Ynglŷn â sgrinio'r fron - Eich canlyniadau sgrinio’r fron
Ein nod yw anfon eich llythyr canlyniadau atoch drwy’r post o fewn tair wythnos o’ch apwyntiad. Bydd eich meddyg yn cael copi o’ch canlyniadau hefyd.
Os yw’r pelydr-x o’ch bron yn dangos nad oes angen profion pellach, byddwch chi’n cael gwahoddiad i ddod i gael eich sgrinio eto ymhen tair blynedd.
Gofynnir i rai pobl gael pelydr-x arall o’r fron cyn y gellir rhoi canlyniad. Mae hyn oherwydd nad oedd y delweddau’n glir. Byddwn yn dweud wrthych os dyma’r rheswm.
Cewch wahoddiad ar gyfer sgrinio hyd nes y byddwch yn 70 oed. Os ydych yn 70 oed neu hŷn, gallwch wneud apwyntiad i fynychu sgrinio y tro nesaf byddwn yn sgrinio yn eich ardal, trwy gysylltu â ni.
Os yw’r pelydr-x o’ch bron yn dangos newid posibl yn eich bron, cynigir apwyntiad asesu i chi yn un o’r canolfannau sgrinio. Cewch eich gweld gan arbenigwr a chael cynnig profion pellach.
Os cewch wahoddiad am brofion pellach mae’n bwysig eich bod yn mynychu. Ceir rhagor o wybodaeth am apwyntiadau asesu ar gael yn y daflen Rhesymau Pam Rydych Chi Angen Prawf Arall.
Gofynnir i tua phedair o bob 100 o fenywod ddod yn ôl am ragor o brofion ar ôl sgrinio. Mae hyn oherwydd bod angen rhagor o wybodaeth cyn y gallwn roi canlyniad.
Os cewch eich gwahodd i gymryd profion pellach, mae’n bwysig eich bod yn mynychu.
Beth sy’n digwydd i’m pelydrau-x ar ôl iddynt gael eu gwirio?
Rydym yn cadw eich mamogramau’n ddiogel am o leiaf 8 mlynedd, er mwyn i ni allu gwneud y canlynol:
- Cymharu eich mamogramau diweddaraf â’r rhai rydych wedi’u cael o’r blaen.
- Adolygu pob cofnod sgrinio, gan gynnwys mamogramau.
- Hyfforddi a chynyddu arbenigedd ein staff arbenigol.
- Mesur ansawdd y gwasanaeth rydym yn ei ddarparu.
Efallai y bydd angen i staff sy’n gweithio mewn rhannau eraill o’r gwasanaeth iechyd weld eich cofnodion i helpu gyda’ch gofal meddygol. Os bydd adolygiad yn dangos y dylai eich gofal fod wedi bod yn wahanol, byddwn yn cysylltu â chi. Os dymunwch, gallwn roi mwy o wybodaeth i chi am eich achos.
Er mwyn i ni allu cysylltu â chi fel rhan o’r rhaglen hon, bydd angen i ni drin rhywfaint o’ch gwybodaeth bersonol.
Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, gallwch:
- ddarllen ein hysbysiad preifatrwydd;
- anfon e-bost at [email protected]; neu
- ffonio 02920 104307
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 11eg Chwefror 2026