Brech M
Mae brech M yn glefyd prin a achosir gan y feirws brech M (a elwir hefyd yn feirws brech y mwnci neu MPXV). Mae’r feirws brech M yn debyg i’r feirws sy’n achosi’r frech wen, ond mae’n achosi salwch gwahanol. Mae’r rhan fwyaf o bobl sydd â brech M yn gwella heb driniaeth o fewn ychydig wythnosau, ond gall rhai pobl fynd yn ddifrifol wael. Mae’r risg o ddal brech M yng Nghymru yn isel ar hyn o bryd. Mae nifer fach o achosion o frech M wedi cael eu hadrodd yn y DU er 2022.
Mae brigiadau o achosion o frech M wedi digwydd yn bennaf yng Nghanolbarth a Dwyrain Affrica. Fodd bynnag, ers 2022, mae’r feirws wedi lledaenu i wledydd eraill, yn cynnwys y DU.
Gall pobl sydd â chysylltiad agos ag aelodau’r gymuned GBMSM sydd mewn perygl o gael brech M hefyd gael y brechlyn. Mae hyn yn cynnwys pobl o bob rhywedd neu gyfeiriadedd rhywiol.
Gweithredwch: Os ydych chi’n meddwl eich bod chi mewn perygl, trefnwch apwyntiad gyda’ch gwasanaeth iechyd rhywiol.
I gael rhagor o wybodaeth am iechyd rhywiol, yn cynnwys cyngor a phrofion yn eich ardal chi, ewch i wefan Iechyd Rhywiol Cymru.
Mae rhestr o wasanaethau iechyd rhywiol ledled Cymru i’w gweld ar gwefan GIG 111 Cymru.
Sut mae brech M yn lledaenu?
Er mwyn i’r feirws brech M ledaenu rhwng pobl, rhaid bod cyswllt agos rhyngddynt. Gall ledaenu drwy’r canlynol:
- cyswllt corfforol agos â briwiau brech M (briwiau agored) neu grachod (yn ystod rhyw, cusanu, cwtsio neu ddal dwylo)
- cyswllt corfforol agos â hylifau corfforol (megis poer, llysnafedd trwyn (snot) neu fwcws), yn cynnwys yn ystod cyswllt rhywiol; a
- chyswllt â dillad gwely, dillad neu dywelion a ddefnyddir gan rywun sydd â brech M.
Gall brech M hefyd ledaenu trwy besychu, tisian neu anadlu yn agos at rywun. Fodd bynnag, mae tystiolaeth gyfyngedig ar gyfer hyn.
Beth yw symptomau brech M?
Mae symptomau brech M (gweler isod) fel arfer yn dechrau ymhen pump i 21 diwrnod ar ôl cael eich heintio. Fodd bynnag, nid yw pawb sydd â brech M yn cael yr holl symptomau hyn. Er bod y rhan fwyaf o bobl yn gwella ar eu pen eu hunain o fewn ychydig wythnosau, gall rhai pobl fynd yn sâl iawn.
Gall y symptomau cynnar gynnwys:
- twymyn
- cur pen/pen tost
- symptomau tebyg i’r ffliw (poen yn y cymalau, poen yn y cyhyrau a phoen cefn, teimlo’n rhynllyd a blinder), a
- chwarennau wedi chwyddo yn y gwddf, y ceseiliau neu’r afl.
Fel arfer, mae brech yn ymddangos rhwng un a phum diwrnod ar ôl i dwymyn ddechrau.
- Gall y frech ddechrau ar yr wyneb neu yn ardal yr organau cenhedlu.
- Gall yna ledaenu i rannau eraill o’r corff.
Mae’r frech yn mynd trwy sawl cam cyn ffurfio crachod sy’n cwympo i ffwrdd.
Gall brech M barhau i ledaenu i bobl eraill nes bod y crachod wedi gwella’n llwyr. Gall y frech a achosir gan frech M weithiau edrych fel clefydau eraill, fel brech yr ieir.
Os ydych chi’n meddwl bod gennych chi symptomau brech M, cysylltwch â GIG 111 Cymru drwy ffonio 111, neu cysylltwch â gwasanaeth iechyd rhywiol neu’ch meddyg teulu ar unwaith.
I gael rhagor o wybodaeth am symptomau brech M, ewch i wefan GIG 111 Cymru.
Pwy sydd mewn mwy o berygl o salwch difrifol o frech M?
Mae brech M fel arfer yn ysgafn, ac mae’r rhan fwyaf o bobl yn gwella o fewn ychydig wythnosau heb driniaeth Mae’r bobl ganlynol mewn mwy o berygl o glefyd difrifol o frech M.
- Plant
- Merched beichiog
- Pobl â system imiwnedd wan iawn
Beth yw’r gwahanol cytrasau brech M?
Cytrasau yw grwpiau o’r feirws sydd ychydig yn wahanol i’w gilydd. Mae dau brif gytras o’r feirws brech M – Cytras 1 a Chytras 2. Mae Cytras 2 fel arfer yn achosi salwch ysgafnach a Chytras 2 oedd wrth wraidd y brigiad o achosion a ddechreuodd yn y DU yn 2022.
Beth alla i ei wneud i amddiffyn fy hun ac eraill rhag brech M?
Os ydych chi’n gymwys i gael y brechlyn, bydd yn helpu i’ch amddiffyn eich hun ac eraill. Dylech chi hefyd wneud y canlynol:
- golchi eich dwylo’n rheolaidd gyda dŵr a sebon neu ddefnyddio hylif diheintio
- osgoi cael rhyw a chyswllt agos os oes gennych symptomau
- osgoi rhannu dillad gwely neu dywelion gyda rhywun a allai fod â brech M, a
- chadw golwg am symptomau am dair wythnos ar ôl teithio i wledydd lle mae brech M yn bresennol.
Dysgwch fwy
Os hoffech chi ddysgu mwy am y brechlyn, neu’r afiechyd y maent yn eu hamddiffyn yn erbyn, mae nifer o adnoddau gwybodaeth ar gael i helpu.
Gallwch hefyd ffonio GIG 111 neu eich meddygfa am gyngor os oes gennych chi unrhyw gwestiynau.
Gwybodaeth bellach
Adroddiadau
Ni chanfuwyd unrhyw ddata ar gyfer y pwnc hwn
Data
Ni chanfuwyd unrhyw ddata ar gyfer y pwnc hwn