth am ddim: 0800 0352 877. Mae ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener 8am – 8pm ac ar benwythnosau rhwng 10am a 4pm.