Ynglŷn â sgrinio serfigol - Arwyddion a symptomau canser serfigol (ceg y groth)
Bydd cymryd rhan mewn prawf sgrinio serfigol pan gewch eich gwahodd yn rhywbeth y gallwch ei wneud i ofalu am eich iechyd chi.
Yn aml, nid yw canser ceg y groth gynnar yn achosi unrhyw symptomau. Dylech ddweud wrth eich meddyg os oes gennych unrhyw un o’r canlynol, hyd yn oed os ydych wedi cael prawf sgrinio arferol:
- Gwaedu rhwng eich mislif, yn ystod neu ar ôl rhyw neu ar ôl y menopos (ar ôl i’ch mislif ddod i ben).
- Rhedlif anarferol o’r fagina.
- Poen yn ystod rhyw, neu boen yn rhan isaf eich bol neu boen cefn.
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 17eg Chwefror 2026