Atal a rheoli heintiau
Mae atal a rheoli heintiau yn ddull ymarferol sy’n seiliedig ar dystiolaeth i atal cleifion a gweithwyr iechyd rhag niwed a achosir gan heintiau y gellir eu hosgoi.
Llawlyfr Atal a Rheoli Heintiau Cenedlaethol (NIPCM)
Rydym wedi partneru â GIG yr Alban i gynnal a defnyddio eu Llawlyfr Atal a Rheoli Heintiau Cenedlaethol (NIPCM) (Saesneg yn unig) er mwyn sicrhau bod gan bob sefydliad gofal iechyd yng Nghymru fynediad at bolisïau cyson, cyfredol a safonol i gefnogi ymarfer.
Mae’r Polisïau Model ar gyfer Atal a Rheoli Heintiau ar gyfer Rhagofalon Rheoli Heintiau Safonol a Pholisïau Rhagofalon ar sail Trosglwyddo, a ddatblygwyd yn flaenorol gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, wedi’u disodli gan fabwysiadu Llawlyfr Atal a Rheoli Heintiau Cenedlaethol yr Alban (NICM).
Mae’r llawlyfr electroneg hwn wedi’i fabwysiadu i’w ddefnyddio gan bob sefydliad gofal iechyd yng Nghymru ac mae’n seiliedig ar adolygiadau systematig o’r llenyddiaeth a pholisïau gan Iechyd Diogelu’r Alban. Rydym yn ddiolchgar iawn am eu gwaith.
Fel rhan o’r broses o ddiweddaru’r llawlyfr yn rheolaidd, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cyfrannu at y pwyllgor consensws sy’n cymeradwyo ac yn cadarnhau newidiadau er mwyn sicrhau eu bod yn addas at y diben.
Gobeithiwn y bydd y llawlyfr electroneg hwn yn:
- cyfrannu at ymarfer safonol mewn atal heintiau ac, o ganlyniad, at leihau HCAI ac arwain at leihau niwed
- gwella ansawdd y gofal i’n cleifion
Taflenni i drafod gyda chleifion
Gellir dod o hyd i daflenni i’w trafod gyda chleifion ar wefan e-ddysgu RCGP (Saesneg yn unig).
Adroddiadau
Data
Ni chanfuwyd unrhyw ddata ar gyfer y pwnc hwn