Ynglŷn â sgrinio'r fron - Mamograffeg a risg ymbelydredd
Oes risg o ymbelydredd?
Rydym yn defnyddio mamograffeg (pelydrau-x o’r fron) i ddod o hyd i ganser y fron. Mae hyn yn golygu bod ymbelydredd yn cael ei basio trwy’ch bron i ffurfio llun. Gall ymbelydredd achosi canser, ond mae’r risg a ddaw o gael pelydr-x o’r fron yn isel iawn.
Mae’r buddiannau yn fwy o lawer na’r risg ymbelydredd.
Mae nifer y bywydau sy’n cael eu hachub trwy ganfod a thrin canser y fron yn fwy o lawer na nifer y bobl a allai farw oherwydd canser a achosir gan ymbelydredd.
Sut ydyn ni’n mynd ati i leihau’r risg?
Dos yw’r enw a roddir ar swm yr ymbelydredd. Rydym yn gwirio ein hoffer i sicrhau ei fod yn rhoi’r cydbwysedd gorau rhwng y dos ac ansawdd y pelydr-x o’r fron ar gyfer pob bron unigol sy’n cael ei delweddu. Mae’r dosau a roir gan ein holl offer yn cydymffurfio â safonau’r DU. Rydym yn lleihau dos ymbelydredd diangen trwy sicrhau mai ychydig iawn o belydrau-x y mae angen eu hailadrodd.
Pa mor fawr yw’r risg?
Mae’r risg o gael canser a achosir gan ymbelydredd o gael mamogram rhwng 1 mewn 49,000 ac 1 mewn 98,000 fesul ymweliad.
Sut mae’r risg yn cymharu â’r buddiannau?
Amcangyfrifir y darganfyddir tua 400-800 o ganserau’r fron am bob achos o ganser unigol a achosir gan ymbelydredd o gael pelydr-x y fron. Mae ymchwil wedi dangos bod rhaglenni sgrinio’r fron yn arbed tua 1,300 o fywydau yn y DU bob blwyddyn, gan fod darganfod canserau’n gynnar yn arwain at gyfraddau goroesi gwell.
Sut mae’r dos o famograffeg yn cymharu â ffynonellau ymbelydredd eraill?
Mae maint yr ymbelydredd a geir yn ystod pelydr-x o’r fron yn fach iawn. Mae pethau sy’n eich amlygu i tua’r un dos o ymbelydredd a’r un risg â phelydr-x o’r fron yn cynnwys:
- Ychydig fisoedd o ymbelydredd naturiol sydd yn y cefndir (neu ychydig wythnosau yng Nghernyw)
- Ychydig o hediadau pellter hir
Beth yw effaith cael llawer o archwiliadau pelydr-x?
Mae gan bob archwiliad pelydr-x unigol ei lefel risg ei hun. Er mwyn amcangyfrif effaith cael llawer o archwiliadau, mae’r risgiau’n cael eu hychwanegu at ei gilydd. Nid yw’n gwneud unrhyw wahaniaeth p’un a yw’r archwiliadau i gyd yn cael eu gwneud yn ystod un diwrnod neu’n cael eu gwneud dros gyfnod o nifer o flynyddoedd. Mae cyfanswm y risg yr un peth.
Beth am famograffeg yn ystod beichiogrwydd neu fwydo ar y fron?
Cyfeirir yr ymbelydredd at eich bron yn unig wrth wneud mamograffeg. Mae’r risg i fabi yn y groth yn ddibwys. Fodd bynnag, os credwch ei bod yn bosibl eich bod yn feichiog a bod gennych bryderon am y risg, siaradwch â ni cyn cael pelydr-x o’ch bron.
Cyfeirir yr ymbelydredd at eich bron yn unig wrth wneud mamograffeg. Mae’r risg i faban yn y groth yn ddibwys. Fodd bynnag, os ydych chi’n meddwl eich bod chi’n feichiog neu os ydych chi’n bwydo ar y fron, ac os oes gennych chi bryderon am y risg, mynnwch air â ni cyn cael eich pelydr-x o’r fron.
Ffynonellau gwybodaeth
- Risg ymbelydredd gyda mamograffeg ddigidol mewn sgrinio’r fron (Saesneg yn unig)
- Amlygiad i ymbelydredd ïoneiddio o gyngor diogelwch delweddu meddygol (Saesneg yn unig)
- Cymariaethau dosau ymbelydredd ïoneiddio (Saesneg yn unig)
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 9fed Chwefror 2026