Neidio i'r cynnwys

Ynglŷn â sgrinio llygaid diabetig - Eich canlyniadau sgrinio llygaid diabetig

Byddwch yn derbyn eich canlyniadau yn y post o fewn wyth wythnos i’ch apwyntiad. Bydd eich meddyg a’ch arbenigwr diabetes (os oes un gennych chi) hefyd yn derbyn copi. 

Cysylltwch â ni os na fyddwch wedi derbyn eich canlyniadau o fewn wyth wythnos neu os oes gennych gwestiynau am y canlyniadau.

Bydd y llythyr y byddwch yn ei dderbyn yn dweud wrthych a oes gennych retinopathi diabetig ai peidio a beth fydd yn digwydd nesaf.

Ni fydd gan y rhan fwyaf o bobl retinopathi diabetig a byddant yn cael eu gwahodd pan fydd yn bryd iddynt dderbyn eu hapwyntiad sgrinio nesaf.

Bydd gofyn i rai pobl gael prawf arall.  Gofynnir iddynt wneud hyn am nad oedd modd i ni roi canlyniad o’r ffotograffau a dynnwyd  Nid yw hyn yn anarferol.

Bydd eich llythyr canlyniadau yn dweud wrthych a oes gennych retinopathi diabetig.  Bydd yn dweud wrthych a oes angen profion neu driniaeth bellach arnoch.  Gall hyn fod gydag optometrydd arbenigol neu mewn ysbyty. Byddant yn anfon apwyntiad atoch os bydd angen profion neu driniaeth bellach arnoch.

Esboniad o’ch canlyniadau

Asesir pob llygad ar gyfer gradd retinopathi a macwlopathi.

Retinopathi yw niwed i’r pibellau gwaed sy’n cyflenwi cefn y llygad (y retina). Rydym yn graddio retinopathi drwy roi gradd R o 0 i 3 iddo. 

Macwlopathi – Weithiau, rydym yn gweld rhywbeth mewn rhan benodol o gefn eich llygad o’r enw’r macwla. Rydym yn graddio macwlopathi drwy roi gradd M o 0 i 1 iddo.

Ni fydd y llythyr canlyniad yn cynnwys gradd y retinopathi rydym wedi’i chanfod. Rhennir gwybodaeth fanylach gyda’ch meddyg a’ch arbenigwr diabetig (os oes un gennych chi).

Cysylltwch â ni neu gyda’ch meddyg os hoffech dderbyn crynodeb manylach o’ch canlyniadau. 

Mae’r math o ganlyniadau rydym yn eu darparu fel a ganlyn:

Dim retinopatheg diabetig – Wedi’i raddio fel R0M0

Os na fyddwn yn dod o hyd i unrhyw retinopathi yn eich llygaid, byddwn yn anfon llythyr atoch yn dweud wrthych nad yw eich ffotograffau yn dangos unrhyw retinopathi.

Mae’r ddelwedd hon yn enghraifft o lygad heb retinopathi:

Llun o'r retinol yn dangos llygad iach. Mae’r ddisg optegol yn ymddangos yn glir ac wedi’i diffinio’n dda ar yr ochr dde, gyda phibellau gwaed yn ymestyn yn arferol ar draws cefndir oren-goch y retina.

Byddwch yn cael eich gwahodd pan fydd yn bryd i chi gael eich apwyntiad sgrinio. Mae’n bwysig eich bod yn mynd i’ch apwyntiad pan fyddwch yn cael eich gwahodd.

Newidiadau cefndirol (rhywfaint) retinopathi diabetig – Wedi’u graddio fel R1

Byddwn yn dweud wrthych os ydym wedi gweld retinopathi cefndirol (rhywfaint) yn eich ffotograffau. Nid oes angen ymchwilio ymhellach i hyn. Nid yw dod o hyd i’r newidiadau hyn yn golygu y bydd y retinopathi yn parhau i waethygu.  Weithiau bydd y newidiadau’n ymddangos ac yna’n diflannu eto.

Byddwch yn cael eich gwahodd pan fydd yn bryd i chi gael eich apwyntiad sgrinio.  Mae’n bwysig eich bod yn mynd i’ch apwyntiad pan fyddwch yn cael eich gwahodd.

Mae’n bwysig cadw’n iach, drwy reoli a thrin eich diabetes. Ewch i Rheoli diabetes | gofalu am eich diabetes | Diabetes UK (Saesneg yn unig) neu siaradwch â’ch gweithiwr iechyd proffesiynol i gael gwybodaeth bellach.

Mae’r ddelwedd isod yn enghraifft o newidiadau retinopathi cefndirol. Os edrychwch yn ofalus mae smotiau coch bach iawn sy’n dangos rhai pibellau gwaed yn gollwng.

Llun o'r retinol yn dangos newidiadau cefndir cynnar. Mae dotiau coch bach i’w gweld ar draws y retina, sy’n cynrychioli mannau bach lle mae pibellau gwaed wedi gollwng.

Newidiadau retinopathi y gellir eu hatgyfeirio – wedi’u graddio fel R2 neu R3

Bydd eich llythyr yn dweud wrthych a oes gennych retinopathi.  Gelwir hyn yn retinopathi cyn-ymledol (R2) neu retinopathi ymledol (R3) a dylech gael eich gweld gan arbenigwr llygaid.   Mewn rhai achosion, mae angen triniaeth ar gyfer retinopathi diabetig.

