Lles mislif - Endometriosis
Beth yw endometriosis?
Gall endometriosis fod yn gyflwr gynaecolegol cronig a nychus.
Gall ddatblygu o unrhyw oedran – o’r arddegau cynnar i’r menopos. Mae endometriosis yn effeithio ar tua 2 filiwn o fenywod yn y DU.
Beth sy’n achosi endometriosis?
Does neb yn gwybod beth yn union sy’n achosi endometriosis. Ond mae celloedd, fel y celloedd yn leinin y groth, i’w cael ar y tu allan yn hytrach na’r tu mewn, yn bennaf yng ngheudod y pelfis. Mae’r celloedd hyn yn dal i ymateb i’r cylchred misol ond, yn wahanol i fislif, does dim modd i’r gwaed ohonynt adael y corff. Gall y celloedd hyn achosi llid, adlyniadau a systiau poenus, neu gallant fod yn gysylltiedig ag anffrwythlondeb. Mae’n bosibl fod cysylltiad genetig hefyd.
Beth yw’r symptomau?
Gall symptomau endometriosis amrywio. Mae rhai cleifion yn dioddef poen difrifol ac eraill yn cael dim poen, ond efallai y byddant yn ei chael yn anodd beichiogi. Mae rhai cleifion yn cael poenau mawr a phroblemau ffrwythlondeb. Gall poen ddigwydd yn ystod mislif, adeg ofylu, yn ystod ac ar ôl cyfathrach a hyd yn oed wrth ysgarthu.
Oherwydd bod endometriosis yn datblygu mewn sawl ffordd, gall fod yn anodd gwneud diagnosis ac weithiau mae oedi cyn cael diagnosis. Ar hyn o bryd, mae’n cymryd saith mlynedd i gael diagnosis, ar gyfartaledd.
Sut gallai endometriosis effeithio ar fy mywyd?
Gall endometriosis effeithio ar fywyd menyw mewn sawl ffordd, er enghraifft:
- poen cronig
- blinder/diffyg egni
- iselder/teimlo’n ynysig
- problemau gyda bywyd rhywiol a/neu berthnasoedd cwpl
- methu beichiogi
- anawsterau o ran cyflawni ymrwymiadau gwaith
Ond, gyda’r cymorth priodol, mae’n bosibl rhoi sylw i nifer o’r materion hyn.
Oes modd ei drin?
Ar hyn o bryd, does dim gwellhad. Yr unig ffordd o wneud diagnosis o endometriosis yw drwy lawdriniaeth o’r enw ‘laparosgopi’. Llawdriniaeth yw hon lle gwneir agoriad bychan, fel arfer yn y bogail, a gosodir tiwb gyda chamera bychan iawn (laparosgop) i mewn i ardal y pelfis. Bydd y driniaeth yn cymryd diwrnod yn y rhan fwyaf o achosion.
Dyma’r ddau brif fath o driniaeth:
- therapi cyffuriau
- llawdriniaeth
Mae’r dewis o driniaeth yn dibynnu ar anghenion pob claf unigol, felly dylid trafod hyn gyda’ch meddyg.
Beth i’w wneud nesaf?
Os ydych chi’n meddwl bod gennych chi symptomau sy’n gysylltiedig â endometriosis, dylech gysylltu gyda’ch Meddyg Teulu.
Mae’n dda cael gwybod cymaint ag y bo modd am y clefyd a’r gwahanol driniaethau sydd ar gael i’ch helpu i wneud y dewis iawn. Bydd cael trafodaethau manwl ac agored gyda’ch Meddyg Teulu a’ch gynaecolegydd yn eich helpu i weld beth yw eich dewisiadau. Dylech bob amser holi am fanteision unrhyw driniaeth – naill ai triniaeth feddygol neu driniaeth lawfeddygol – a hefyd am y sgil-effeithiau.
Cofiwch: eich corff chi ydyw.
Am fwy o wybodaeth a chymorth, ewch i wefan Endometriosis UK. Dolen Saesneg yn unig yw hon.
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 19eg Mehefin 2025