Iechyd y geg ar gyfer beichiogrwydd a babanod newydd - Iechyd y geg ar gyfer babanod newydd
Argymhellir bwydo ar y fron ar gyfer babanod. Mae gwybodaeth bellach ar gael ar wefan y GIG (Saeseg yn unig).
Gall arwyddion torri dannedd ddechrau pan fydd babi’n 3 mis oed a’r arwyddion yw deintgig coch poenus, bochau coch a driblo. Gall y dannedd ymddangos pan fydd y babi tua 6 mis oed a gallwch ddechrau brwsio eu dannedd bryd hynny. Brwsiwch ddannedd eich babi cyn mynd i’r gwely gyda’r nos ac unwaith eto yn ystod y dydd, gan ddefnyddio haen denau o bast dannedd.
Wrth ddechrau diddyfnu, dylech osgoi siwgr lle mae’n bosib. Gall unrhyw beth heblaw llaeth neu ddŵr mewn potel arwain at bydredd dannedd. Am gyngor ar fwyta’n iach i ddannedd, ewch i dudalen cyngor iechyd y geg ar gyfer rieni a gofalwyr.
Os ydych yn penderfynu defnyddio dymi, dewiswch ddymi orthodontig a pheidiwch byth â rhoi’r dymi mewn unrhyw beth melys. Ddylwn i roi dymi i fy mhlentyn bach?
Dechreuwch ddefnyddio cwpan sy’n caniatáu i’r hylif lifo’n rhydd pan fydd eich babi’n 6 mis oed a cheisiwch gael gwared ar y botel a’r dymi erbyn pen-blwydd cyntaf y babi.
Gall defnyddio dymi am gyfnod rhy hir achosi i ddannedd gael eu gwthio allan o’u lle, felly ni fydd y dannedd ar y top a’r gwaelod yn cyfarfod â’i gilydd yn iawn, gan achosi problemau lleferydd a bwyta.
Cofiwch fod triniaeth ddeintyddol y GIG am ddim i famau newydd yn dilyn yr enedigaeth ac ar gyfer eich babi, felly os nad ydych wedi gweld y deintydd yn ddiweddar gwnewch apwyntiad yn fuan.
Mae cymorth i ddod o hyd i ddeintydd yng Nghymru ar gael drwy GIG 111 Cymru – Gwasanaethau Lleol: Llinellau Cymorth Deintyddol.
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 8fed Hydref 2025