Tywydd poeth - Digwyddiadau awyr agored
Dylai trefnwyr digwyddiadau sicrhau bod ganddynt gynlluniau ar waith i reoli digwyddiadau a chynulliadau torfol yn ddiogel yn ystod tywydd poeth.
Weithiau mae pobl yn ymddwyn mewn ffordd wahanol yn ystod digwyddiadau mawr. Mae hyn yn gallu cynyddu’r risg o broblemau sy’n gysylltiedig â gwres. Dyma rai enghreifftiau o ymddygiad o’r math:
- Ni fydd rhai pobl eisiau defnyddio toiledau, ac efallai y byddan nhw’n osgoi yfed yn fwriadol.
- Sicrhau eu bod nhw mewn lle da i weld y digwyddiad, rhoi’r gorau i yfed ac aros yn yr haul er mwyn peidio â cholli eu lle.
Dylai trefnwyr gofio:
- Gall pobl ag asthma, clefyd y galon a chyflyrau iechyd eraill sy’n bodoli eisoes fod yn fwy sensitif i’r gwres.
- Mae alcohol a rhai meddyginiaethau yn gallu gwneud effeithiau’r gwres yn waeth.
Dyma’r prif beryglon iechyd mewn tywydd poeth:
Mae trefnwyr yn gallu helpu trwy:
- Ystyried tywydd poeth wrth asesu risgiau digwyddiadau a sicrhau bod cynlluniau ar waith i leihau’r risgiau sydd ynghlwm wrth dywydd poeth.
- Darparu digon o ddŵr yfed a bwydydd llawn dŵr (fel saladau ac iogyrtiau) drwy gydol y digwyddiad yn unol â chynlluniau dŵr yfed a hylendid bwyd.
- Darparu mannau cysgodol a chynghori’r bobl sy’n bresennol y dylid cadw allan o’r haul yn ystod amser poethaf y dydd, rhwng 11am a 3pm.
- Darparu gwybodaeth hygyrch i fynychwyr am sut i leihau’r risgiau sy’n gysylltiedig â thywydd poeth yn ystod y digwyddiad. Er enghraifft, yfed digon o ddŵr, gwisgo dillad sy’n amddiffyn pobl rhag yr haul, het, sbectol haul ac eli haul ffactor uchel (SPF).
- Ystyried newid dyddiad neu leoliad y digwyddiad, neu ei ganslo mewn tywydd poeth iawn.
- Cynllunio gweithgareddau ar gyfer diwrnodau oerach neu adegau oerach o’r dydd, fel y bore neu gyda’r nos.
I gael mwy o wybodaeth am Iechyd, Diogelwch a Digwyddiadau Awyr Agored ewch i Events health and safety (hse.gov.uk).
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 6ed Mawrth 2025