Tetanws
Mae tetanws yn glefyd sy’n effeithio ar nerfau’r corff, gan achosi sbasmau cyhyrau a phroblemau anadlu. Mae’n glefyd difrifol a all arwain at broblemau iechyd difrifol os na chaiff ei drin yn gyflym. Mae’n cael ei achosi pan fydd germau a geir mewn pridd neu dail yn mynd i mewn i’r corff trwy friwiau agored neu losgiadau. Ni all tetanws ledaenu o berson i berson.
Symptomau tetanws
- Anhyblygrwydd yn eich cyhyrau gên (genglo), a all ei gwneud hi’n anodd i chi agor eich ceg
- Sbasmau cyhyr poenus, a all ei gwneud yn anodd anadlu a llyncu
- Tymheredd uchel
- Chwysu
- Curiad calon cyflym
Dysgwch fwy
Os hoffech chi ddysgu mwy am y brechlynnau, neu’r afiechyd y maent yn eu hamddiffyn yn erbyn, mae nifer o adnoddau gwybodaeth ar gael i helpu.
Gallwch hefyd ffonio GIG 111 neu eich meddygfa am gyngor os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu ewch i wefan GIG 111 Cymru i ddysgu mwy am tetanws.
Adroddiadau
Ni chanfuwyd unrhyw ddata ar gyfer y pwnc hwn
Data
Ni chanfuwyd unrhyw ddata ar gyfer y pwnc hwn