Ynglŷn â sgrinio clyw babanod - Y sgrin – canlyniadau
Pryd fyddaf i’n cael y canlyniad?
Bydd y sgriniwr yn rhoi canlyniad y prawf i chi ar unwaith, a bydd yn dweud wrthych a oes angen prawf arall.
Beth yw ystyr y canlyniadau?
Mae tri chanlyniad posib:
Ymateb clir:
Mae’r rhan fwyaf o fabanod yn cael ymateb clir o un o’u clustiau neu’r ddwy. Mae hyn yn golygu ei bod yn annhebygol bod gan eich baban golled clyw. Bydd y sgriniwr yn rhoi gwybodaeth i chi am sut mae babanod yn ymateb i sain wrth iddynt dyfu. Bydd yr wybodaeth yn dweud wrthych beth i’w wneud os ydych yn poeni am glyw eich baban.
Os mai dim ond un o glustiau eich baban sy’n dangos ymateb clir:
Mae rhai babanod yn dangos ymateb clir mewn un glust yn unig. Os bydd hyn yn digwydd efallai y byddwch yn dewis cael prawf clyw arall. Bydd y sgriniwr yn rhoi mwy o wybodaeth i chi.
Os nad yw’r naill na’r llall o glustiau eich baban yn dangos ymateb clir:
Nid yw rhai babanod yn dangos ymateb clir yn y naill glust na’r llall. Nid yw hynny bob amser yn golygu bod gan eich baban golled clyw.
Bydd y sgriniwr yn cynnig prawf clyw arall i’ch baban. Bydd y sgriniwr yn rhoi mwy o wybodaeth i chi am yr hyn sy’n digwydd nesaf.
Mae’n bosibl na fydd yr ymatebion yn glir os:
- Yw eich baban yn aflonydd;
- Oes hylif yn y glust (ar ôl yr enedigaeth);
- Oes gormod o sŵn o gwmpas y baban pan mae’r prawf yn cael ei gynnal; neu os
- Os oes gan eich baban golled clyw.
Os bydd angen mwy o brofion bydd awdiolegydd (arbenigwr clyw) yn anfon apwyntiad. Bydd apwyntiad yn cael ei anfon o fewn pedair wythnos ar ôl i chi gael canlyniad sgrinio clyw eich baban.
Babanod sydd wedi cael gofal arbennig am fwy na dau ddiwrnod
Os bydd ymateb clir o ddwy glust eich baban, mae’n annhebygol bod gan eich baban golled clyw a fydd yn effeithio ar ddatblygiad iaith a lleferydd. Nid oes angen unrhyw brofion sgrinio clyw pellach. Bydd y sgriniwr yn rhoi gwybodaeth i chi am sut mae babanod yn ymateb i sain wrth iddynt dyfu a beth i’w wneud os oes gennych unrhyw bryderon am glyw eich baban.
Beth fydd yn digwydd os bydd angen ail brawf clyw gydag awdiolegydd?
Bydd angen profion gan awdiolegydd ar tua 1 neu 2 o fabanod ym mhob 100 ar ôl y prawf sgrinio. Mae angen gwneud y profion hyn pan fydd baban yn dal yn debygol o gysgu llawer yn ystod y dydd. Bydd apwyntiad ar gyfer y prawf yn cael ei anfon atoch o fewn 4 wythnos i brawf sgrinio clyw eich baban. Os treuliodd eich baban amser yn yr uned gofal arbennig babanod (SCBU) anfonir yr apwyntiad hwn o fewn 8 wythnos. Bydd babanod sy’n cael eu geni’n gynnar yn cael eu profi ar ôl y dyddiad y disgwyliwyd iddynt gael eu geni. Mae hyn yn rhoi amser i glyw eich baban ddatblygu.
I gael rhagor o wybodaeth am yr apwyntiad asesu clyw cliciwch yma, neu gallwch ddarllen ein taflen Ymweliad eich baban â’r clinig awdioleg.
Pa mor debygol yw hi fod colled ar glyw fy mabi?
Bydd 1 neu 2 ym mhob 1,000 o fabanod sy’n cael eu geni yn profi colled clyw yn y ddwy glust.
Bydd y rhan fwyaf o’r babanod hyn yn cael eu geni i deuluoedd lle nad oes neb arall yn byw gyda cholled clyw. Mae nifer llai yn cael eu geni gyda cholled clyw mewn un glust. Gall baban yr oedd angen gofal arbennig arno ar ôl ei eni fod yn fwy tebygol o fod â cholled clyw. Am bob 10 baban sy’n cael y prawf clyw hwn, bydd gan un ohonynt golled clyw parhaol.
A fydd angen mwy o brofion ar glyw fy mabi os oedd ymateb clir yn y prawf sgrinio?
Fel arfer ni fydd angen i fabanod sy’n cael ymateb clir yn ystod y prawf sgrinio clyw babanod newydd-anedig gael profion clyw pellach, ond efallai y bydd Meddyg yn argymell y rhain. Mae prawf clyw yn cael ei gynnig i bob plentyn yng Nghymru yn y flwyddyn maen nhw’n dechrau’r ysgol.
Mae’n bwysig gwirio clyw eich baban wrth iddo dyfu. Mae’r rhestr wirio i rieni yn eich helpu i chwilio am ymatebion eich baban a gwrando arnynt. Efallai y bydd y rhestr wirio hefyd i’w gweld yn llyfr coch eich baban.
Os oes gennych bryderon am glyw eich baban/plentyn, neu ymatebion gwrando, siaradwch â’ch Ymwelydd Iechyd neu Feddyg Teulu ar unrhyw adeg, a bydd ef/hi yn gallu atgyfeirio eich baban/plentyn i’ch Adran Awdioleg leol.
Os hoffech gael mwy o wybodaeth neu os ydych yn awyddus i siarad â rhywun am glyw eich babi, cysylltwch â ni.
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 25ain Mawrth 2026