Gwybodaeth sgrinio ar gyfer unigolion Trawsryweddol ac Anneuaidd - Ynglŷn â sgrinio llygaid diabetig
Pwy: Pawb dros 12 oed sydd â diabetes
Pryd: Bob blwyddyn i ddwy flynedd yn dibynnu ar eich risg o glefyd llygaid diabetig
Prawf: Ffotograffau o’r llygaid
Gall sgrinio’r llygaid eich atal rhag colli eich golwg oherwydd gall ganfod retinopatheg (niwed i gefn y llygad) ar gam cynnar.
Mae sgrinio yn arbed y golwg.
Cysylltwch Sgrinio Llygaid Diabetig Cymru (Need to link this contact page)
Beth mae angen i chi ei wybod am sgrinio llygaid diabetig
Mae pawb sy’n 12 oed neu hŷn sydd â diabetes ac sydd wedi cofrestru â meddyg yn cael eu gwahodd i apwyntiad sgrinio llygaid diabetig bob blwyddyn i ddwy flynedd yn dibynnu ar eu risg o glefyd llygaid diabetig.
Gwybodaeth gyffredinol
Mae sgrinio llygaid diabetig yn edrych am retinopatheg (niwed i gefn y llygad), a all arwain at golli golwg os na fydd yn cael ei drin. Mae’n bwysig eich bod yn cymryd rhan mewn sgrinio llygaid diabetig hyd yn oed os yw eich golwg yn ymddangos yn iawn yn eich barn chi. Mae canfod retinopatheg yn gynnar yn golygu y gellir ei drin, a gall hyn helpu i atal pobl rhag colli eu golwg. Eich dewis chi yw cymryd rhan yn y prawf sgrinio. Os nad ydych eisiau eich gwahodd i gael prawf sgrinio llygaid diabetig, dylech gysylltu â Sgrinio Llygaid Diabetig Cymru, byddant yn gallu dweud wrthych sut i optio allan o’r apwyntiadau sgrinio.
Yr arwyddion a’r symptomau y dylech edrych amdanyn nhw
Dylech ddweud wrth eich meddyg neu eich optegydd os oes gennych unrhyw rai o’r canlynol.
- Newid sydyn neu raddol i’ch golwg.
- Colli eich golwg yn sydyn mewn un llygad neu yn y ddwy.
- Gweld siapiau (brychau) neu oleuadau’n fflachio yn eich maes golwg.
- Mae eich golwg yn mynd yn niwlog heb ddim rheswm.
- Mae gennych boen llygad neu gochni yn y llygad.
Am fwy o wybodaeth, ewch i dudalen sgrinio’r llygaid diabetig.
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 25ain Chwefror 2025