Ynglŷn â sgrinio'r fron - Rhesymau dros fynd i sgrinio'r fron
Eich dewis chi yw cymryd rhan mewn sgrinio ai peidio. Mae’n bwysig eich bod chi’n deall manteision a risgiau sgrinio i’ch helpu chi i benderfynu a yw cymryd rhan yn iawn i chi.
Beth yw manteision profion sgrinio’r fron?
Mae sgrinio yn achub bywydau.
Gall sgrinio ddod o hyd i ganser y fron yn gynnar cyn y bydd modd i chi weld neu deimlo newid yn eich bron.
Bydd dod o hyd i ganser y fron yn gynnar yn rhoi’r cyfle gorau i chi oroesi.
Bydd dod o hyd i ganser y fron yn gynnar fel arfer yn golygu na fydd angen cymaint o driniaeth arnoch.
Mae’n bosibl y byddwch chi’n teimlo’n iawn hyd yn oed os bydd gennych ganser y fron gynnar.
Beth yw risgiau profion sgrinio’r fron?
Nid yw sgrinio’r fron yn dod o hyd i bob math o ganser y fron.
Mae ymbelydredd yn rhan o bob pelydr-x ac mewn achosion prin iawn, gall achosi canser. Mae mamogramau’n defnyddio maint bach iawn o ymbelydredd, tua’r un faint ag y bydd rhywun yn ei dderbyn wrth hedfan o Gymru i Awstralia ac yn ôl.
Bydd rhai canserau’n cael eu colli a bydd rhai’n datblygu rhwng apwyntiadau sgrinio. Os byddwch yn sylwi ar unrhyw newidiadau neu os oes gennych unrhyw bryderon rhwng eich apwyntiadau sgrinio, ewch i weld eich Meddyg Teulu ar unwaith yn hytrach nag aros tan eich apwyntiad sgrinio arferol nesaf.
Gofynnir i fenywod sydd ag abnormaleddau posibl ar eu mamogramau ddod yn ôl i gael rhagor o wiriadau. Ni fydd canser gan y rhan fwyaf o’r menywod hyn.
Mae’n bosibl y bydd sgrinio yn dod o hyd i ganser na fyddai’n achosi niwed i chi. Bydd yn rhaid i chi benderfynu a ydych chi am gael driniaeth.
Gall sgrinio ar y fron beri embaras, gwneud i chi deimlo ychydig yn anghyfforddus ac efallai gwneud i chi boeni.
A fydd sgrinio yn fy atal rhag cael canser y fron?
Na fydd. Dim ond os yw eisoes yno y gall sgrinio ddod o hyd i ganser.
Gallwch chi gael canser y fron ar unrhyw adeg. Mae’n bwysig siarad â’ch meddyg os byddwch chi’n gweld newid yn eich bron, hyd yn oed os byddwch chi wedi cael prawf sgrinio’r fron yn ddiweddar.
Pa mor gywir yw profion sgrinio’r fron?
Cymryd pelydrau-x o’r bronnau yw’r ffordd orau o ddod o hyd i ganser y fron yn gynnar.
Fodd bynnag, mae’n anodd iawn gweld rhai canserau ar belydrau-x y fron. Nid yw’r person sy’n darllen y pelydrau-x bob amser yn eu gweld nhw. Ni ellir gweld rhai canserau o gwbl.
Mae o leiaf dau arbenigwr yn edrych ar bob un o belydrau-x y bronnau.
Beth bynnag fo’ch oedran, os ydych chi’n poeni am newid yn y fron, siaradwch â’ch meddyg, hyd yn oed os ydych chi wedi cael prawf sgrinio’r fron.
Yr hyn sydd angen i chi ei wybod am ganser y fron sy’n rhedeg yn y teulu
Mae nifer fach o bobl mewn mwy o berygl o gael canser y fron oherwydd ei fod yn rhedeg yn eu teuluoedd.
Nid yw’r mwyafrif o ganserau’r fron yn rhedeg yn y teulu ac nid ydynt yn cynyddu’r risg y bydd aelodau eraill o’r teulu yn cael canser y fron.
Mae Bron Brawf Cymru yn gweithio gyda’r Gwasanaeth Geneteg i gynnig profion sgrinio’r fron i fenywod sydd â risg uwch o ddatblygu canser y fron.
Os ydych chi’n poeni bod canser y fron yn rhedeg yn eich teulu chi, siaradwch â’ch meddyg neu ymweld â wefan y Gwasanaeth Geneteg.
Os ydych chi’n feichiog neu’n bwydo ar y fron, rydym yn awgrymu eich bod yn siarad â ni cyn i chi gael sgrinio’r fron.
Pam mae rhai pobl yn cael eu gwahodd am ragor o brofion?
Gofynnir i oddeutu 4 o bob 100 o fenywod ddod yn ôl i gael rhagor o brofion ar ôl sgrinio. Mae hyn oherwydd bod rhywbeth wedi’i weld ar belydr-x eu bron. Nid oes gan y mwyafrif o bobl sy’n cael eu galw yn ôl am ragor o brofion ganser y fron.
Os cewch eich gwahodd yn ôl am ragor o brofion, anfonir rhagor o wybodaeth atoch am hyn.
Os cewch ddiagnosis o ganser y fron, mae dod o hyd iddo’n gynnar yn rhoi’r cyfle gorau i chi gael triniaeth lwyddiannus.
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 11eg Chwefror 2026