Neidio i'r cynnwys

Cwestiynau cyffredin Sgrinio Serfigol - Colposgopi a thriniaeth

Beth fydd yn digwydd os caf ddiagnosis o ganser ceg y groth?

Mae cael diagnosis o unrhyw fath o ganser yn frawychus. Mae Cancer Research UK (Saesneg yn unig) yn cynnig llawer o wybodaeth a chymorth.

Mae modd trin rhai canserau ceg y groth cynnar iawn yn y clinig colposgopi. Fodd bynnag, mae’n bosibl y bydd y colposgopydd yn argymell ymchwiliad pellach a bydd yn eich cyfeirio at arbenigwr canser.

Os ydych yn byw yng Nghymru a’ch bod yn cael diagnosis o ganser ceg y groth, bydd Sgrinio Serfigol Cymru yn edrych ar eich hanes sgrinio. Mae hyn yn golygu edrych ar:

  • Unrhyw brofion sgrinio serfigol (ceg y groth) a gawsoch yn ystod y 10 mlynedd cyn cael eich diagnosis
  • Unrhyw fiopsïau serfigol a gawsoch yn ystod y 10 mlynedd cyn cael eich diagnosis
  • Unrhyw apwyntiadau colposgopi yn ystod y 10 mlynedd cyn cael eich diagnosis
  • Unrhyw wahoddiadau, llythyrau neu ganlyniadau a anfonwyd atoch yn ystod y 10 mlynedd cyn cael eich diagnosis

Os oes unrhyw ganlyniadau i ni eu hadolygu, byddwn yn rhoi gwybod i’r meddygon sy’n gofalu amdanoch pan fydd yr adolygiad wedi dod i ben.

Os hoffech wybod canlyniadau eich adolygiad, gallwch roi gwybod i ni. Byddwn yn trefnu cyfarfod i roi gwybod i chi am y canlyniadau ac i ateb unrhyw gwestiynau eraill sydd gennych.

Adolygwyd y dudalen hon ddiwethaf: 17eg Chwefror 2026