Tywydd poeth - Cyngor i bobl sy’n gofalu am blant
Risgiau iechyd yn sgil gwres
Mae plant yn gallu bod mewn perygl yn ystod tywydd poeth oherwydd eu hanghenion, eu hymddygiad a’u lefelau gweithgarwch.
Dyma’r prif beryglon iechyd mewn tywydd poeth:
Os oes mesurau ar waith, mae’n annhebygol y bydd tywydd poeth yn effeithio ar blant, ond dylai rhieni, athrawon, nyrsys ysgol a gofalwyr plant eraill fod yn wyliadwrus ac edrych am arwyddion o ddadhydradu, straen gwres, gorludded gwres a thrawiad gwres.
Straen gwres
Mae’n bosibl y bydd plant â straen gwres yn ymddwyn yn wahanol neu’n teimlo’n anghyfforddus ac yn anniddig. Bydd yr arwyddion hyn yn gwaethygu gyda gweithgarwch corfforol ac efallai byddan nhw’n arwain at orludded gwres neu drawiad gwres.
Pwy sy’n debygol o gael ei effeithio fwyaf?
- Plant ifanc, plant bach a babanod.
- Plant sy’n cymryd meddyginiaethau penodol.
- Plant â chyflyrau iechyd sy’n bodoli eisoes.
Os oes angen, bydd gweithiwr iechyd proffesiynol yn gallu darparu cyngor ar anghenion plentyn unigol.
Yr awyr agored
- Ar ddiwrnodau poeth iawn, ni ddylai plant redeg o gwmpas llawer rhwng 11am a 3pm.
- Dylai plant sy’n chwarae yn yr awyr agored aros yn y cysgod gymaint â phosibl.
- Dylai rheolau gwisg ysgol gael eu llacio yn ystod tywydd poeth. Bydd gwisgo dillad llac a lliw golau yn helpu plant i gadw’n oer.
- Mae het sydd â chantel llydan yn helpu i atal llosg haul.
- Defnyddiwch eli haul â ffactor amddiffyn rhag yr haul uchel (o leiaf SPF 30 sydd ag amddiffyniad UVA 4 seren o leiaf).
- Mae angen rhoi digon o ddŵr i blant a’u hannog i yfed mwy nag arfer mewn tywydd poeth.
Dan do
- Os oes modd, ac os yw’n ddiogel, dylech agor ffenestri yn gynnar yn y bore, gyda’r nos, ac yn ddelfrydol dros nos pan fydd yn oerach y tu allan.
- Os oes modd, caewch ffenestri yn ystod y dydd pan fydd yn fwy cynnes y tu allan ond peidiwch â rhwystro mannau awyru.
- Cysgodwch ffenestri sy’n wynebu’r haul a chofiwch gau bleindiau neu lenni dan do i gadw’r gwres allan.
- Diffoddwch unrhyw oleuadau ac eitemau trydanol nad ydynt yn hanfodol.
- Mae gwyntyll trydan yn gallu helpu i oeri’r gofod os yw’r tymheredd yn is na 35°C (os yw’r tymheredd yn uwch na hyn, mae’n bosibl na fydd yn helpu i oeri’r gofod), ond peidiwch â gosod y wyntyll i wynebu’ch corff yn uniongyrchol rhag ofn y bydd yn achosi i chi dadhydradu.
- Dylech annog plant i fwyta fel arfer ac yfed digon o ddŵr.
- Defnyddiwch ystafell oerach ar gyfer cysgu.
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 6ed Mawrth 2025