Neidio i'r cynnwys

Lles mislif - Syndrom sioc gwenwynig (TSS)

Beth yw TSS?

Mae syndrom sioc gwenwynig (TSS) yn fath o wenwyno’r gwaed fydd yn gwneud i chi deimlo’n ddifrifol wael yn gyflym iawn. Mae TSS yn brin ond gall fod yn salwch difrifol a all ddatblygu’n gyflym mewn unrhyw un – dynion, menywod a phlant.

Beth sy’n achosi TSS?

Mae TSS yn cael ei achosi gan y bacteria cyffredin – Staphylococcus aureus – sydd fel arfer yn byw’n ddiniwed ar y croen ac yn y trwyn, y gesail, yr afl neu’r fagina mewn un o bob tri pherson. Mewn achosion prin, gall rhai mathau penodol o’r bacteria hwn greu gwenwynau sy’n achosi TSS.

Pa mor brin yw TSS?

Mae TSS yn eithriadol o brin ac ni fydd y rhan fwyaf o feddygon byth yn gweld achos ohono. Ceir tua 40 o achosion o TSS bob blwyddyn yn y DU. Mewn achosion eithriadol, gall fod yn angheuol ac yn drist iawn, o’r nifer fach fyddyn mynd yn sâl bob blwyddyn, bydd 2-3 yn marw o TSS.

Pwy sy’n gallu cael TSS?

Gall unrhyw un gael TSS – dynion, menywod a phlant. Mae cyfran o’r achosion o TSS a nodir yn gysylltiedig â menywod yn defnyddio tamponau; mae’r gweddill o ganlyniad i heintiau mewn mannau penodol , er enghraifft ar ôl llosgiadau, cornwydydd, brathiadau gan bryfed neu lawdriniaethau. Mae rhai achosion o TSS yn gysylltiedig â llosgiadau neu sgaldiadau sy’n niweidio amddiffynfeydd y croen sy’n caniatáu I facteria dyfu a chreu gwenwynau. Gan fod achosion o TSS sy’n ymwneud â’r misglwyf yn llai cyffredin bellach, mae’r rhain wedi dod yn fwy cyffredin. Mae’r perygl o TSS yn uwch ymysg pobl iau. Mae hyn am fod pobl hŷn yn fwy tebygol o fod â’r gwrthgorffynnau angenrheidiol i’w diogelu rhag y gwenwyn sy’n achosi TSS.

Beth yw symptomau TSS?

Mae rhai o symptomau TSS yn debyg iawn i ‘ffliw’ difrifol ac fel arfer yn cynnwys rhai neu’r cyfan o’r canlynol:

  • twymyn sydyn (tymheredd uchel)
  • chwydu
  • brech fel llosg haul
  • dolur rhydd
  • llewygu neu deimlo’n benysgafn
  • cyhyrau dolurus
  • penysgafnder
  • dryswch

Beth ddylwn i wneud os wyf yn cael y symptomau hyn?

Cysylltwch â’ch meddyg ar unwaith, if you or anyone you know, has os ydych chi neu unrhyw un yr ydych yn ei adnabod â rhai o’r symptomau hyn ac yn amau TSS. Os ydych yn gwisgo tampon, tynnwch ef a dywedwch wrth eich meddyg eich bod wedi bod yn defnyddio tamponau. Yn yr un modd, os ydych wedi dioddef llosg neu sgaldiad, cofiwch hysbysu eich meddyg. Peidiwch â phoeni am godi bwganod. Mae’n bwysig dileu’r posibilrwydd mai TSS sydd arnoch ac os oes angen, bydd eich meddyg wedyn yn gallu dechrau triniaeth yn gyflym.

A ellir trin TSS?

Gyda diagnosis cynnar, gellir trin TSS yn llwyddiannus gyda gwrthfiotigau i ladd y bacteria Staphylococcus aureus, a meddyginiaethau eraill sy’n helpu i wrthsefyll y symptomau.

Defnyddio tamponau a TSS

Nid yw’r cysylltiad rhwng TSS a defnyddio tamponau yn glir. Mae ymchwil yn awgrymu, ar gyfer achosion lle mae menywod yn defnyddio tamponau, bod amsugnedd y tampon yn ffactor. Am y rheswm hwn, mae’n bwysig eich bod:

  • bob amser yn defnyddio tampon â’r amsugnedd isaf sy’n addas ar gyfer llif eich misglwyf
  • yn defnyddio cadach neu leiniwr misglwyf o bryd i’w gilydd yn ystod eich misglwyf

Ceir gwybodaeth am TSS ar daflen gyfarwyddiadau cynhyrchwyr y tampon. Mae’r wybodaeth hon yn cael ei diweddaru’n aml, felly cofiwch ddarllen y daflen yn rheolaidd.

Wrth ddefnyddio tamponau, mae hefyd yn bwysig cofio:

  • golchi eich dwylo cyn ac ar ôl rhoi tampon i mewn
  • newid tamponau’n rheolaidd, mor aml ag y nodir ar gyfarwyddyd y pecyn
  • peidio byth rhoi mwy nag un tampon i mewn ar yr un pryd
  • wrth eu defnyddio yn ystod y nos, rhowch dampon newydd i mewn cyn mynd i’r gwely a’I dynnu wrth ddeffro
  • tynnwch y tampon ar ddiwedd misglwyf

Gwybod y ffeithiau

Mae symdrom sioc gwenwynig yn salwch prin.
O boblogaeth yn y DU o ryw 60 miliwn, mae tua 40 o achosion yn cael eu nodi bob blwyddyn.

Gall dynion, menywod a phlant gael syndrom sioc gwenwynig, er enghraifft ar ôl llosgiadau, cornwydydd, brathiadau gan bryfed neu heintiau ar ôl llawdriniaethau. Mae cyfran o’r achosion sy’n cael eu nodi’n gysylltiedig â menywod sy’n defnyddio tamponau.

Gyda diagnosis cynnar, gellir trin syndrom sioc gwenwynig yn llwyddiannus.
Ond yn drist iawn, o’r nifer fach o bobl sy’n mynd yn sâl bob blwyddyn, bydd 2-3 person yn marw o TSS. Mae’n bwysig cofio, os ceir diagnosis o TSS a’I fod yn cael ei drin yn gynnar, mae siawns dda o adferiad.

Ni fydd y rhan fwyaf o feddygon byth yn gweld achos o syndrom sioc gwenwynig.
Mae TSS mor brin na fydd y rhan fwyaf o feddygon byth yn dod ar draws TSS yn ystod eu gyrfaoedd meddygol.

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 4ydd Mehefin 2025