Neidio i'r cynnwys

Gwybodaeth sgrinio ar gyfer unigolion Trawsryweddol ac Anneuaidd - Ynglŷn â sgrinio am YAA

Pwy: Rhai pobl 65 oed  (a dros 65 os ydych yn gofyn)

Pryd: Prawf untro

Prawf: Uwchsain

Gall sgrinio am YAA (ymlediad aortig abdomenol) achub bywydau drwy ganfod chwydd (ymlediad) yn yr aorta (y prif bibell waed) yn yr abdomen.

Cysylltwch Rhaglen Sgrinio Ymlediadau Aortig Abdomenol Cymru (Need to link this contact page)

Beth mae angen i chi ei wybod am sgrinio am YAA

Os cawsoch eich rhoi yn y categori gwryw adeg eich geni, rydych chi chwe gwaith yn fwy tebygol o gael YAA na rhywun a roddwyd yn y categori benyw adeg eu geni.

Mae YAA wedi rhwygo yn llai cyffredin mewn person a roddwyd yn y categori benyw adeg eu geni, ar gyfartaledd, mae hyn yn digwydd 10 mlynedd yn ddiweddarach nag i rywun a roddwyd yn y categori gwryw adeg eu geni.

Os ydych wedi cofrestru fel gwryw gyda’ch meddyg, cewch eich gwahodd am brawf sgrinio YAA.

Os cawsoch eich rhoi yn y categori benyw adeg eich geni, gallwch ddewis a ydych eisiau cael y prawf sgrinio neu beidio.

Os nad ydych wedi cofrestru fel gwryw gyda’ch meddyg, ni chewch eich gwahodd am brawf sgrinio YAA.

Os cawsoch eich rhoi yn y categori gwryw adeg eich geni mae’n bwysig eich bod yn cael eich sgrinio. Bydd angen i chi gysylltu â’ch swyddfa sgrinio agosaf i drefnu apwyntiad addas.

Mae sgrinio am YAA yn golygu cael sgan uwchsain o’ch aorta abdomenol. Ni fydd angen i chi ddadwisgo ond bydd angen ichi godi eich top. Os ydych yn gwisgo rhwymyn (binder), mae’n bosibl y bydd y person sy’n eich sgrinio yn gallu gwneud y sgan heb orfod tynnu hwn.

Gwybodaeth gyffredinol

Rhowch wybod i Raglen Sgrinio Ymlediadau Aortig Abdomenol Cymru os hoffech apwyntiad ar ddechrau neu ddiwedd y clinig.

Os ydych chi’n poeni am fynd am brawf sgrinio YAA neu os yw YAA yn rhedeg yn eich teulu siaradwch â’ch meddyg. Os ydych chi’n ei chael hi’n anodd siarad â’ch meddyg efallai y byddwch am gael cymorth gan rywun rydych chi’n ymddiried ynddo i wneud hyn ar eich rhan.

Eich dewis chi yw cymryd rhan yn y prawf sgrinio. Os nad ydych am gael eich gwahodd i fynd am brawf sgrinio YAA bydd angen i chi gysylltu â’ch swyddfa sgrinio agosaf, a fydd yn esbonio sut y gallwch optio allan.

Pwy sydd fwyaf mewn perygl o gael YAA?

Gall YAA ddigwydd i unrhyw un, ond mae’n fwyaf cyffredin ymysg pobl a gafodd eu rhoi yn y categori gwryw adeg eu geni ac sydd dros 65 oed.

Mae mwy o berygl i chi ddatblygu YAA os:

  • yw eich pwysau gwaed yn uchel;
  • yw eich colesterol yn uchel;
  • oes gennych hanes o YAA yn eich teulu; neu
  • ydych yn smygu.

Yr arwyddion a’r symptomau y dylech edrych amdanyn nhw

Fel arfer, does dim arwyddion a symptomau ar gyfer YAA. Y ffordd hawsaf o ganfod YAA yw drwy gael sgan uwchsain syml o’r abdomen.

Am fwy o wybodaeth, ewch i dudalen sgrinio’r abdomenol.

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 25ain Chwefror 2025