Ein strategaeth hirdymor 2023 i 2035 - Adran 4 – Ein blaenoriaethau
Mae’r adrannau canlynol yn nodi ein blaenoriaethau o ran y strategaeth hon. Mae’r blaenoriaethau wedi’u llywio gan iechyd yng Nghymru, ffactorau a bygythiadau byd-eang ehangach, a deddfwriaeth a pholisi allweddol. Mae ein risgiau strategol hefyd wedi chwarae rhan allweddol wrth ddatblygu ein blaenoriaethau.
Mae cyflawni ein chwe blaenoriaeth yn cydnabod pwysigrwydd:
- atal sylfaenol (lleihau nifer yr achosion o glefydau);
- atal eilaidd (canfod camau cynnar clefyd ac ymyrryd cyn i symptomau llawn ddatblygu); ac
- atal trydyddol (rheoli clefyd ar ôl diagnosis i arafu neu atal ei ledaeniad).
Mae hyn wedi’i adlewyrchu, lle y bo’n berthnasol, o fewn cwmpas pob blaenoriaeth.
Mae pob blaenoriaeth yn cael ei hategu gan ein hymrwymiad i leihau anghydraddoldebau iechyd. Byddwn yn defnyddio’r pum ffordd o weithio a nodwyd yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 i’n helpu i roi pob blaenoriaeth ar waith, gan gynnwys drwy weithio gyda’n partneriaid.
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 30ain Rhagfyr 2025