Mae’n bwysig eich bod yn mynd i unrhyw apwyntiadau pellach.  Yna gellir monitro unrhyw newidiadau a’u hatgyfeirio am driniaeth mewn ysbyty os oes angen.

Cysylltwch â’ch meddyg os ydych yn poeni neu os oes gennych gwestiynau.

Dyma enghraifft o ddelwedd R2, sy’n dangos pibellau gwaed yn gollwng i’r llygad:

Llun o'r retinol yn dangos sawl darn coch tywyll tebyg i blotiau ar y retina, gan awgrymu mannau lle mae gwaed wedi gollwng o’r pibellau. Mae’r ddisg optegol yn ymddangos yn llachar ar yr ochr dde, ac mae pibellau gwaed y retina yn ymledu allan. Mae ychydig o smotiau tywyllach gwasgaredig i’w gweld ar draws arwyneb oren-goch y retina.

Dyma enghraifft o ddelwedd R3. Mae’n dangos gwaedu mawr yn y llygad.

Mae'r llun o'r retinol yn dangos ardal fawr goch tywyll, debyg i gwmwl, yng nghanol y retina, gan ddangos casgliad sylweddol o waed. Mae’r ddisg optegol lachar i’w gweld ar yr ochr chwith, gyda phibellau gwaed y retina yn ymledu allan. Mae mannau bach gwelw, brycheuog i’w gweld ar rannau o’r retina, ac mae gweddill y cefndir â thôn oren-goch.

Macwlopathi – wedi’r graddio fel M1

Os byddwn yn gweld macwlopathi, byddwn yn gofyn i arbenigwr gynnal archwiliad manylach o’ch llygaid.

Mae’r ddelwedd isod yn enghraifft o lygad â macwlopathi (M1).

Mae'r llun o'r retinol yn dangos adneuon melyn‑gwyn llachar wedi’u grwpio o amgylch canol y retina, gyda smotiau llai gwasgaredig gerllaw. Mae’r ddisg optegol ar yr ochr chwith yn ymddangos yn llachar, ac mae’r cefndir yn dangos arwyneb retina oren-goch arferol gyda phibellau gwaed.

Beth os gwelir cyflwr lyygad arall nad yw’n retinopathi diabetig?

Os byddwn yn dod o hyd i unrhyw gyflyrau llygaid eraill nad ydynt yn retinopathi diabetig, byddwn yn eich atgyfeirio at arbenigwr llygaid. Mae’n bwysig eich bod yn mynd i’r apwyntiad hwn. Ni ydym yn gallu rhoi unrhyw wybodaeth bellach i chi am y cyflwr hwn. Byddwn yn parhau i’ch gwahodd pan fydd yn bryd i chi gael prawf sgrinio llygaid diabetig.

Cysylltwch â’ch meddyg os ydych yn poeni neu os oes gennych gwestiynau.

Delweddau aneglur

Weithiau, nid yw’r delweddau’n ddigon clir a bydd angen i ni dynnu rhagor o ffotograffau.  Byddwn yn anfon apwyntiad arall atoch.  Neu efallai y byddwn yn eich atgyfeirio at arbenigwr llygaid sy’n gallu defnyddio offer gwahanol i archwilio cefn eich llygad.

Mae nifer o resymau pam y gallai hyn ddigwydd.  Nid yw’n golygu ein bod yn poeni am yr hyn rydym wedi’i weld.

Beth fydd yn digwydd os byddaf yn cael fy ngalw yn ôl am brofion pellach?

Gan ddibynnu ar ganlyniadau eich prawf sgrinio, efallai y gofynnir i chi gael apwyntiadau sgrinio yn fwy aml. Efallai y byddwn hefyd yn eich atgyfeirio at arbenigwr llygaid am asesiad a thriniaeth bellach. Bydd yr arbenigwr llygaid yn cysylltu â chi gyda manylion eich apwyntiad.

Cysylltwch â’r clinig os bydd angen gwybodaeth bellach arnoch.

Beth fydd yn digwydd nesaf?

Os nad oedd eich ffotograffau’n ddigon clir i roi canlyniad, cynigir apwyntiad arall i chi o fewn tri mis.  

Os ydych yn cael apwyntiad dilynol mewn clinig llygaid mewn ysbyty, ni fyddwch yn cael eich gwahodd i gael eich sgrinio nes i chi gael eich rhyddhau gan arbenigwr llygaid.

Os ydych yn feichiog, byddwch yn cael cynnig prawf sgrinio’n fwy aml yn ystod eich beichiogrwydd.

Os nad ydych yn gallu cymryd rhan mewn prawf sgrinio llygaid diabetig cysylltwch â’ch optegydd lleol a fydd efallai’n gallu ymweld â’ch cartref.  Gall rhai optometryddion ymweld â chi am ddim, yn dibynnu ar eich amgylchiadau

Cysylltwch â’ch optegydd neu gyda’ch  meddyg os byddwch yn sylwi unrhyw newidiadau yn eich golwg. Peidiwch â disgwyl tan eich apwyntiad sgrinio nesaf.

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 24ain Mawrth 2026