Neidio i'r cynnwys

Iechyd y geg ar gyfer beichiogrwydd a babanod newydd - Iechyd y geg yn ystod eich beichiogrwydd

Mae triniaeth ddeintyddol y GIG AM DDIM yn ystod eich beichiogrwydd a nes bydd eich plentyn yn flwydd oed.

Nawr eich bod yn feichiog, gwnewch apwyntiad i weld deintydd cyn gynted â phosibl. Mae cymorth i ddod o hyd i ddeintydd yng Nghymru ar gael drwy GIG 111 Cymru – Gwasanaethau Lleol: Llinellau Cymorth Deintyddol.

Dewiswch fyrbrydau iach a cheisiwch gadw pob bwyd a diod siwgrog i amseroedd prydau bwyd. Am fwy o wybodaeth, gweler Pob Plentyn Eich Beichiogrwydd a’r Enedigaeth a Bwyd Doeth yn ystod Beichiogrwydd.

Os na fyddwch yn gofalu am hylendid y geg, gall newidiadau hormonaidd yn ystod beichiogrwydd achosi i’ch deintgig chwyddo a gwaedu wrth gael eu brwsio. Brwsiwch eich dannedd ddwywaith y dydd gyda phast dannedd sy’n cynnwys 1350-1500ppm o fflworid.

Ar ôl brwsio, dylech boeri, nid rinsio.

Dylech rinsio eich ceg â dŵr os bydd gennych salwch bore, ond peidiwch â brwsio eich dannedd ar unwaith.

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 24ain Medi 2025