Cyngor iechyd y geg ar gyfer rieni a gofalwyr - Mynd at y deintydd
Mae gwybodaeth i ddod o hyd i ddeintydd ar gael trwy GIG 111 Cymru – Gwasanaethau Lleol: Llinellau Cymorth Deintyddol.
Nid yw sgrinio deintyddol bellach yn cael ei gynnig mewn meithrinfeydd ac ysgolion. Rydym yn argymell eich bod yn mynd â’ch plentyn i bractis deintyddol yn rheolaidd ar gyfer archwiliadau.
Gall y tîm deintyddol roi cyngor ar sut orau i ofalu am ddannedd eich plentyn i’w diogelu rhag pydru. Bydd y tîm hefyd yn gwirio dannedd eich plentyn am arwyddion pydredd, ac yn rheoli hyn os oes angen.
Mae nifer o bethau eraill y gall y tīm deintyddol eu gwneud i helpu i ddiogelu dannedd eich plentyn, gan gynnwys rhoi farnais fflworid ar ei ddannedd.
Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 25ain Medi 2025