Neidio i'r cynnwys

Gwybodaeth sgrinio ar gyfer unigolion Trawsryweddol ac Anneuaidd - Ynglŷn â sgrinio’r coluddyn

Pwy: Pobl rhwng 50 a 74 oed

Pryd: Pob dwy flynedd

Prawf: Pecyn samplo pŵ i’w gwblhau  gartref a’i ddychwelyd yn y post

Gall sgrinio’r coluddyn achub bywydau drwy ganfod canser y coluddyn yn gynnar.

Cysylltwch Sgrinio Coluddion Cymru (Need to link this contact page)

Beth mae angen i chi ei wybod am sgrinio’r coluddyn

Bydd pawb rhwng 50 a 74 oed yn cael eu gwahodd i wneud y prawf sginio’r coluddyn bob dwy flynedd.

Bydd pecyn prawf sgrinio’r coluddyn a phecyn gwybodaeth yn cael eu hanfon atoch yn y post pan fydd yn amser i chi gael eich sgrinio.

Mae’r pecyn prawf yn gyflym ac yn hawdd i’w ddefnyddio a dim ond un sampl bach o’ch pŵ sydd ei angen.

Mae’r prawf yn edrych am symiau bach o waed yn eich pŵ na fyddwch chi’n gallu eu gweld o bosibl. Mae’n bosibl y bydd hyn yn arwydd o ganser y coluddyn.

Gwybodaeth gyffredinol

Os bydd gwaed yn cael ei ganfod yn eich sampl, byddwch yn cael eich atgyfeirio i gael mwy o brofion. Mae’n bosibl y bydd hyn yn cynnwys cael colonosgopi.

Mae colonosgopi yn golygu cael camera bach hyblyg wedi’i roi i fyny eich pen ôl i edrych ar leinin eich coluddyn.

Os ydych wedi cael llawdriniaeth ailbennu rhywedd, efallai y bydd y colonosgopi yn fwy anghyfforddus. Efallai y byddwch yn dymuno siarad â’ch nyrs sgrinio neu eich meddyg am hyn cyn cael y prawf. Os ydych chi’n ei chael hi’n anodd siarad â’ch meddyg efallai y byddwch am gael cymorth gan rywun rydych chi’n ymddiried ynddo i wneud hyn ar eich rhan.

Eich dewis chi yw cymryd rhan yn y prawf sgrinio. Os nad ydych eisiau cymryd rhan, dylech gysylltu â Sgrinio Coluddion Cymru, byddant yn gallu dweud wrthych sut i optio allan.

Yr arwyddion a’r symptomau y dylech edrych amdanyn nhw

Efallai byddwch yn teimlo’n iach hyd yn oed os oes gennych ganser y coluddyn sydd ar gam cynnar. Mae canser y coluddyn yn fwy cyffredin wrth i chi fynd yn hŷn. Dylech ddweud wrth eich meddyg os oes gennych unrhyw rai o’r canlynol.

  • Lwmp neu boen yn eich bol.
  • Gwaedu o’ch pen-ôl neu waed yn eich pŵ.
  • Newid parhaus neu anesboniadwy yn arferion eich coluddyn.
  • Colli pwysau heb esboniad.
  • Blinder mawr am ddim reswm amlwg.

Am fwy o wybodaeth, ewch i dudalen sgrinio’r coluddyn.

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 25ain Chwefror 2025