Ynglŷn â sgrinio serfigol - Eich apwyntiad sgrinio serfigol (ceg y groth)
Ble y byddaf yn cael fy sgrinio?
Gallwch gael eich prawf sgrinio serfigol yn eich practis meddygon teulu. Efallai y bydd yn bosibl ei gael mewn clinig iechyd rhywiol. Os hoffech gael eich gweld gan nyrs neu feddyg benywaidd, gallwch ofyn am hyn pan fyddwch chi’n archebu eich apwyntiad.
Newid fy apwyntiad
Os bydd angen i chi newid eich apwyntiad, cysylltwch â’ch practis meddygon teulu neu’ch clinig iechyd rhywiol. Mae modd trefnu apwyntiad arall.
Dim ond hyn a hyn o apwyntiadau ar gyfer profion sgrinio serfigol sydd ar gael. Rhowch wybod i’ch practis meddygon teulu neu’ch clinig iechyd rhywiol os nad ydych yn bwriadu mynd i’ch apwyntiad, fel bod modd iddynt ei gynnig i rywun arall.
Os gwnaethoch fethu eich apwyntiad sgrinio serfigol, cysylltwch â’ch practis meddygon teulu neu’ch clinig iechyd rhywiol i drefnu apwyntiad arall. Mae’n bwysig i chi beidio ag aros i gael eich gwahodd eto.
Beth os nad ydw i am gael fy sgrinio?
Os nad ydych am i unrhyw wahoddiadau gael eu hanfon atoch yn y dyfodol, gallwch gysylltu â Sgrinio Serfigol Cymru a byddwn yn anfon ffurflen ‘optio allan’ atoch.
Os byddwch chi’n penderfynu optio allan o gael eich sgrinio, gallwch ddewis ‘optio i mewn’ eto unrhyw bryd.
Paratoi ar gyfer fy apwyntiad
Cyn eich apwyntiad:
- Darllenwch yr wybodaeth rydym wedi’i hanfon atoch.
- Cysylltwch â’ch practis meddygon teulu neu’ch clinig os oes angen cymorth arnoch yn ystod eich apwyntiad.
- Cysylltwch â’ch practis meddygon teulu os ydych chi’n ofalwr i’r person sydd wedi’i wahodd i gael prawf sgrinio, neu os oes angen cymorth arnoch i fynd ar wely archwilio ac oddi arno.
- Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau am eich llythyr gwahoddiad neu’r daflen.
Ni allwch gael eich profi yn ystod eich mislif. Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud apwyntiad cyn neu ar ôl eich mislif. Mae’n ddefnyddiol gwybod dyddiad eich mislif diwethaf (os ydych yn dal i’w cael).
Os ydych chi’n defnyddio meddyginiaeth y wain yr ydych yn ei rhoi yn y wain (e.e. elïau, pesarïau, neu geliau), gwnewch yn siŵr bod o leiaf 72 awr wedi mynd heibio ers eich dos olaf cyn dod i’ch apwyntiad sgrinio ceg y groth (smear). Mae hyn er mwyn helpu sicrhau bod y sampl a gesglir mor gywir a dibynadwy â phosibl. Os nad ydych yn siŵr am amseriad eich apwyntiad mewn perthynas â’ch meddyginiaeth, cysylltwch â’r sawl sy’n cymryd eich sampl am gyngor.
Mae’n bosibl y bydd rhai pobl yn teimlo embaras, yn enwedig os byddan nhw’n cael eu profi am y tro cyntaf. Rhowch wybod i’r sawl sy’n cymryd eich sampl os ydych chi’n poeni neu’n teimlo’n bryderus am gael y prawf.
Ynglŷn â’r prawf
Bydd y prawf yn cael ei gymryd mewn ystafell glinig. Cyn cymryd y prawf, bydd y sawl sy’n cymryd y sampl yn gwneud y canlynol:
- Cadarnhau’ch manylion.
- Siarad â chi am yr hyn y mae’r prawf yn ei gynnwys.
- Gofyn i chi am unrhyw broblemau meddygol sydd gennych.
- Gofyn i chi am unrhyw feddyginiaeth rydych chi’n ei chymryd.
Bydd angen i chi dynnu’ch dillad isaf a mynd ar wely. Bydd gofyn i chi orwedd ar eich cefn, gan blygu’ch pengliniau a rhoi’ch traed ar y gwely. Mae gan rai clinigau welyau arbennig, sy’n cynnal eich coesau.
Bydd y sawl sy’n cymryd y sampl yn rhoi sbecwlwm (offeryn meddygol) yn eich fagina yn ysgafn. Mae modd agor y sbecwlwm, er mwyn gweld ceg y groth. Yna, bydd yn symud brwsh neilon meddal dros geg y groth i gymryd sampl o’r celloedd. Dim ond ychydig o funudau y bydd y prawf yn ei gymryd.
Ceg y groth yw rhan isaf eich croth (fe’i gelwir yn ‘wterws’ hefyd). Weithiau fe’i gelwir yn ‘wddf y groth’. Mae ceg y groth yn cysylltu â phen uchaf eich fagina.
Bydd y sampl yn cael ei roi mewn pot o hylif ac yna bydd y sbecwlwm yn cael ei dynnu’n araf. Bydd y sampl yn cael ei anfon i’r labordy.
Mae’n bosibl y bydd y prawf yn anghyfforddus i rai pobl. Dywedwch wrth y sawl sy’n cymryd y sampl os ydych chi am i’r prawf ddod i ben ar unrhyw adeg. Nid yw’n anarferol cael ychydig bach o waedu ar ôl y prawf.
Dewch o hyd i atebion i gwestiynau cyffredin am sgrinio serfigol yn ein hadran cwestiynau cyffredin.
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 17eg Chwefror 2026