Neidio i'r cynnwys

Ein strategaeth hirdymor 2023 i 2035 - Adran 5 – Rhoi ein strategaeth ar waith

Byddwn yn rhoi ein strategaeth ar waith drwy ddatblygu atebion digidol sy’n diwallu anghenion pobl. Byddwn yn canolbwyntio ar ddulliau arloesol sy’n gweithio, gan roi’r rhai sy’n defnyddio ein gwasanaethau wrth wraidd yr hyn a wnawn, a chanolbwyntio’n gyson ac yn barhaus ar wella ansawdd ein gwasanaethau.

Bydd y Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru), yn enwedig y ‘ddyletswydd ansawdd’ a’r ‘ddyletswydd gonestrwydd’, yn ffactor allweddol wrth roi ein strategaeth ar waith. Bydd nifer bach o strategaethau a dulliau eraill yn ategu hyn.

Strategaeth Pobl

Mae ein Strategaeth Pobl yn nodi ein gweledigaeth ar gyfer pawb sy’n gweithio i ni (neu sydd am weithio i ni) a’n rôl wrth gynorthwyo’r gwaith o ddatblygu gweithlu’r system iechyd cyhoeddus ehangach. Ein nod yw datblygu gweithlu hyblyg, cynaliadwy a ffyniannus sy’n gallu cyflawni ein Strategaeth Hirdymor yn llwyddiannus, ac sy’n awyddus i wneud hyn.

Gwnaethom lansio ein Strategaeth Pobl ym mis Mawrth 2020 ac rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol gyda’r naw thema sy’n rhan o’r strategaeth. Yn ystod 2023, byddwn yn eu haddasu i sicrhau eu bod yn gyson â’n blaenoriaethau newydd a strategaethau allweddol eraill.

Strategaeth Ddigidol a Data

Bydd ein Strategaeth Ddigidol a Data yn defnyddio’r dechnoleg fodern y mae pobl yn ei disgwyl ac yn gwneud gwell defnydd o’r wybodaeth sydd gennym ni ac eraill er mwyn darparu’r effaith fwyaf ar ganlyniadau iechyd a llesiant yng Nghymru. Rydym hefyd wedi datblygu’r pum prif egwyddor ddigidol ganlynol i arwain ein gwaith.

  • Anghenion defnyddiwr yn gyntaf: Mae pobl a’u hanghenion wrth wraidd yr hyn rydym yn ei wneud.
  • Hygyrch a chyfartal: Gall pawb y mae angen ein gwasanaethau arnynt ddod o hyd iddynt a’u defnyddio.
  • Yn agored yn ddiofyn: Drwy rannu’n agored ac yn dryloyw, rydym yn cynyddu gwerth ein gwasanaethau ac yn ennyn ymddiriedaeth eraill.
  • Effeithlon: Rydym yn ailddefnyddio’r hyn y gallwn ac yn profi ein rhagdybiaethau cyn i ni eu cyflawni.
  • Canolbwyntio ar bobl: Rydym yn gwerthfawrogi’r bobl sy’n adeiladu ac yn rhedeg ein gwasanaethau.

Bydd ein Strategaeth Ddigidol a Data yn canolbwyntio ar nifer o brif feysydd, gan gynnwys adeiladu ar seiliau cadarn, sicrhau ein bod yn cyflawni ein blaenoriaethau, ac yn gwella iechyd cyhoeddus drwy dechnoleg ddigidol.

Strategaeth Ymchwil a Gwerthuso

Ein nod yw bod yn sefydliad dysgu a datblygu eithriadol sy’n trawsnewid iechyd cyhoeddus drwy ganolbwyntio ar ymchwil a gwerthuso a fydd yn helpu i wneud gwahaniaeth i ymarfer. Mae ein hegwyddorion ymchwil a gwerthuso fel a ganlyn:

  • Yn agored yn ddiofyn: Datblygu a rhannu meysydd o ddiddordeb ymchwil,​ cyhoeddi allbynnau wedi’u targedu at anghenion y rhai sy’n defnyddio ein gwasanaethau​, a bod yn glir ynghylch yr hyn rydym yn ei arwain neu ei gefnogi.
  • Cynhwysol: Cynllunio dulliau ac atebion gyda chymunedau wrth weithio gyda nhw, casglu a gwerthuso gwybodaeth am gydraddoldebau, a gweithio gyda chymunedau i gynnwys y rhai nad ydynt yn ymddiried ynom.
  • Amlddisgyblaethol: Dathlu amrywiaeth ein gwaith a chyfuno’r sgiliau a’r arbenigedd amrywiol sydd ei angen arnom, gan arwain at fodel ar y cyd o ymchwil a gwerthuso.
  • Dylanwadol: Arwain ein cyllidwyr i fynd i’r afael â bylchau mewn tystiolaeth, ymchwil a gwerthuso sydd eu hangen i’n helpu i gyflawni ein nodau iechyd.
  • Cydgysylltiedig: Sicrhau bod gennym safonau a rennir ar gyfer cynnyrch a phecyn clir a chynhwysfawr o ymchwil, a’n bod yn gweithio gydag eraill i ddarparu ein gwasanaethau.
Strategaeth Iechyd Rhyngwladol

Nod ein Strategaeth Iechyd Rhyngwladol yw:

  • dod â gweithgarwch iechyd rhyngwladol a byd-eang ynghyd i ddangos ein gwaith da a dathlu arferion da a llwyddiannau;
  • cryfhau gweithgareddau, cyfleoedd a phartneriaethau iechyd rhyngwladol presennol a helpu i ddatblygu rhai newydd;
  • helpu i ddarparu cyfleoedd ar gyfer datblygu proffesiynol a recriwtio a chadw staff, gan gynorthwyo’r sefydliad fel gweithle sy’n ysbrydoli; a
  • hyrwyddo a chryfhau rôl ac effaith arweiniol Cymru ar y llwyfan rhyngwladol.

Ein gweledigaeth iechyd rhyngwladol yw i fod yn sefydliad iechyd cyhoeddus cenedlaethol sydd wedi’i gysylltu’n fyd-eang ac sy’n ysbrydoli, gan weithio tuag at Gymru iachach a thecach i fynd i’r afael â heriau byd-eang a nodau cyffredin.

Ymgysylltu â phobl a chymunedau

Mae ein dogfen Ein Dull o Ymgysylltu yn trafod amrywiaeth eang o weithgareddau i gynnwys pobl, o unigolion a chymunedau yn rhannu eu profiadau, i gymunedau sy’n unedig ar bwnc penodol, hyd at roi ffyrdd i bobl ddylanwadu ar faterion sy’n effeithio arnynt.

Byddwn yn canolbwyntio ar gynnwys a chydweithio – dau o’r ffyrdd o weithio a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Rhaid i’n dull roi pobl wrth wraidd ein gwaith.

Gwyddor ymddygiad

Bydd ein Huned Gwyddor Ymddygiad yn darparu arbenigedd ac yn ein galluogi i ddefnyddio gwyddor ymddygiad yn rheolaidd er mwyn gwella a diogelu iechyd a llesiant pobl. Bydd cynorthwyo ac arwain ein rhanddeiliaid ac ychwanegu at eu galluoedd yn helpu i newid yn sylweddol sut rydym yn cyflawni ein blaenoriaethau.

Strategaeth Cyllideb

Bydd ein Strategaeth Cyllideb yn ein cynorthwyo drwy annog cynaliadwyedd ariannol, gwelliant a gwerth. Byddwn yn sicrhau bod ein hadnoddau’n cyd-fynd â’n blaenoriaethau a byddwn yn parhau i aros yn sefydlog yn ariannol o fewn amgylchedd allanol heriol. Byddwn yn herio ein hunain i sicrhau ein bod yn sicrhau’r gwerth gorau i bobl Cymru, a’n rhanddeiliaid, drwy ddefnyddio ein hadnoddau’n effeithlon ac yn effeithiol.

Ansawdd fel Strategaeth Sefydliadol

Ein nod yw bod yn enghraifft berffaith o sefydliad mewn perthynas ag ansawdd, gwella ac arloesi. Byddwn yn defnyddio’r gwerthoedd hyn wrth roi ein strategaeth newydd ar waith. Mae Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) 2020 yn ategu’r nod hwn, yn enwedig ei dyletswyddau ansawdd a gonestrwydd.

Nod Ansawdd fel Strategaeth Sefydliadol yw helpu sefydliad i ddarparu gwasanaethau a chynnyrch sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr ac yn helpu i greu amgylchedd lle gall ein staff fwynhau eu gwaith ac ymfalchïo ynddo.

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 30ain Rhagfyr 2025