Neidio i'r cynnwys

Ynglŷn â sgrinio serfigol - Eich gwahoddiad sgrinio serfigol (ceg y groth)

Pwy gaiff ei sgrinio?

Mae merched a phobl â cheg y groth rhwng 25 i 64 oed yn cael eu sgrinio bob pum mlynedd.

Os ydych yn 65 oed neu’n hŷn ac nid ydych erioed wedi cael prawf sgrinio serfigol (ceg y groth), yna gallwch ofyn am gael un.

Mae’n bosibl y bydd pobl drawsryweddol neu anneuaidd yn cael eu gwahodd i gael prawf sgrinio serfigol. I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch ein gwybodaeth i bobl drawsryweddol neu anneuaidd.

Mae’n bwysig eich bod yn siarad â’ch meddyg os byddwch yn sylwi ar unrhyw symptomau. Peidiwch ag aros ar gyfer eich apwyntiad sgrinio sefigol. 

Sut byddaf yn cael fy ngwahodd?

Sgrinio Serfigol Cymru sy’n gyfrifol am raglen sgrinio serfigol y GIG yng Nghymru, gan gynnwys anfon gwahoddiadau. Rydym yn derbyn eich manylion cyswllt gan restr eich meddyg, felly mae’n bwysig bod gan eich meddyg eich enw a’ch cyfeiriad cywir.

Bydd Sgrinio Serfigol Cymru yn anfon llythyr atoch yn y post i drefnu apwyntiad yn eich meddygfa, clinig cynllunio teulu lleol neu glinig iechyd rhywiol.

Os nad ydych wedi’ch cofrestru gyda meddyg, cysylltwch â ni i wirio a allwch gael prawf sgrinio serfigol. Rhowch wybod i ni os byddwch chi’n symud, oherwydd bydd angen i chi lenwi ffurflen newid cyfeiriad.

Mae’n bosibl y bydd rhai pobl yn cael eu gwahodd i gael eu sgrinio nad oes ei angen arnynt. Cysylltwch â ni i roi gwybod i ni fel y gallwn roi’r gorau i anfon gwahoddiadau atoch.

Os ydych chi’n drawsryweddol neu’n anneuaidd ac wedi’ch cofrestru gyda’ch meddyg fel gwryw a bod gennych chi geg y groth, ni fyddwch chi’n cael eich gwahodd, ond mae’n bwysig eich bod chi’n cael eich sgrinio. Cysylltwch â ni neu’ch meddyg, fel y gallwch chi gael gwahoddiad.

 A oes unrhyw eithriadau?

  • Mae unigolion sydd angen apwyntiad dilynol ar ôl darganfod newidiadau i’r celloedd yn aml yn cael eu gwahodd yn amlach. Mae hyn yn cynnwys y rhai dan 25 oed sydd â newidiadau gradd uchel i’r celloedd.  
  • Cynghorir unigolion sydd â Feirws Imiwnoddiffygiant Dynol (HIV) i gael eu sgrinio bob blwyddyn nes eu bod yn 65 oed oherwydd efallai y byddant yn ei chael yn anos cael gwared ar HPV. 

Beth petawn i heb ymateb i’r gwahoddiad?

Gwybodaeth:

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cysylltu ag unigolion nad ydynt wedi dod i’w hapwyntiad sgrinio serfigol. Ein nod yw:

  • deall yn well y rhesymau pam nad yw pobl yn manteisio ar eu gwahoddiad sgrinio
  • i gynnig cymorth i’r rhai sydd heb gael eu sgrinio ers tro; a
  • helpu pobl i drefnu apwyntiad, os oes angen.

Bydd yr wybodaeth hon yn ein helpu i wella’r gwasanaeth sgrinio rydym yn ei gynnig.

Os yw eich meddygfa yn cymryd rhan, bydd pobl nad ydynt wedi mynychu ar gyfer sgrinio serfigol yn cael eu cysylltu o’r rhif ffôn hwn: 02920 537280. Gallwch gysylltu â ni ar 01792 940 940 i wirio a wnaed yr alwad gan Iechyd Cyhoeddus Cymru neu i gael cymorth i drefnu eu hapwyntiad sgrinio.

Beth os bydd angen cymorth ychwanegol arnaf?

Deall yr wybodaeth

Os ydych chi, neu unigolyn rydych yn ei gynorthwyo angen cymorth i ddeall neu ddarllen yr wybodaeth rydym wedi’i hanfon atoch, cysylltwch â ni. Gallwn roi gwybodaeth i chi mewn fformatau gwahanol. I gael rhagor o wybodaeth, efallai yr hoffech ymweld â’n tudalennau Hawdd ei Ddeall, BSL, Sain a Fideo. 

Mynd i fy apwyntiad

Os ydych chi, neu unigolyn rydych yn ei gynorthwyo angen cymorth ychwanegol i gael eich/ei sgrinio, cysylltwch â’ch practis meddygon teulu neu’ch clinig cyn yr apwyntiad os:

  • Bydd angen cyfieithydd ar y pryd arnoch gan nad yw’r Gymraeg na Saesneg yn iaith gyntaf i chi.
  • Oes anabledd gennych chi, fel y gall y practis meddygon teulu neu’r clinig gynnig apwyntiad hygyrch i chi.
  • Ydych yn defnyddio ci cymorth.
  • Oes angen i ofalwr ddod gyda chi.
  • Ydych yn gofalu am rywun na all wneud penderfyniadau.
  • Oes gennych atwrneiaeth dros iechyd a llesiant ar gyfer yr unigolyn sydd wedi cael ei wahodd. Byddai angen i chi ddod ag ID a’r ddogfen Atwrneiaeth gyda chi i’w apwyntiad.

Teithio i fy apwyntiad

Os ydych chi’n credu eich bod yn gymwys i gael cymorth i deithio i’ch apwyntiad, gallwch gysylltu â’r Gwasanaethau Cludo Cleifion yn eich ysbyty lleol. Mae’n bosibl y byddan nhw’n gallu’ch cynorthwyo chi.

Cynllun Costau Teithio Gofal Iechyd

Gan fod costau byw uwch yn effeithio ar lawer ohonom, mae’n bwysig gwybod pa gymorth sydd ar gael gan y GIG.

Er nad yw cymorth ariannol ar gyfer mynychu apwyntiadau sgrinio arferol yn cael ei ddarparu o dan reolau’r Adran Iechyd, mae’n bosibl y bydd rhai pobl sydd angen dod yn ôl am brofion pellach yn gymwys i gael cymorth ariannol.

Mae ‘Cynllun Costau Teithio Gofal Iechyd’ (HTCS) y GIG (Saesneg yn unig) yn rhoi canllawiau clir i bobl ynghylch pryd y gellir darparu cymorth ariannol. Mae gan y cynllun feini prawf cymhwysedd llym. I’r rhai sy’n gymwys, mae’r cynllun yn cefnogi’r gost o deithio i’r ysbyty neu eiddo arall y GIG ar gyfer triniaeth a ariennir gan y GIG neu brofion diagnostig.

I weld a ydych yn gymwys i gael cymorth ariannol, ewch i dudalennau gwe ‘Cynllun Costau Teithio Gofal Iechyd’ (HTCS) y GIG (Saesneg yn unig) am ragor o wybodaeth neu cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach.

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 17eg Chwefror 2026