Neidio i'r cynnwys

Gwybodaeth i ofalwyr a'r bobl y maent yn eu cefnogi - Paratoi ar gyfer sgrinio

Efallai y bydd angen cymorth ymarferol ar y sawl a wahoddir i gael eu sgrinio pan fyddant yn cael eu sgrinio. Gallai hyn fod oherwydd eu bod yn methu’n feddyliol neu’n gorfforol i gymryd rhan mewn sgrinio heb gymorth. 

Os oes angen rhagor o brofion arnoch, efallai y bydd rhai pobl yn gymwys i gael cymorth i deithio i’w hapwyntiad. Cysylltwch â Gwasanaethau Cludo Cleifion yn eich ysbyty lleol am ragor o wybodaeth. Efallai y byddwch hefyd yn gallu cael cymorth i deithio i apwyntiadau ar gyfer triniaeth neu brofion diagnostig. Ewch i dudalennau gwe Cynllun Costau Teithio Gofal Iechyd (Saesneg yn unig) y GIG i gael rhagor o wybodaeth.

Gwybodaeth am sgrinio llygaid diabetig, bron ac ymlediadau aortig abdomenol (YAA)

Bydd rhai rhaglenni sgrinio yn gwahodd pobl i fynd i glinig sgrinio. Os cynigir apwyntiad i chi neu’r person rydych yn ei gefnogi mewn clinig sgrinio, rhowch wybod i ni cyn yr apwyntiad os hoffech:

  • newid yr apwyntiad i amser neu ddyddiad mwy addas
  • ofyn am apwyntiad hirach
  • wirio a oes clinig mwy hygyrch
  • wirio a allwch chi ymweld â’r clinig sgrinio cyn yr apwyntiad
  • gofyn am wasanaethau cyfieithu neu gyfieithu ar y pryd
  • ofyn am wybodaeth mewn fformatau eraill, er enghraifft, Hawdd ei Ddeall, Iaith Arwyddion Prydain (BSL), sain
  • ofyn cwestiynau am gefnogi rhywun na all wneud penderfyniadau (galluedd meddyliol), neu
  • ofyn i ni am y prawf sgrinio neu dweud wrthym am unrhyw anghenion unigol eraill sydd gennych a allai effeithio ar gymryd rhan mewn sgrinio (er enghraifft, anabledd meddyliol neu gorfforol).

Mae gwasanaethau sgrinio yn gwneud pob ymdrech i sgrinio pobl sy’n mynychu a byddant yn ceisio bod mor hyblyg â phosibl.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os oes angen cymorth pellach arnoch, gallwch gysylltu â’r rhaglenni sgrinio canlynol sy’n cynnig apwyntiadau mewn clinigau sgrinio.

Ar bob un o’r tudalennau hyn gallwch lawrlwytho gwybodaeth mewn fformatau eraill, gan gynnwys Hawdd ei Ddeall, Iaith Arwyddion Prydain (BSL), sain a fideo.

Gwybodaeth am sgrinio serfigol

Pan fyddwch chi’n gwneud apwyntiad ar gyfer prawf sgrinio serfigol (ceg y groth) i chi’ch hun neu’r person rydych chi’n gofalu amdano, efallai y byddwch am wirio gyda’r feddygfa:

  • y gallant gynnig apwyntiad hirach
  • bod clinig mwy hygyrch ar gael, neu
  • a fedrwch ymweld â’r clinig cyn yr apwyntiad.

Rhowch wybod i’r feddygfa os ydych:

  • angen newid yr apwyntiad i amser neu ddyddiad mwy addas
  • eisiau gwasanaethau cyfieithu neu gyfieithu ar y pryd, neu
  • os oes gennych unrhyw gwestiynau am gefnogi rhywun na all wneud ei benderfyniadau ei hun (galluedd meddyliol).

Siaradwch â’ch meddyg neu nyrs cyn yr apwyntiad os oes gennych chi neu’r person rydych yn ei gefnogi unrhyw gwestiynau am y prawf sgrinio neu os oes gennych unrhyw anghenion unigol eraill a allai effeithio ar gymryd rhan mewn sgrinio (er enghraifft, anabledd meddyliol neu gorfforol).

Os hoffech gysylltu â ni i ddweud wrthym am eich profiad o Sgrinio Serfigol Cymru gallwch gysylltu â ni.

Ar dudalen Sgrinio Serfigol Cymru gallwch lawrlwytho gwybodaeth mewn fformatau eraill, gan gynnwys Hawdd ei Ddeall, Iaith Arwyddion Prydain, sain a fideo.

Gwybodaeth am sgrinio coluddion

Os ydych chi’n helpu rhywun i wneud eu pecyn prawf cartref ar gyfer sgrinio’r coluddyn efallai y byddwch am wneud y canlynol:

  • darllen y daflen Gwybodaeth i ofalwyr 
  • gwylio’r fideo byr hwn (Saesneg yn unig) sy’n dangos i chi sut i gwblhau’r prawf 
  • cysylltu â’r llinell gymorth os oes gennych unrhyw gwestiynau am gefnogi rhywun na all wneud penderfyniadau (galluedd meddyliol), a
  • siarad â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau am y prawf sgrinio neu os oes angen cymorth pellach arnoch.

Os ydych yn weithiwr gofal neu’n ddarparwr gofal, darllenwch y llyfryn gwybodaeth ar gyfer cartrefi gofal.

Os ydych chi’n gwneud eich pecyn prawf cartref eich hun ar gyfer sgrinio’r coluddyn, gallwch wneud y canlynol:

  • cysylltu â’r llinell gymorth os oes gennych unrhyw gwestiynau am y pecyn prawf neu gwblhau eich prawf 
  • gwylio’r fideo byr hwn (Saesneg yn unig) sy’n dangos i chi sut i gwblhau’r prawf, a 
  • siarad â ni os oes gennych unrhyw gwestiynau am y prawf sgrinio neu os oes angen cymorth pellach arnoch.

Os hoffech chi gysylltu â ni i ddweud wrthym am eich profiad o Sgrinio Coluddion Cymru gallwch chi gysylltu â ni.

Ar dudalen Sgrinio Coluddion Cymru gallwch lawrlwytho gwybodaeth mewn fformatau eraill, gan gynnwys Hawdd ei Ddeall, Iaith Arwyddion Prydain, sain a fideo.

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 11eg Chwefror 2026