Neidio i'r cynnwys

Anomaleddau cynhenid a chlefydau prin

Mae’r Comisiwn Ewropeaidd yn disgrifio clefyd anghyffredin fel “Clefyd sy’n peryglu bywyd neu’n barhaol wanychol – sydd wedi’i etifeddu gan amlaf … ac yn effeithio ar lai na 5 o bobl ym mhob 10,000”.

Mae mwy na 50% o glefydau anghyffredin yn digwydd mewn plant dan 5 mlwydd oed, ac mae 80% o’r rhain yn rhai cynhenid neu etifeddol. Gwyddys am fodolaeth rhyw 6,000 i 8,000 o glefydau anghyffredin. Wrth i waith ymchwil ym maes geneteg barhau i symud yn ei flaen, mae rhagor o wybodaeth am glefydau’n dod i’r amlwg o hyd.

Nod y gwasanaeth cofrestru a gwybodaeth anomali cynhenid (CARIS)

Nod y Gwasanaeth Cofrestru a Gwybodaeth Anomali Cynhenid (CARIS) yw darparu data dibynadwy ar anghysonderau cynhenid yng Nghymru y gellir eu defnyddio i asesu patrymau anghysondebau, gan gynnwys clystyrau posibl a’u hachosion ac i lywio gwaith gwasanaethau iechyd, gan gynnwys sgrinio cynenedigol.

Cofrestr clefydau prin ymhlith oedolion

Prif ddiben y gofrestr clefydau prin yw coladu data o ansawdd uchel am glefydau prin mewn un lle. Wedyn gall y data gael eu defnyddio gan y llywodraeth, staff gofal iechyd, sefydliadau elusennol a’r cyhoedd i helpu i wella’r gwasanaethau sydd ar gael i gleifion â chlefydau prin.

Mae cwmpas y gofrestr yn parhau i ehangu er mwyn helpu i ddiwallu anghenion y gymuned clefydau prin a’r gwasanaeth iechyd yng Nghymru.

Mae’r gofrestr yn bodloni angen cydnabyddedig fel y nodir yn Fframwaith Clefydau Prin y DU ar wefan GOV.UK (Saesneg yn unig.).

Mae gwaith y gofrestr yn cael ei lywio gan weithrediaeth Rhwydwaith Gweithredu Clefydau Prin Cymru (RDIN).

Gwybodaeth bellach

Ni chanfuwyd unrhyw ddata ar gyfer y pwnc hwn

Adnoddau

Ni chanfuwyd unrhyw ddata ar gyfer y pwnc hwn

Adroddiadau

Ni chanfuwyd unrhyw ddata ar gyfer y pwnc hwn

Data

Ni chanfuwyd unrhyw ddata ar gyfer y pwnc hwn