Twbercwlosis (TB)
Mae twbercwlosis, a elwir hefyd yn TB yn haint difrifol sy’n effeithio ar yr ysgyfaint ac weithiau rhannau eraill o’r corff, fel yr ymennydd, yr esgyrn, y cymalau a’r arennau.
Mewn pobl ifanc ac oedolion mae fel rheol yn effeithio ar yr ysgyfaint, ond gall hefyd effeithio ar y chwarennau lymff, yr ymennydd, y cymalau, yr arennau a’r esgyrn. Mae’r rhan fwyaf o bobl yn y DU yn gwella’n llwyr ar ôl triniaeth, ond mae hyn fel rheol yn cymryd sawl mis.
Mae twbercwlosis (TB) dynol yn cael ei achosi gan haint gyda’r bacteria Mycobacteriwm twbercwlosis cymhleth (M. tuberculosis, M. bovis, M. africanum neu M.microti) a gall effeithio ar unrhyw ran o’r corff bron. Y ffurf fwyaf cyffredin yw TB ysgyfeiniol.
Gwelwch mwy o wybodaeth am TB ar wefan World Health Organization (Saesneg yn unig) neu ewch i wefan TB Alert (Saesneg yn unig).
Symptomau twbercwlosis
Mae symptomau TB yn amrywio ac yn dibynnu ar leoliad yr haint. Gall symptomau cyffredinol gynnwys:
- twymyn
- colli archwaeth
- colli pwysau
- chwysu nos a
- lludded
Mae TB ysgyfeiniol yn achosi peswch cynhyrchiol parhaus fel rheol, a all gyd-fynd â sbwtwm gwaedlyd, neu, yn fwy anaml, haemoptysis amlwg. Heb ei drin, mae TB yn y rhan fwyaf o oedolion sy’n iach fel arall yn afiechyd sy’n datblygu’n araf a gall fod yn angheuol yn y pen draw.
Mae cyfraddau TB wedi bod yn gostwng yng Nghymru ers 2009. Er gwaethaf hyn, mae’r afiechyd yn parhau i fod yn bryder. Er bod cyfanswm yr achosion wedi gostwng, cynyddodd cyfran yr achosion wedi’u geni yn y DU.
Dysgwch fwy
Os hoffech chi gael gwybod mwy am y brechlyn neu’r afiechydon y mae’n amddiffyn rhagddynt, mae nifer o adnoddau gwybodaeth ar gael i helpu.
Gallwch hefyd ffonio GIG 111 neu eich meddygfa am gyngor os oes gennych chi unrhyw gwestiynau. Mae galwadau i GIG 111 Cymru am ddim o linellau tir a ffonau symudol.
Gwybodaeth bellach
Data
Ni chanfuwyd unrhyw ddata ar gyfer y pwnc hwn