Tywydd poeth - Cadw’n oer
Cadw allan o’r gwres
- Dylech geisio aros dan do neu yn y cysgod, yn enwedig rhwng 11am a 3pm.
- Dylech osgoi gweithgareddau awyr agored fel chwaraeon, DIY neu arddio. Os na allwch chi osgoi’r gweithgareddau hyn, dylech eu gwneud nhw’n gynnar yn y bore neu’n hwyrach gyda’r nos.
- Defnyddiwch eli haul â ffactor amddiffyn rhag yr haul (SPF) 30 o leiaf ag amddiffyniad UVA 4 seren o leiaf.
- Gwisgwch ddillad sy’n eich amddiffyn rhag yr haul fel topiau llewys hir neu fathau eraill o ddillad lliw golau, llac.
- Gwisgwch het â chantel llydan i amddiffyn eich wyneb, eich llygaid, eich pen a’ch clustiau, a sbectol haul i amddiffyn eich llygaid.
- Cofiwch yfed digon o ddŵr drwy gydol y dydd. Dylech osgoi alcohol, caffein, diodydd poeth a diodydd llawn siwgr rhag ofn eu bod yn eich dadhydradu.
Cadw eich cartref yn oer
- Dylech gau bleindiau a llenni ffenestri sy’n wynebu golau’r haul yn ystod y dydd.
- Symudwch i ran oerach o’r tŷ, yn enwedig ar gyfer cysgu.
- Agorwch ffenestri (os yw’n ddiogel gwneud hynny) pan fydd yr aer yn teimlo’n oerach y tu allan na’r tu mewn, er enghraifft yn y nos, a cheisiwch gael yr aer i lifo trwy eich cartref.
- Defnyddiwch wyntyll drydan os yw tymheredd yr aer yn is na 35°C (os yw’r tymheredd yn uwch na hyn, mae’n bosibl na fydd yn helpu i oeri’r gofod), ond peidiwch â gosod y wyntyll i wynebu’ch corff yn uniongyrchol rhag ofn i hyn achosi dadhydradu.
- Cofiwch sicrhau bod unrhyw wres wedi’i ddiffodd.
- Diffoddwch oleuadau ac offer trydanol nad ydynt yn cael eu defnyddio.
- Ewch i’r awyr agored os yw’n oerach yn y cysgod.
Gofalu am bobl eraill
- Cofiwch sicrhau bod aelodau’r teulu, ffrindiau a chymdogion yn iawn. Gofalwch am blant, babanod, pobl hŷn, pobl sy’n sâl neu bobl sy’n byw ar eu pennau eu hunain.
- Cofiwch sicrhau nad yw babanod, plant, pobl hŷn ac anifeiliaid anwes yn cael eu gadael ar eu pennau eu hunain mewn ceir wedi’u parcio neu fannau caeedig eraill.
- Os ydych chi’n poeni am eich symptomau chi eich hun neu symptomau rhywun arall, gofynnwch am gyngor meddygol trwy gysylltu â GIG 111. Mewn argyfwng ffoniwch 999.
Os oes gennych chi broblem iechyd
- Dylech barhau i gymryd eich holl feddyginiaethau presgripsiwn oni bai bod gweithiwr iechyd proffesiynol yn eich cynghori i beidio â’u cymryd.
- Mae angen cadw rhai meddyginiaethau o dan 25°C neu yn yr oergell (darllenwch y cyfarwyddiadau ar y pecyn).
Os ydych chi neu rywun arall yn teimlo’n sâl
- Dywedwch wrth rywun os ydych chi’n teimlo’n sâl.
- Symudwch i le oer i orffwys.
- Dylech fwyta bwyd oer ac yfed diodydd oer, ond cofiwch osgoi alcohol, caffein, diodydd poeth a diodydd llawn siwgr rhag ofn iddyn nhw eich dadhydradu.
- Os ydych chi’n poeni am eich symptomau chi eich hun neu am symptomau rhywun arall, gofynnwch am gyngor meddygol trwy gysylltu â GIG 111. Mewn argyfwng ffoniwch 999.
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 6ed Mawrth 2025