Neidio i'r cynnwys

Profiadau niweidiol yn ystod plentyndod

Mae Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACEs) yn ddigwyddiadau trawmatig, yn enwedig y rhai yn ystod plentyndod cynnar, sy’n cael effaith sylweddol ar iechyd a lles pobl.

Gall hyn olygu cam-drin geiriol, cam-drin meddyliol, cam-drin rhywiol a cham-drin chorfforol.

Neu gael eich magu mewn cartref lle mae trais domestig, camddefnyddio alcohol, cyffuriau, neu rieni’n gwahanu.

Beth ydyn ni’n ei wybod am Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod?

Yn 2016, fe wnaethom gyhoeddi ein hastudiaeth gyntaf o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod yng Nghymru.

Ar y pryd, roedd yr astudiaeth yn dangos:

  • fod 47% o oedolion yng Nghymru wedi cael o leiaf un Profiad Niweidiol yn ystod eu plentyndod
  • bod 14% wedi cael pedwar neu fwy o Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod

Os bydd plentyndod rhywun yn llawn straen neu brofiadau gwael, maen nhw’n fwy tebygol o gael problemau iechyd meddwl o ganlyniad i ddiffyg hunan-barch a hunan-werth.

Maen nhw’n fwy tebygol o wneud pethau sy’n niweidiol i’w hiechyd pan fyddan nhw yn eu harddegau hefyd, a gall hynny arwain at glefydau yn hwyrach ymlaen e.e. canser, clefyd y galon, a diabetes

Nid problem iechyd yn unig yw Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod.

Mae’r unigolion hyn yn fwy tebygol o berfformio’n wael yn yr ysgol, a maen nhw’n fwy tebygol o fod yn rhan o droseddau, naill ai fel dioddefwyr neu trwy eu cyflawni.

Yn aml, mae profiadau niweidiol mewn plentyndod yn fwy cyffredin mewn aelwydydd lle mae’r rhiant wedi cael mwy nag un Profiad Niweidiol yn ystod eu plentyndod.

Gall y cylch hwn o brofiadau niweidiol gaethiwo teuluoedd i iechyd gwael ac ymddygiad gwrthgymdeithasol am genedlaethau.

Gallwn dorri’r cylch ar unrhyw adeg – ‘dyw hi byth yn rhy hwyr. Bydd atal profiadau niweidiol rhag digwydd, neu leihau eu heffaith, i un genhedlaeth o blant o fudd nid yn unig iddyn nhw ond i genedlaethau i ddod yng Nghymru.

Nid dim ond plant sy’n cael eu heffeithio gan brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Maen nhw’n effeithio ar bobl o bob oed ac yn croesi pob ffin gymdeithasol, nid dim ond y rhai sy’n byw mewn tlodi.

Fodd bynnag, mae ein gwaith ymchwil yn dangos bod y rhai sy’n byw mewn ardaloedd o amddifadedd mewn mwy o berygl o gael mwy nag un Profiad Niweidiol yn ystod Plentyndod.

Beth ydyn ni’n ei wneud i fynd i’r afael â Phrofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod?

Nod Hyb ACE Cymru yw sicrhau bod Cymru ar flaen y gad o ran sicrhau plentyndod sy’n rhydd o brofiadau niweidiol. Ein cenhadaeth yw rhannu syniadau a dysg a herio a newid ffyrdd o weithio. Gyda’n gilydd gallwn dorri’r cylch.

Byddwn yn gwneud hyn trwy:

  • Rannu dealltwriaeth a gwybodaeth er mwyn galluogi cymunedau, plant a theuluoedd i gyd-ddylunio atebion a fydd yn gweithio iddyn nhw.
  • Rhannu tystiolaeth am yr hyn y gall sefydliadau ei wneud yn wahanol er mwyn helpu i atal a lliniaru Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod
  • Datblygu gwybodaeth a sgiliau gweithwyr proffesiynol, gan ddarparu hyfforddiant a fydd yn eu galluogi nhw a’u sefydliadau i ehangu eu rhwydweithiau mewnol ac allanol ac i newid arferion.
  • Casglu gwybodaeth gan unigolion, cymunedau, sefydliadau a’r system ehangach a’i rannu mewn ystod o setiau dysgu gweithredol a chymunedau ymarfer.
  • Gyrru newid a thrawsnewid systemau ar lefelau lleol a chenedlaethol.

Dysgwch fwy am Hyb ACE Cymru.

Cysylltu

Cysylltwch â Hwb Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (ACEs) am ragor o wybodaeth a manylion ar sut i gysylltu â’r tîm.

Gallwch hefyd gysylltu ag Uned Cydweithredu Iechyd y Cyhoedd am ragor o wybodaeth.

Gwybodaeth bellach

Ni chanfuwyd unrhyw ddata ar gyfer y pwnc hwn

Data

Ni chanfuwyd unrhyw ddata ar gyfer y pwnc hwn