Ynglŷn â sgrinio coluddion - Ynglŷn â phrawf sgrinio’r coluddyn
Am beth mae prawf sgrinio’r coluddyn yn edrych?
Nid yw pecyn profi’r coluddyn yn dweud wrthych a oes gennych ganser y coluddyn.
Mae’r prawf yn chwilio am waed cudd yn eich pŵ a all fod yn arwydd o ganser y coluddyn neu newidiadau eraill.
Bydd y canlyniadau’n dweud wrthych os oes angen profion pellach arnoch.
Paratoi i gwblhau eich prawf sgrinio’r coluddyn
Cyn gwneud eich prawf, darllenwch yr wybodaeth rydym wedi’i hanfon atoch.
Gwyliwch y fideo byr hwn a fydd yn dangos i chi sut i gwblhau’r prawf.
Dilynwch y cyfarwyddiadau cam wrth gam.
Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau am gwblhau’r prawf.
Os ydych yn cefnogi rhywun i gwblhau pecyn profi’r coluddyn, dim ond os ydynt wedi cytuno y gallwch wneud hyn dylech gwneud hynny.
Sut i archebu pecyn profi newydd?
Os ydych wedi colli neu ddifrodi eich pecyn profi gallwch archebu un newydd wrth:
- ffonio linell gymorth Rhadffôn Sgrinio Coluddion Cymru ar 0800 294 3370.
- llenwi ein ffurflen gais ar-lein.
- anfon e-bost at [email protected]
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 23ain Mawrth 2026