Neidio i'r cynnwys

Ffliw

Gall y ffliw fod yn ddifrifol iawn. Mae’n cael ei achosi gan feirws, sy’n cael ei ledaenu gan beswch a thisian. Gall symptomau ffliw fod yn ysgafn ond gall hefyd arwain at afiechydon mwy difrifol fel broncitis a niwmonia (heintiau ar yr ysgyfaint), a all fod angen triniaeth yn yr ysbyty. 
 
Mae ffliw yn heintus iawn, a gall symptomau ymddangos yn gyflym iawn. Mae symptomau ffliw yn cynnwys tymheredd uchel, blinder a gwendid, cur pen, poenau a pheswch.

Mae achosion o ffliw y rhan fwyaf o aeafau, yn enwedig mewn ysbytai a chartrefi gofal. Mewn gaeaf arferol, bydd miloedd o bobl yn marw o salwch sy’n gysylltiedig â ffliw yn y DU. Cael brechlyn ffliw bob blwyddyn yw un o’r ffyrdd gorau o amddiffyn rhag y ffliw. 

Pan fydd pobl yn cael y ffliw, maent yn tueddu i fynd yn sâl yn eithaf cyflym. Gall symptomau gynnwys twymyn, oerfel, cur pen a chyhyrau poenus, yn aml gyda pheswch a dolur gwddf. 

Sut byddaf yn gwybod a oes ffliw arnaf?

Nid yw tua hanner y bobl sydd wedi’u heintio â’r ffliw hyd yn oed yn sylweddoli hynny, ac eto gallant ledaenu’r feirws i eraill o hyd. Gall hyn weithiau achosi salwch difrifol gan arwain at ofal ysbyty, ac mewn achosion prin, marwolaeth.  

Mae rhai symptomau COVID-19 yn debyg i’r ffliw, felly gwiriwch y cyngor diweddaraf a dilynwch y canllawiau COVID-19 cyfredol.

Beth ddylwn i ei wneud os ydw i’n meddwl bod gen i’r ffliw?

Os oes gennych chi dymheredd neu beswch, dilynwch y canllawiau cyfredol i bobl sydd â symptomau haint anadlol, gan gynnwys COVID-19.

Fel arfer rheolir y ffliw trwy orffwys gartref, cadw’n gynnes ac yfed digon o ddŵr. Gallwch gymryd paracetamol (dilynwch y cyngor yn y pecyn a pheidiwch â chymryd mwy na’r dos a argymhellir), i ostwng tymheredd uchel a lleddfu poenau os oes angen. 

Fodd bynnag, os ydych chi mewn grŵp risg uchel, dylech siarad â’ch practis meddyg teulu neu’ch fferyllfa leol ar unwaith os ydych chi’n meddwl y gallai fod gennych chi’r ffliw, gan y gallent argymell cwrs o feddyginiaeth gwrthfeirol. 

Er mwyn helpu i atal y ffliw a feirysau eraill rhag lledaenu, cofiwch: 

  1. Cam 1:Daliwch e

    Defnyddiwch hances bapur pan fyddwch chi’n tisian neu’n peswch.

  2. Cam 2:Biniwch e

    Rhowch yr hances bapur yn y bin cyn gynted â phosibl.

  3. Cam 3:Lladdwch e

    Golchwch eich dwylo neu defnyddiwch hylif diheintio dwylo.

Dysgwch fwy

Os hoffech chi ddysgu mwy am y brechlynnau, neu’r afiechyd y maent yn eu hamddiffyn yn erbyn, mae nifer o adnoddau gwybodaeth ar gael i helpu.

Os oes gennych gwestiynau neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth, gallwch fynd i wefan GIG 111 Cymru, siarad â’ch meddyg neu nyrs, neu gysylltu â GIG 111 Cymru drwy ffonio 111.  

Adroddiadau

Ni chanfuwyd unrhyw ddata ar gyfer y pwnc hwn

Data

Ni chanfuwyd unrhyw ddata ar gyfer y pwnc hwn